Cofnodion:
Bu cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cymunedau Iachach yn arsylwi
ar gyfarfod o Gyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru ar 25 Mai 2021. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y prif faterion a drafodwyd yng Nghyfarfod Cyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Roedd rhan
fwyaf y materion hyn yn gysylltiedig
â Covid-19. Mynegwyd pryder
dybryd ynghylch y ffaith bod 30,000 o bobl erbyn hyn ar
restr aros Hywel Dda.
Roedd yr Aelodau
wedi codi’r cwestiynau canlynol:
Cwestiwn:
Ceir pryderon nad yw cleifion
yn medru gweld eu meddygon
teulu. Mewn rhai achosion, dim ond asesiad dros
y ffôn sydd ar gael iddynt. Sut mae gwella’r sefyllfa hon?
Ymateb:
Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol – Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda
Mae mwyafrif y meddygfeydd
teulu yn dal i weithredu model brysbennu ar gyfer
apwyntiadau Gofal Sylfaenol, sy'n golygu bod cleifion yn cyrchu gwasanaethau
dros y ffôn neu trwy e-bost
yn y lle cyntaf. Rhaid i feddygfeydd
gydbwyso anawsterau cadw pellter cymdeithasol
i gadw cleifion
yn ddiogel â'r angen i
sicrhau apwyntiadau wyneb yn wyneb
lle bo
angen. Felly bydd clinigwr yn
cytuno â'r claf ar y canlyniad
mwyaf priodol iddo yn dilyn
brysbennu dros y ffôn. Gallai hwn fod
yn ymgynghoriad o bell a fydd yn cyfeirio
at wasanaeth arall, neu'n apwyntiad wyneb yn wyneb
â chlinigydd. Os yw claf
yn teimlo ei fod yn
cael anhawster cael gafael ar
wasanaethau yn ei bractis, yna
byddem yn ei annog i
gysylltu â thîm Pryderon Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 0200 159.
Dylai cleifion
ddisgwyl y bydd y modelau cyrchu gwasanaethau yn newid fel eu
bod yn gwneud mwy o ddefnydd o ymgyngoriadau digidol ac o bell yn rhan o fodel
y dyfodol; fodd bynnag, bydd y cleifion hynny y mae'n ofynnol iddynt
gael apwyntiadau
wyneb yn wyneb yn gallu
cael apwyntiadau o'r fath.
Cwestiwn:
Mae nifer o bobl
yn gofyn a fydd yn rhaid
iddynt gael
brechlyn bob blwyddyn i’w hamddiffyn nhw rhag amrywiolynnau
newydd COVID-19. Mae rhai yn poeni wedi
iddynt glywed bod pobl wedi marw
ar ôl cael
eu heintio gan amrywiolyn Delta. Sut ydych chi’n
paratoi ar gyfer hyn?
Ymateb:
Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus / Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda ar ran
Ros Jervis, Cyfarwyddwr
Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda
Rydym yn
aros am arweiniad cenedlaethol ynghylch a fydd rhaglen frechu
COVID-19 yn flynyddol, ac i bwy.
Ar hyn o
bryd rydym yn paratoi ar
gyfer nifer o senarios, gan gynnwys
- Brechiad blynyddol ar gyfer holl
boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a roddir gyda
brechlynnau ffliw (os cymeradwyir hyn).
- Brechiad blynyddol ar gyfer holl
boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a roddir o leiaf 7 diwrnod.
- Brechiad blynyddol i'r rhai sydd
fwyaf mewn perygl (grwpiau JCVI 1-9) ar wahân a gyda
brechlynnau ffliw.
- Gwahanol linellau amser posibl ar
gyfer dosau atgyfnerthu, gan gynnwys y posibilrwydd o ddosau atgyfnerthu 6 mis-3 blynedd.
Mae'r Bwrdd
Iechyd wedi'i baratoi'n dda ar
gyfer llawer o senarios gan fod
gennym 7 safle brechu torfol gweithredol
a pherthynas dda â gofal sylfaenol ynghylch cyflenwi.
Mae'n anodd
iawn i ni gynnig unrhyw beth mwy
pendant ar hyn o bryd gan nad
ydym yn gwybod
beth fydd y gofyn yn genedlaethol.
Cwestiwn
Mae nifer o bobl wedi
mynegi pryderon ynghylch yr anawsterau
sy’n codi wrth gasglu presgripsiynau
o’r fferyllfa pan fyddant eu hangen.
Yn aml mae’n
rhaid iddynt aros wythnos ar
ôl i’r meddyg
anfon y presgripsiwn i’r fferyllfa. Mae un fferyllfa wedi
mynegi pryder bod Brexit wedi achosi
anawsterau wrth geisio cael moddion
o’r Undeb Ewropeaidd.
Beth sy’n achosi’r problemau
ac a fydd pethau’n gwella?
Ymateb:
Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor a Jenny Pugh-Jones, Pennaeth
Rheoli Meddyginiaethau. Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda
Dros y 3 i 4 blynedd diwethaf,
bu heriau cynyddol i fferyllfeydd
cymunedol sicrhau meddyginiaethau i gyflawni presgripsiwn i'n cleifion. Nid oes un rheswm
dros hyn ond mae nifer
o bethau sy'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi. Mae fferyllfeydd yn gwneud pob
ymdrech i ddod o hyd i
feddyginiaethau gan ystod o gyflenwyr, gan dreulio oriau
lawer yn mynd ar ôl
cwmnïau i sicrhau cyflenwadau.
Mae'r farchnad
gyflenwi ar gyfer meddyginiaethau yn hynod gymhleth
ac fel marchnad fyd-eang mae
digwyddiadau a all ddigwydd ledled y byd yn dylanwadu
arni. Rwyf wedi ceisio
crynhoi rhai o'r ffactorau:
a) Mae cwmnïau'n aml
yn dewis cyfyngu faint o gyflenwad i fferyllfa ar
sail ei ddefnydd misol ar gyfartaledd. Mae hyn yn achosi problemau
lle gallai fferyllfa gael
defnydd ychwanegol un mis, gan achosi’r
angen i ddarparu
‘tocyn dyledus’ sy’n ei gwneud
yn ofynnol i’r claf alw
yn ôl eto
am weddill ei bresgripsiwn. Er bod hyn yn
cael ei nodi'n
gyson fel mater ar lefel genedlaethol
y DU, mae cwmnïau'n
rhydd i benderfynu
faint o'u stoc sy'n cael ei
gyfeirio at ba wlad.
b) Gwneir cynhyrchion generig a llawer o'r cynhyrchion brand mewn nifer o wledydd
ond yn aml
gan nifer fach o weithgynhyrchwyr. Pan fydd
gwneuthurwr yn derbyn arolygiad ac yn ofynnol iddo
wneud gwelliannau ar unwaith, gallai
hyn arwain at nifer o gynhyrchion ddim ar gael
am sawl mis mwyach. Mae hyn yn digwydd
yn gymharol aml ac yn achosi
problemau cyflenwi sylweddol ledled y byd. Gall un uned
wneud yr un cynhyrchion ar gyfer ystod o gwmnïau
c) Mae'n anodd darganfod
a oes unrhyw un o'r prinder
a'r oedi cyfredol yn gysylltiedig
â Brexit gan nad yw'r rhain
yn faterion newydd. Nid wyf yn
ymwybodol bod hyn wedi gwaethygu dros yr ychydig
fisoedd diwethaf, er yn ddi-os
bydd rhai cyffuriau sy'n cael eu heffeithio
gan newidiadau i reoliadau mewnforio
ond yn gyffredinol
rwy'n deall bod y llwybrau hyn yn
glir oherwydd natur dyngedfennol meddyginiaethau.
Ni allaf roi
unrhyw arwydd o pryd y bydd hyn
yn gwella, ond gallaf roi
sicrwydd bod fferyllfeydd yn gwneud popeth
o fewn eu gallu i gynnal
cyflenwad i gleifion. Yn aml, byddant
yn cysylltu â meddygon teulu i awgrymu / cytuno
ar ddewis arall tebyg i'r
feddyginiaeth ar y presgripsiwn. Maent yn aml
yn ‘benthyg’ oddi wrth ei
gilydd i ateb gofynion, gan gynnwys ar
gyfer ceisiadau anarferol neu frys
gan fferyllfeydd yr ysbyty hefyd.
Dywedodd y Swyddog
Craffu fod y cylch gorchwyl yn nodi y dylai
hyd at dri Aelod Craffu o bob cyngor, gan gynnwys,
er enghraifft, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu / y cynullydd fod yn rhan
o’r Gweithgor Craffu. Serch hynny,
roedd y trefniant hwn yn un
hyblyg.
Yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y byddai’r aelodau canlynol yn cynrychioli
Ceredigion:
• Y Cadeirydd: Y Cynghorydd Bryan
Davies
• Yr Is-gadeirydd: Y Cynghorydd Lyndon Lloyd
• Y Cadeirydd Blaenorol: Y Cynghorydd Mark Strong
• Cynrychiolydd o’r Grŵp Annibynnol: Y Cynghorydd Keith Evans
Dogfennau ategol: