Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol
i'r cyngor llawn a'r broses o reoli digonolrwydd y fframwaith rheoli risg a'r
amgylchedd rheoli mewnol. Mae'n darparu adolygiad annibynnol o drefniadau
llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor ac yn goruchwylio'r prosesau
adrodd ariannol a llywodraethu blynyddol. Mae'n goruchwylio archwilio mewnol ac
archwilio allanol, gan helpu i sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithlon ac
effeithiol ar waith.