Eitem Agenda

Adroddiad Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Annibynnol 1.10.2020 - 21.12.2020

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal                                     Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar gyfer Chwarter 3 2020/2021.  Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol.  Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn / person ifanc o ran bodloni ei anghenion a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal.  Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn / person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol er mwyn derbyn cyngor cyfreithiol / cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw.

 

Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn / person ifanc a gallai gyfeirio'r achos at CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw adolygiad yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant a Diwylliant, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd modd nodi unrhyw batrymau o ran yr hyn oedd yn digwydd yn y trefi o gymharu â’r ardaloedd gwledig. Hefyd, bu iddynt ofyn sut oedd ein proffil oedran ni yn cymharu ag Awdurdodau eraill. Wrth ymateb, dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol nad oedd dim gwahaniaeth rhwng y trefi a’r ardaloedd gwledig ac mai dynameg y teulu oedd yn aml i gyfrif. Roedd y proffil oedran yng Ngheredigion yn unol â’r hyn oedd i’w ddisgwyl. Roedd canran y plant iau yn uwch oherwydd eu bregusrwydd a’u hanghenion uwch o ran gofal.  

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet sicrwydd i’r Pwyllgor fod esboniadau rhesymol paham nad oedd 8 o’r targedau wedi’u cyflawni yn ystod y chwarter hwn.  Roedd yr esboniadau hyn yn cynnwys nifer y staff. Hefyd, roedd llai wedi cael eu gweld gan ddeintydd am fod y deintyddion ar gau am gyfnod hir oherwydd  Covid-19. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod prinder gofalwyr maeth yn y Sir a dywedwyd y dylai unrhyw un sy’n addas gael ei annog i wneud cais i ddod yn ofalwr maeth. 

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad a lefelau’r gweithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.

Dogfennau ategol: