Cofnodion:
Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar parthed
COVID-19.
Nododd fod yr
amrywiolyn Delta yn achosi pryder yng Nghymru a ledled y DU a bod nifer yr
achosion yn cynyddu. Cofnodwyd saith
achos newydd yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n gyfystyr â
9.6 i bob can mil; fodd bynnag mae’r gyfran sy’n profi’n bositif yn parhau’n
gymharol isel, sef 1.2%. Mae’r gyfradd
ar gyfer Cymru gyfan yn cyfateb i 20.1 i bob can mil, gyda’r gyfradd sy’n
profi’n bositif yn 2%. Nodwyd, fodd
bynnag, bod angen i bob un ohonom fod yn ofalus a sicrhau ein bod yn cadw
pellter cymdeithasol, yn gwisgo mygydau ac yn golchi’n dwylo’n aml. Nodwyd nad
yw nifer yr achosion wedi cynyddu’n sylweddol yng Ngheredigion wedi gwyliau’r
hanner tymor, o’i gymharu ag ardaloedd eraill.
Mae’r rhaglen
frechu’n parhau’n effeithiol, ac yng Ngheredigion mae 67% wedi cael y brechlyn
cyntaf a 40.4% wedi cael yr ail frechlyn.
Bellach mae pawb dros 18 oed wedi derbyn gwahoddiad i gael eu brechlyn
ac o ran y sawl a oedd efallai wedi methu eu hapwyntiad gwreiddiol, mae cyfle o
hyd iddynt fynd i gael eu brechu. Ar hyn
o bryd, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn edrych ar y
dystiolaeth sy’n ymwneud â sut i gymhwyso’r brechlyn i bobl ifanc 16 a 17 oed,
yna byddant yn ystyried y rhai dros 12 oed.
Nododd yr
Arweinydd iddi gyfarfod â Phenaethiaid pob ysgol y diwrnod cynt ac iddi ddiolch
iddynt am eu holl waith yn ystod yr amryw gyfnodau clo, gan gydnabod hefyd y
pwysau ychwanegol o gynnal asesiadau yn lle arholiadau. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnos, gyda
disgyblion yn cael y cyfle i apelio ynghylch eu graddau, fodd bynnag bydd y
graddau terfynol yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol ganol mis Awst.
Nid oes unrhyw
achosion mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd.
Mae’r rhan fwyaf o’r staff a’r trigolion yno wedi’u brechu a cheir
podiau ymweld yn y gerddi. Gobeithir y
bydd ymweliadau y tu mewn i’r adeilad yn gallu dechrau cyn bo hir, ond bydd hyn
yn cael ei fonitro’n ofalus, gan roi ystyriaeth i unrhyw gynnydd mewn
achosion.
Mae’r Parthau
Diogel wedi’u haddasu ers iddynt gael eu cyflwyno y llynedd a threialwyd y
newidiadau yn ystod y gwyliau hanner tymor diweddar. Ar y cyfan, buont yn
llwyddiannus mewn cyfnod o wyliau hanner tymor prysur. Bydd y Parthau Diogel yn cael eu hailgyflwyno
ar gyfer cyfnod gwyliau haf yr ysgolion.
Mae darparwyr
lletygarwch a llety yn parhau’n brysur.
Mae grantiau busnes ar gael gan wasanaeth ‘Busnes Cymru’ yn ogystal â
thrwy Gyngor Sir Ceredigion.
Mae’r
llyfrgelloedd wedi ailagor i’r cyhoedd drwy apwyntiad ac mae hi’n dal yn bosibl
trefnu gwasanaeth clicio a chasglu.
Mae’r cyfleusterau
awyr agored sydd ar safleoedd ysgolion wedi ailagor ac maent ar gael yn awr at
ddefnydd mudiadau cymunedol. Mae
Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan ar agor erbyn hyn, fodd bynnag mae angen
gwaith cynnal a chadw pellach ar Bwll Nofio Llanbedr Pont Steffan ac rydym yn
disgwyl adroddiad ar gyflwr Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Plascrug. Mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd
gyda Phrifysgol Aberystwyth ynghylch darparu
mynediad i’r cyhoedd i Bwll Nofio’r Brifysgol.
Mae Pwll Nofio Aberaeron ar agor bellach a nododd y Cynghorydd Keith Evans fod Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llandysul hefyd ar agor i’r cyhoedd.