Eitem Agenda

Cofrestr Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

Dywedwyd bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth barhaus a sicrwydd bod risgiau'n parhau i gael eu rheoli. Roedd hyn yn cynorthwyo'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei rôl o ddarparu sicrwydd annibynnol i'r Cyngor a rheoli digonolrwydd y fframwaith rheoli risgiau.

 

Er mis Mawrth 2020 pan ddaeth pandemig Covid-19 i Gymru, mae ymateb y Cyngor i’r achosion o Covid-19 wedi cael blaenoriaeth. Mae Risg R018 yn amlinellu manylion y risg a'r camau lliniaru sy'n angenrheidiol i leihau lledaeniad y clefyd yng Ngheredigion.

 

Mae'r holl risgiau wedi'u hadolygu ac yn cynnwys sylwebaeth wedi'i diweddaru. Gofynnir i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi'r newidiadau canlynol i'r Gofrestr ers y diweddariad diwethaf:

 

·         R003 Gwella a Pherfformiad Corfforaethol – mae sgôr y risg wedi cynyddu’n gyffredinol yn bennaf yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn Ebrill 2021. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno trefn berfformiad newydd ar gyfer prif gynghorau yn seiliedig ar hunanasesu, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygu proses newydd yn ystod 2021/22 i gefnogi cyflwyno’r drefn newydd. Felly mae’r sgôr wedi cynyddu o 9 i 12 ar y gofrestr.

 

·         R016 Brexit – mae sgôr y risg wedi lleihau i adlewyrchu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y risgiau sy'n gysylltiedig â gadael yr UE, ac yn arbennig bod gadael yr UE gyda chytundeb wedi lliniaru'r risgiau yn sylweddol. Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro effaith Brexit trwy is-grŵp o swyddogion, sy'n adrodd i'r Grŵp Arweiniol.

 

·         Risg 19 - Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol / Llifogydd. Risg newydd yw hon sy’n cyfuno’r risgiau blaenorol Rheoli Carbon (R012) ac Erydu Arfordirol (R013) i greu un risg gyffredinol ar newid hinsawdd. Mae’r risg newydd hon yn cynnwys goblygiadau ehangach newid hinsawdd, megis mwy o achosion o lifogydd, sychder a stormydd. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo arwain trwy esiampl a rhoi sylw i’r risgiau hyn. Mae camau lliniaru ar waith gan gynnwys datblygu Strategaeth Newid Hinsawdd Gorfforaethol a chynllun gweithredu yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni carbon sero-net erbyn 2030. Yn wyneb yr effeithiau posibl a’r tebygolrwydd, mae’r risg hon wedi cael sgôr o 25 ar y gofrestr.

 

·         Risg 20 – Mae Clefyd Coed Ynn yn risg newydd y chwarter hwn gan adlewyrchu’r effaith fawr y gallai Clefyd Coed Ynn ei chael ar draws Ceredigion a Chymru. Amcangyfrifir bod 42,000 o goed ynn aeddfed ar hyd ffyrdd sirol yn unig, a 10,000 pellach ar Ystad Gorfforaethol y Cyngor. Mae Clefyd Coed Ynn eisoes yn gyffredin ac i’w weld ar draws y sir. Mae camau lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith gan gynnwys cynhyrchu cynllun gweithredu, sefydlu grŵp llywio, ynghyd â chynnal arolwg o’r meysydd â blaenoriaeth uchel i nodi lleoliadau coed ynn a’u cyflwr.

 

·         Nid oes unrhyw newidiadau i sgoriau risg R004 Parhad Busnes, R005 Cynllun Ariannol Tymor Canolig,, R006 Rhaglen Gydol Oed a Llesiant, R009 Rheoli Gwybodaeth – Diogelwch, R015 Cefnogi Busnesau Bwyd Lleol, R017 Diogelu ac R018 Covid-19 ers yr adroddiad diwethaf, ond adolygwyd camau lliniaru a diweddarwyd y sylwebaeth.

 

              CYTUNWYD i:-

(i) nodi’r diweddariad; a

(ii) nodi bod yr Aelodau yn croesawu Risg 19 - Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol / Llifogydd; a oedd wedi disodli’r risgiau blaenorol sef Rheoli Carbon (R012) ac Erydu Arfordirol (R013) i greu un risg gyffredinol ar newid hinsawdd.

 

 

Dogfennau ategol: