Eitem Agenda

Diweddariad ar y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor

Cynigiwyd gan: Cyng. Mark Strong

Eiliwyd gan: Cyng. Ellen ap Gwynn

 

Noda’r Cyngor:

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Llywodraeth Cymru i:

1.     ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael hawl i drosi  anedd yn  haf  neu uned gwyliau

2.     i addasur fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal

3.     ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.

 

Cofnodion:

Cynigydd: Y Cynghorydd Mark Strong

Eilydd: Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn

Mae’r Cyngor yn nodi bod:

Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

1. ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael hawl i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu uned gwyliau.

2. addasu’r fframwaith polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal.

3. ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Mark Strong yr amgylchiadau a arweiniodd at y Rhybudd o Gynnig gan gadarnhau bod yr argymhelliad wedi’i ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Pwyllgor Iaith, gan ganolbwyntio’n benodol ar gystadleuaeth annheg a’r angen i bobl ifanc yn ein cymunedau allu prynu cartrefi.

 

Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei bod yn bleser eilio’r Cynnig hwn a diolchodd i’r staff am yr adroddiad llawn ar y sefyllfa a gyflwynwyd i’r ddau Bwyllgor. Nododd bod y Pwyllgor Iaith yn gwbl gefnogol i’r Cynnig hwn.

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus hefyd wedi pleidleisio o blaid yr argymhellion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Edwards welliant i’r Cynnig, i gynnwys ‘ar sail gymunedol’ ar ddiwedd ail bwynt y cynnig ac i roi ‘ac yn ôl-weithredol’ ar ddiwedd trydydd pwynt y cynnig.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans. Yn dilyn trafodaeth, fodd bynnag, tynnodd y ddau y cynnig o welliant i’r Cynnig yn ôl. 

 

Ystyriodd y Cyngor argymhelliad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus bod cynnydd o 100% yn cael ei godi ar Dreth Gyngor cartrefi gwyliau yn y sir.

 

Gofynnodd Ellen ap Gwynn i Swyddogion gyflwyno adroddiad ar y goblygiadau o bennu treth o 100% ar eiddo o’r fath, a gohirio trafodaeth lawn ar hyn tan bod yr adroddiad hwnnw’n cael ei dderbyn.  Argymhellodd hefyd bod cronfa yn cael ei sefydlu i gynorthwyo pobl ifanc lleol i brynu cartrefi.

 

Nododd y Cynghorydd Ceredig Davies bod y Cyngor wedi cytuno o’r blaen y byddai unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir drwy Bremiwn y Dreth Gyngor ar gartrefi gwyliau yn cael ei wario yn y cymunedau hynny, felly byddai angen i’r Cyngor ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r polisi.  Ni ddylai fod yn ôl-weithredol.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies y dylai cynllunio ddod yn gyntaf.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod yr ardoll yn parhau ac y dylai’r adroddiad hefyd ystyried dadansoddiad o rentu preifat yng Ngheredigion.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.    Cytuno’r Rhybudd o Gynnig fel y nodwyd:

2.    nodi’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Pwyllgor Iaith; a 

3.    bod Swyddogion yn paratoi adroddiad i’w ystyried gan y Cyngor ynghylch argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus bod cynnydd o 100% yn cael ei godi ar dreth gyngor cartrefi gwyliau yn y Sir. 

Dogfennau ategol: