Eitem Agenda

Diweddariad Rhaglen Waith Archwilio Cymru

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch y diweddaraf am Raglen Waith Archwilio Cymru. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd yr oedd Archwilio Cymru wedi’i wneud neu yn ei wneud o ran eu hastudiaethau. Roedd hyn yn sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn briodol i ganfyddiadau Archwilio Cymru a’i fod yn cytuno bod y camau wedi’u cwblhau er boddhad y Pwyllgor.

 

Roedd dwy elfen i’r adroddiad:

1) darparu manylion am y cynnydd a wnaed hyd yma ynghylch adroddiadau blaenorol Archwilio Cymru, ac

2) adrodd ynghylch y gwaith yr oedd Archwilio Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd.

·         Cynllun Archwilio Cyngor Sir Ceredigion 2021-2022

·         Adroddiadau lleol a dderbyniwyd:

o   Archwilio Cymru - Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2019-20 – Cyngor Sir Ceredigion

Adroddiadau cenedlaethol a dderbyniwyd: dim

 

·         Tystysgrifau a dderbyniwyd: dim

·         Ffurflenni Ymateb Rheolwyr ar y gweill/wedi'u cwblhau:

o   Taenlen Excel o Ymatebion Ffurflenni Ymateb Rheolwyr

o   ''Gwella ein Perfformiad' Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru (30/7/2020)

o   Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (7/10/19)

o   Cysgu Allan yng Nghymru – Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb (23/7/2020)

o   Y 'Drws Blaen' i Ofal Cymdeithasol i Oedolion (11/9/19)

o   Cynnydd o ran rholi'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith (21/11/19)

o   Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Archwiliad o ddylunio a gweithredu Model Gwasanaethau Integredig y Cyngor – Cyngor Sir Ceredigion (20/12/19)

o   Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20 (13/10/20)

o   System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (15/10/20)

o   Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru (6/6/2019)

o   Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol (6/10/2020)

  • Diweddariad ynghylch Prisio Asedau (ar lafar)
  • Protocolau Archwilio Cymru

 

1)    Gwaith Cyfredol

o   Brîff Prosiect – Gwerth am Arian Taliadau Uniongyrchol

o   Brîff Prosiect – Adolygiad o Gynllunio

o   Prosiect Asesu Cynaliadwyedd Ariannol 2020-2021

 

            Ailadroddodd Archwilio Cymru ei bryderon ynghylch materion yn ymwneud â chyfathrebu ac ailbrisio o fewn y Gwasanaeth Ystadau. Roedd y pryderon hyn wedi’u codi mewn sawl adroddiad ISA 260 yng nghyswllt y Datganiad Cyfrifon. Gofynnwyd am y wybodaeth hon ym mis Ionawr ond ni chafwyd y wybodaeth. Cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Prif Weithredwr ac Archwilio Cymru ym mis Mawrth a rhoddwyd sicrwydd i Archwilio Cymru y byddai’r wybodaeth hon ar gael fel y gellid cwblhau’r archwiliad. Cafodd hyn effaith hefyd ar y gwaith o gwblhau Datganiad Cyfrifon 2020/21. Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Twf a Menter fod swyddogion Archwilio Cymru yn gywir o ran yr hyn yr oeddent yn ei ddweud, a bod y gwaith prisio wedi’i wneud ym mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd. Fodd bynnag, roeddent ar hyn o bryd yn cwblhau asesiad terfynol o broses fewnol y gwaith prisio hwn. Roedd angen mynd i’r afael â rhai materion. Serch hynny, dywedodd fod ganddo hyder yn ansawdd y gwaith prisio a’r trywydd archwilio. Hefyd, byddai’r swyddogion ar gael ym mis Medi i fynd i’r afael ag unrhyw faterion y byddai Archwilio Cymru yn eu codi, felly byddai modd mynd i’r afael yn hyderus â’r prif bwyntiau yn yr ISA 260.

 

Ailadroddodd yr Aelodau eu pryderon am y mater hwn a oedd wedi rhygnu ‘mlaen am gryn amser a dywedwyd y dylai Archwilio Cymru gysylltu â Chadeirydd y Pwyllgor pe byddai rhagor o bryderon ac oedi.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiadau yn amodol ar y canlynol :-

(i) bod diweddariad yn cael ei roi yn y cyfarfod ym mis Medi am y prosesau cyfathrebu, recriwtio ac ailbrisio o fewn y Gwasanaeth Ystadau fel y gall y Pwyllgor dderbyn sicrwydd bod sylw wedi’i roi i’r materion a godwyd yn y datganiad cyfrifon;

(ii) bod cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng y Prif Weithredwr, y Cadeirydd a’r                Is-gadeirydd i drafod y broses ar gyfer mynd i’r afael â’r materion a godwyd o dan bwynt (i); a

(iii) bod y posibilrwydd o gael swyddog dynodedig fel pwynt cyswllt rhwng Archwilio Cymru a’r Gwasanaeth Ystadau yn cael ei ystyried pe byddai materion yn cael eu codi yn ystod y datganiad cyfrifon nesaf

 

Dogfennau ategol: