Cofnodion:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol gyflwyniad a dangosodd fideo ar y Strategaeth Gydol Oes a
Llesiant 2021 – 2027 a’r Cynllun Gweithredu.
Esboniwyd fod y
strategaeth hon yn rhan allweddol o Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir
Ceredigion, sef y ddogfen sy’n dangos prif flaenoriaethau’r Cyngor. Nod y
blaenoriaethau yw galluogi gwasanaethau a fydd yn gwella lles cymdeithasol,
economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Ceredigion. Mae rhoi cymorth a chefnogaeth i’r holl
oedrannau ac anghenion gwahanol yn her sylweddol i’r Cyngor gydag adnoddau
cyfyngedig. Mae proffil y gymdeithas a demograffeg wedi newid cryn dipyn dros y
degawd diwethaf gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o gamddefnyddio
sylweddau, iechyd meddwl gwael a cham-drin domestig ynghyd â chynnydd yn nifer
y grwpiau oedran hŷn sy’n byw yng Ngheredigion. O ganlyniad, mae’r galw am
rai gwasanaethau wedi cynyddu gan roi mwy o bwysau ariannol ar y meysydd
gwasanaeth hynny. Yn ogystal, mae lefelau diweithdra ynghyd â lefelau incwm
isel wedi esgor ar fwyfwy o anawsterau i bobl gael mynediad at dai diogel,
fforddiadwy.
Nododd y Pwyllgor y
cytunwyd yn 2017 i gynnal adolygiad systematig o'r holl strwythurau a’r meysydd
gwasanaeth i sicrhau bod gan wasanaethau’r Cyngor y gallu i gyflawni
blaenoriaethau'r Cynlluniau a'r Amcanion Corfforaethol.
Mae’r gwaith o
drawsnewid gwasanaethau wedi mynd rhagddo'n dda a'r
newid mawr olaf yw integreiddio gofal cymdeithasol a dysgu gydol oes i mewn i’r
tri gwasanaeth sef Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal. Y rhain,
ynghyd â Chyswllt â Chwsmeriaid, yw'r pedwar prif faes sy'n dod o fewn rhaglen
newid Gydol Oes a Llesiant.
Dechreuodd y gwaith o
ailstrwythuro'r gwasanaethau hyn yn ffurfiol yn niwedd 2019 drwy weithredu
strwythur y Rheolwyr Corfforaethol ar draws y gwasanaethau. Gohiriodd y pandemig y cynnydd gyda hyn yn ystod 2020 ond bwrwyd ymlaen â’r gwaith o fis Medi 2020 ymlaen. Cydnabuwyd
bod angen strategaeth glir i yrru a rhannu'r angen am newid a sut i gyflawni
hynny. Cynhaliwyd gweithdai gyda’r
aelodau a rhoddwyd y newyddion diweddaraf iddynt drwy gydol y cyfnod o
newid. Ymgysylltwyd ac ymgynghorwyd â’r
Staff a’r Undebau Llafur ar bob adeg o'r broses.
Ar ddechrau'r rhaglen
crëwyd gweledigaeth a oedd yn adlewyrchu'r rhaglen uchelgeisiol o newid:
‘Sicrhau bod pob
plentyn, person ifanc ac oedolyn yng Ngheredigion yn gallu cyrraedd ei lawn
botensial. Sicrhau mynediad teg i bawb i wasanaethau cyffredinol a phwrpasol
rhagorol sy'n cefnogi iechyd a lles pob dinesydd. Datblygu sgiliau a chydnerthedd
a fydd yn para am oes ac yn galluogi unigolion i ymdopi'n dda â'r heriau a'r
pwysau y dôn nhw ar eu traws.’
Mae'r Strategaeth Gydol
Oes a Llesiant yn egluro'r weledigaeth a'r dulliau a gymerir i drawsnewid y
gwaith o gefnogi llesiant a diogelwch pobl Ceredigion, gan roi amserlen o 2021
hyd 2027 i gyflawni'r newidiadau.
Mae'r strategaeth yn
disgrifio'r trywydd y bydd y Cyngor yn ei ddilyn, ar y cyd â'i bartneriaid, i
drawsnewid ei ffordd o weithio. Mae'n cynnig cyd-destun strategol ar gyfer y
gwaith yn y dyfodol o gomisiynu, darparu gwasanaethau, rheoli gofal a rôl y
Cyngor wrth integreiddio gwasanaethau. Mae'r strategaeth yn nodi sut y byddwn
yn:
• Rhoi Model cyflenwi newydd ‘Gydol Oes a
Llesiant’ ar waith
• Lleihau'r galw ar ofal a chymorth a reolir gan
gyfeirio adnoddau tua’r rhai sydd arnynt eu hangen fwyaf
• Cefnogi ein gweithlu i ddatblygu dull newydd o
gefnogi unigolion yng Ngheredigion
• Canolbwyntio ar wasanaethau ataliol sy'n helpu pobl
i gadw’n annibynnol neu i adennill yr annibyniaeth y maen nhw’n ei chwennych
• Darparu gwasanaethau o fewn y gyllideb
• Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu system
iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol fwy cydgysylltiedig
Mae'r Strategaeth yn
tynnu sylw at bum amcan allweddol, ac mae'r rhain yn seiliedig ar ddeuddeg maes
penodol sy'n ystyried pam fod ar deuluoedd ac unigolion angen gwybodaeth,
cyngor, cymorth neu ofal.
Diben y Cynllun
Gweithredu yw amlinellu'n glir yr hyn sy'n ofynnol dros y tair blynedd nesaf (a
thynnu sylw at yr hyn sy'n debygol yn y blynyddoedd wedi hynny) i fynd i'r
afael â'r achosion sylfaenol. Bydd hyn er mwyn bodloni pum amcan allweddol y
Strategaeth ac, ar y cyd â'n partneriaid, ail-gydbwyso gofal a chymorth fel bod
gwasanaethau cynaliadwy yn cael eu darparu yng Ngheredigion.
Pwysleisiodd aelod mor
bwysig yw sicrhau bod gofal dementia yn parhau i fod yn flaenoriaeth a bod yr
awdurdod lleol yn cydweithio'n agos gyda maes iechyd i sicrhau bod gofal yn
aros o fewn y Sir.
Mynegwyd bod angen gwell
cyfathrebu rhwng y gwasanaethau a CLIC i sicrhau bod Cynghorwyr a thrigolion yn
cael adborth ynghylch pryd y bydd y materion a godir gyda CLIC yn cael eu
datrys. Nodwyd bod 'diweddariad ar
Wasanaethau Cwsmeriaid CLIC' yn eitem agenda y bwriedir ei chyflwyno i’r
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 14 Hydref 2021. Cytunodd yr Aelodau y dylid canmol holl staff
CLIC am eu hymrwymiad a'u gwaith caled.
Tynnwyd sylw at
ymyrraeth gynnar ac atal fel elfen allweddol am ei bod yn debygol y bydd galw
cynyddol ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn dilyn yr amharu a fu yn
sgil Covid-19.
Yn dilyn cwestiynau gan
Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r
Strategaeth Gydol Oes a Llesiant 2021 – 2027 a’r Cynllun Gweithredu, yn
ddibynnol ar ystyried yr argymhelliad canlynol:
• Bod gwell cyfathrebu rhwng gwasanaethau’r Awdurdod Lleol a
gwasanaeth CLIC yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd
i’r Swyddog am fod yn bresennol ac am gyflwyno yn eglur a chryno.
Dogfennau ategol: