Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr
Iechyd yr Amgylchedd, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, adroddiad i’r Pwyllgor
yn amlinellu’r heriau yn sgil COVID-19 a sut y blaenoriaethir y gwaith ar hyn o
bryd. Rhoddodd fraslun o’r fframwaith
deddfwriaethol a’r gwaith gorfodi o ran tipio anghyfreithlon, o ran rheoliadau
RIPA ar fonitro â chamerâu, a’r rheoliadau parthed perchnogaeth tir a’r
cyfrifoldeb dros ymdrin â thipio anghyfreithlon ar dir preifat.
Nodwyd bod y Cyngor yn
monitro lleoliadau lle ceir trafferthion (gorfodi rhagweithiol) yn ogystal ag
ymchwilio i gwynion a ddaw i law (gorfodi adweithiol). Nodwyd bod 375 o
achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yn 2020-2021 a bod 106 o
ddigwyddiadau wedi'u cofnodi hyd yma eleni (rhwng 1 Ebrill ac 18 Awst 2021). Yn
2020-2021 cyhoeddwyd 2 hysbysiad cosb benodedig yn sgil gorfodi rhagweithiol, a
dim un yn sgil gorfodi adweithiol, sef gostyngiad ar y blynyddoedd
blaenorol. Cyflwynwyd un rhybudd yn
2020-2021 yn sgil gorfodi rhagweithiol.
Hefyd mae’r adroddiad yn
rhoi braslun o’r cydweithio gyda ‘Cadwch Gymru'n
Daclus’, Caru Ceredigion ac Awdurdodau lleol cyfagos.
Cododd yr Aelodau y
pwyntiau canlynol:
·
Nododd yr Aelodau fod pryderon ynghylch tipio anghyfreithlon wedi'u codi
drwy CLIC, ond bu diffyg o ran yr ymateb. Gofynnon nhw hefyd am rannu â'r holl
Gynghorwyr gopi o'r matrics sy'n amlinellu lle mae'r cyfrifoldeb yn
gorwedd. Nododd swyddogion y byddent yn
ymchwilio i'r mater ac yn darparu copïau o'r matrics.
·
Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd gosod camerâu
cylch cyfyng ar gefnffyrdd a thir preifat. Cadarnhaodd y swyddogion nad oes
gyfyngiadau, tra bod cytundeb gyda pherchennog y tir.
·
Gofynnodd yr Aelodau a ellid defnyddio mwy o dechnoleg i fonitro’r sbwriel
a adewir wrth ochr sgipiau,
neu a ellid darparu sgipiau sydd ag agoriad ar yr
ochr yn hytrach na gorfod taflu eitemau dros y top.
·
Nododd yr Aelodau nad yw Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn gwaredu
ag eitemau a dipiwyd yn anghyfreithlon hyd nes bod aelod o'r tîm Diogelu'r
Cyhoedd yn archwilio'r cynnwys. Gofynnwyd a ellid symud yr eitemau i Benrhos neu Glanyrafon i'w
harchwilio. Nododd swyddogion eu bod yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r tîm
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i adolygu pryderon megis cyflwyno
gwastraff yn gynnar, ac y byddant yn codi'r mater hwn gyda nhw.
·
Awgrymodd yr Aelodau fod y Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn cyhoeddi gwybodaeth
ynghylch hysbysiadau cosb benodedig er mwyn addysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o
hyn. Nododd y Swyddog y byddent yn ystyried hyn.
·
Awgrymodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cael ei rannu â Chynghorau Tref a
Chymuned, er mwyn iddynt fedru cyfrannu.
·
Nododd yr Aelodau fod nifer o gwynion yn dod i law ynglŷn â diffyg
biniau, ond mae llawer o fusnesau tecawe bellach yn
defnyddio cardbord sy'n llenwi'r biniau'n gyflymach
na phapur. Gofynnwyd felly a ellid gwneud unrhyw beth o ran gofyn i fusnesau
gyflenwi eu biniau eu hunain. Nododd y
Swyddog fod cydlynydd 'Cadwch Gymru'n Daclus' wedi'i
benodi'n ddiweddar ac y byddent yn gofyn iddi hi rannu'r neges hon gyda
swyddogion eraill ledled Cymru i'w hystyried fel prosiect.
Yn dilyn cwestiynau gan
Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: