Eitem Agenda

Cyflawni Sero-Net erbyn 2030 – Cynllun Gweithredu

(Cynllun Gweithredu Cymraeg i ddilyn)

 

Cofnodion:

            Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a’r Cynllun Gweithredu ar Gyflawni    Sero-   Net. Rhoddodd y Rheolwr Perfformiad: Lleihau Carbon a Rheoli Ynni ac Asedau gyflwyniad Pwerbwynt i’r Aelodau. Adroddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion, mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2019, wedi cytuno i:

·         Ymrwymo i wneud Ceredigion yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030

·         Datblygu cynllun clir ar gyfer llwybr tuag at fod yn garbon sero-net o fewn 12 mis

·         Galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i roi'r gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol i alluogi gostyngiadau effeithiol o ran carbon

 

Yn ychwanegol at hyn, ar 5 Mawrth 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion argyfwng hinsawdd byd-eang, gan ymrwymo i ateb yr her fwyaf sylweddol sy'n wynebu ein sir a'n planed.

 

Nodwyd bod y ddogfen yn nodi sut mae’r Cyngor Sir yn bwriadu ymateb i argyfwng yr hinsawdd.  Mae'n egluro pam fod angen y Cynllun Gweithredu Carbon Sero-Net hwn arnom a pham fod targed 2030 mor bwysig i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Cynllun Gweithredu yn asesu allyriadau carbon gweithredol Ceredigion ar hyn o bryd ac yn amlinellu'r heriau sy'n gysylltiedig â tharged uchelgeisiol 2030.                  

          

           Dyma Ffocws y cynllun gweithredu sero-net:

 

            Mae'r ffocws ar hyn o bryd ar y defnydd o ynni ac allyriadau (allyriadau Cwmpas 1 a 2) gan fod y rhain yn cael eu cofnodi a'u cyfrif bob blwyddyn fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Cynllun Rheoli Carbon.  Mae angen cyfrifo a deall ôl troed carbon yr Awdurdod Lleol yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys allyriadau Cwmpas 3), a gwneir hyn unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu methodoleg adrodd nhw, sydd wedi cael ei gohirio oherwydd COVID.  Mae'n debygol y bydd ffynonellau’r allyriadau hefyd yn cynnwys:

 

(1)     Symudedd a Thrafnidiaeth;

                     (2)     Caffael;

                     (3)     Defnydd Tir;

                     (4)     Adeiladau.

 

          Mae'r Cynllun hwn wedi'i lunio yn seiliedig ar y cynnig a arweiniwyd gan Aelodau ac a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2019. Dylid ystyried y cynnwys ar sail a yw'n cyfleu'r weledigaeth a ddymunir wrth symud ymlaen.

 

Y Camau Nesaf a Ragwelir:-

         Tymor byr (3 - 12 mis nesaf)

      Cynllun Gweithredu Sero-Net i'r Cabinet/Cyngor

      Integreiddio'r cynllun Gweithredu Sero-Net i’r Blaenoriaethau Corfforaethol, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro a'i adrodd.

      Gwaith pellach i yrru cynlluniau a nodwyd eisoes yn eu blaenau, a fydd yn cyfrannu at gyflawni gostyngiadau mewn allyriadau.                 

      Parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru a gweithredwyr Rhwydwaith Ardal ynghylch materion capasiti grid yn y sir.           

 

       Tymor canolig (18 mis - 2 flynedd nesaf)

• Ar ôl rhyddhau methodoleg adrodd Llywodraeth Cymru, mae angen cynnal ymarfer sylfaenol llawn, er mwyn ehangu’r gwaith o fonitro allyriadau i gynnwys hefyd allyriadau o:

§  Symudedd a Thrafnidiaeth;

§  Caffael;

§  Defnydd Tir;

§  Adeiladau.

 

O ganlyniad, bydd llawer o gamau eraill yn dod i'r amlwg dros amser, y bydd angen eu nodi a'u gyrru yn eu blaenau ymhellach. 

      Unwaith y bydd gan y Cyngor ôl troed carbon sylfaenol cyflawn, byddwn yn gallu edrych yn fwy penodol ar brosiectau a chynlluniau a fydd yn cyfrannu at leihau allyriadau a gwrthbwyso carbon – bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol ar hyn hefyd.

      Parhau â gwaith sy'n effeithiol wrth sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau, canolbwyntio ar brosiectau y profwyd eu bod yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

      Dadansoddi ac asesu lle mae angen gwybodaeth, adnoddau a newidiadau polisi i gefnogi'r symudiad tuag at garbon sero-net.

      Adolygiad a diweddariad blynyddol cychwynnol o'r Cynllun Gweithredu Sero Net – i'r Pwyllgorau Craffu a’r Cabinet haf 2022.

 

Hirdymor (2+ blynedd nesaf)

        Cynllun Gweithredu Sero-Net i’w adolygu a'i ddiweddaru o bryd i'w gilydd, er mwyn sicrhau cynnydd.

      Cyflawni prosiectau ymhellach sy'n rhoi gostyngiadau carbon sylweddol. Bydd y rhain yn debygol o fod yn fwy cymhleth, yn fwy o ran maint a gwerth; gall hyn gynnwys dal a storio carbon, plannu coed.

      Dylai arferion gweithio di-garbon gael eu hymgorffori bellach yn holl arferion gweithio'r Awdurdod Lleol.

      Dylai'r holl gynlluniau, prosiectau a datblygiadau newydd yng Ngheredigion gael eu cyflawni mewn modd sy'n cyfrannu at ein huchelgeisiau sero-net.

 

Dywedodd sawl aelod eu bod yn cytuno mewn egwyddor â'r angen i fynd i'r afael â'r mater hwn, fodd bynnag, codwyd pryderon am y costau sydd ynghlwm â’r cynllun hwn, er mwyn cyflawni'r targedau a nodwyd; nodwyd hefyd fod angen cynllun busnes.       Mewn ymateb, dywedodd y Swyddogion fod y cynllun wedi deillio o gynnig gan y Cyngor Sir. Adroddwyd bod y cynllun ei hun yn gyraeddadwy gan fod gwaith wedi'i wneud eisoes ar brosiectau yn y gorffennol a'r dyfodol er mwyn cyflawni sero carbon. Adroddwyd y bydd cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo ac felly byddai angen cynllun ar waith, fel yr un a nodwyd.                     

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ar y canlynol:

(i) sefydlu gweithgor trawsbleidiol fel rhan o’r grŵp carbon presennol, er mwyn hybu’r cynllun yn ei flaen;             

(ii) bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diweddaru bob chwe mis;

(iii) argymell bod y Cabinet yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddweud mor bwysig yw hi bod methodoleg adrodd yn cael ei darparu yn fuan.

 

Dogfennau ategol: