Cofnodion:
Ers y cyfnod clo
cyntaf ym mis Mawrth 2020 roedd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion wedi parhau i
gyflwyno gwersi offerynnol/lleisiol ar blatfform Microsoft Teams gyda'r nod o
sicrhau bod disgyblion yn parhau i ymgysylltu â thiwtoriaid a gwneud cynnydd ar
eu siwrnai ddysgu gerddorol.
Y gwasanaeth oedd y
cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwersi rhithiol, felly bu’n arwain yn y sector,
ac yn sgil hynny mae’r Gwasanaeth, dan arweiniad Gareth Lanagan o brosiect
e-sgol, wedi bod yn rhoi hyfforddiant a chymorth i wasanaethau cerddoriaeth
eraill ledled Cymru. Gweithiodd staff y Gwasanaeth Cerdd yn ddiflino i addasu
i’r ffyrdd newydd o weithio, gan ddysgu i ddefnyddio'r gwahanol blatfformau a
oedd eu hangen i gyflwyno gwersi ar-lein – e.e. Flip Grid a Teams. Roedd y ddarpariaeth
rithiol yn sicrhau bod disgyblion yn gallu parhau i ymgysylltu a pharhaodd tua
55% o’r disgyblion â'u hastudiaethau.
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sicrhau darpariaeth rithiol drwy gydol y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 wedi bod yn orchest fawr i'r Gwasanaeth. Mewn cymhariaeth, roedd Awdurdodau Lleol eraill wedi lleihau eu darpariaeth yn sylweddol gyda rhai'n rhoi’r gorau i holl ddarpariaeth eu gwasanaethau cerdd yn ystod y cyfnodau clo.
Niferoedd:
Roedd 665 o ddisgyblion wedi cael eu tiwtora
yn ystod y flwyddyn:
Llinynnau 91
Chwythbrennau 144
Pres 139
Piano 135
Offerynnau taro 53
Llais 64
Telyn 14
Mewn cymhariaeth, roedd y niferoedd ar gyfer y flwyddyn flaenorol fel a
ganlyn:
Llinynnau 356
Chwythbrennau 196
Pres 315
Piano 57
Offerynnau taro 104
Llais 98
Telyn 55
Wrth adolygu'r flwyddyn ddiwethaf a chynllunio ar gyfer y dyfodol, roedd
y Gwasanaeth yn cydnabod y rhinweddau a’r heriau canlynol o ran y ddarpariaeth
rithiol:
Rhinweddau
Ø Roedd
y Gwasanaeth Cerdd yn gallu parhau i ymgysylltu â disgyblion
Ø Parhad
a dilyniant i ddisgyblion
Ø Arbrofi
gyda syniadau arloesol megis Taith Rithiol Peri – cyflwyniad i wersi
offerynnol/lleisiol gan
gyrraedd nifer fawr o ddisgyblion mewn un sesiwn
Ø Arbedion
o ran y gyllideb a'r amser a dreulir yn teithio o un lleoliad i'r llall
Ø Roedd
prosiect West End of Wales wedi dangos sut y gallai perfformiadau ar-lein hyrwyddo'r
Gwasanaeth Cerdd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd
Heriau
Ø Gallai’r
cysylltiad â'r we, gan gynnwys ansawdd sain gwael, beri trafferthion i
ddisgyblion a thiwtoriaid
Ø Anawsterau
wrth diwnio offerynnau – offerynnau llinynnol yn arbennig
Ø Anawsterau
wrth gyfeilio o achos oedi ar-lein
Ø Anawsterau
wrth atgyweirio offerynnau
Ø Dim gwaith
grŵp/ensemble/cyngherddol a'r ymwneud cymdeithasol cysylltiedig sy'n annog
cynnydd
Ø Anawsterau
i ddechreuwyr heb yr hyfforddiant a'r cyflwyniad ymarferol sy’n
angenrheidiol ar y cychwyn
Ø Roedd
creu perfformiadau ar-lein, megis perfformiadau prosiect West End of Wales, yn
gofyn am fewnbwn technolegol sylweddol ac arbenigedd allanol
Ffactorau
a ystyrir wrth fynd ymlaen
Gan gydnabod bod y Gwasanaeth wedi addasu'n
dda ac wedi edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno’i ddarpariaeth,
dywedwyd y byddai’r Gwasanaeth Cerdd a'r Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant
yn ystyried y canlynol wrth fynd ymlaen:
·
Pan fydd yn ddiogel ac yn ddefnyddiol gwneud hynny,
ailddechreuir y ddarpariaeth wyneb yn wyneb mewn ysgolion gan alluogi'r
Gwasanaeth i ailadeiladu’r niferoedd i fel yr oedd cyn y pandemig ac ailgychwyn
ensembles ysgolion.
·
Gellid cynnig darpariaeth rithiol i ysgolion ar
adegau penodol fel arbrawf yn y lle cyntaf. Byddai hyn yn helpu gydag
anawsterau o ran yr amserlen yn sgil gweithgareddau eraill yr ysgolion megis
gwibdeithiau, arholiadau TGAU a Safon Uwch ac ati.
·
Drwy ddarpariaeth rithiol gallai'r Gwasanaeth Cerdd
gyrraedd y gymuned yn ehangach e.e. Cartrefi Gofal, Grwpiau Cymunedol Gwledig,
Wardiau Ysbytai. Byddai modd darparu perfformiadau wedi'u recordio ymlaen llaw
neu berfformiadau sy’n cael eu ffrydio yn fyw a hynny fel cyngherddau amser
cinio neu gyngherddau gyda'r nos.
·
Gellid creu cyfres o arddangosiadau wedi'u recordio
ymlaen llaw, megis Taith Rithiol Peri, a'u darparu i ysgolion neu rieni gan
alluogi'r Gwasanaeth Cerdd i estyn allan i ragor o ddisgyblion posib.
·
Er mwyn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu
darpariaeth rithiol o ansawdd uchel, byddai angen iddi oresgyn rhai o'r
anawsterau cysylltedd a buddsoddi mewn offer hanfodol.
I gloi, dywedwyd y byddai’r ddarpariaeth
rithiol yn parhau i gael ei defnyddio yn y dyfodol ar gyfer hyfforddiant un i
un a pherfformiadau, yn enwedig wrth i'r bygythiad o ragor o achosion
Coronafeirws barhau. Er bod y
ddarpariaeth rithiol wedi bod yn llwyddiant, ni allai ddisodli dylanwad a
phwysigrwydd tiwtora wyneb yn wyneb. Felly, byddai’r Gwasanaeth Cerdd yn ceisio
datblygu model cyfunol at y dyfodol, gan gyfuno darpariaeth rithiol a
darpariaeth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau'r profiad dysgu gorau posib i'r
disgyblion.
Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad a gyflwynwyd
a llongyfarch y gwasanaeth ar ei lwyddiant a’i frwdfrydedd yn ystod y cyfnod
anodd hwn.
Dogfennau ategol: