Agenda a chofnodion drafft

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yng Ngheredigion (CYSAG) - Dydd Gwener, 31ain Mawrth, 2023 1.30 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gweddi

Cofnodion:

Dechreuodd y cyfarfod gyda’r Cynghorydd Keith Evans yn arwain y Pwyllgor mewn gweddi.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ifan Davies, Keith Henson, Ceris Jones ynghyd â Mrs Alwen Roberts, yr Athro Densil Morgan, y Parch Mark Ansell, y Parch Wyn Thomas a’r Athro Catrin Williams am na allent fynychu’r cyfarfod.

 

3.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2022 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2022 fel rhai cywir.

 

Materion sy'n codi

Dim.

 

4.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Lyndon Lloyd MBE a oedd wedi'i benodi'n Aelod Lleyg, Mrs Noha Haroun a oedd yn cynrychioli'r enwad Islam a Mrs Non Jones McEvoy a oedd yn cynrychioli'r Sector Cynradd i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Gwella Ysgolion Gwasanaethau Ysgolion ei bod wedi cysylltu â chynrychiolydd y Crynwyr, ond hyd yma nid oedd ateb wedi dod i law.

 

 

5.

Gohebiaeth

Cofnodion:

Cafwyd llythyr oddi wrth Mr Colin Patridge a oedd yn cynrychioli'r gred Ddyneiddiol, cytunwyd i ofyn am fanyleb ei berson er mwyn ystyried ei gais.

 

 

6.

Cyflwyniad am addysgu Addysg Grefyddol a Chrefydd Gwerthoedd a Moeseg yn Ysgol Uwchradd Aberaeron gan Nia Wyn Jones , Pennaeth Adran AG/CGM

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Miss Nia Wyn Jones, Pennaeth Addysg Grefyddol/Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Ysgol Uwchradd Aberaeron i'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar Addysg Grefyddol/addysgu Gwerthoedd a Moeseg.

 

            Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, diolchodd y Cadeirydd a’r holl Aelodau i Miss Jones am fynychu ac am roi cyflwyniad llawn gwybodaeth.

tation.

7.

Diweddariad cenedlaethol

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ganlynol:-

·       Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi eglurhad i CCYSAGauC ynghylch cydfodolaeth CYS (Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) a CYSAG, (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol.), sef, bod angen i’r ddau gorff hyn fod yn eu lle tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2025 sy’n dechrau ym mis Medi, sy’n dod i ben yn haf 2026. Wedi hynny, byddai CYSAG yn cael ei ddiddymu, a byddai CYS yn parhau

·       Adroddiadau Blynyddol CYSAG

·       Cyfathrebu trwy DYSG

·       Diweddariadau ac addasiadau i HWB

·       Ymholiad gan yr Awdurdod Lleol

·       Adolygiad barnwrol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

·       Nodi cymorth ac adnoddau ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

·       Adnodd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru

·       Sicrhau Ansawdd maes llafur cytunedig Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

 

CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol.

 

8.

Cais am eitemau i gyfarfod tymor yr haf

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi eglurhad i CCYSAGauC ynghylch cydfodolaeth CYS (Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) a CYSAG, (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol.), sef, bod angen i’r ddau gorff hyn fod yn eu lle tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2025 sy’n dechrau ym mis Medi, sy’n dod i ben yn haf 2026. Wedi hynny, byddai CYSAG yn cael ei ddiddymu, a byddai CYS yn parhau
  • Adroddiadau Blynyddol CYSAG
  • Cyfathrebu trwy DYSG
  • Diweddariadau ac addasiadau i HWB
  • Ymholiad gan yr Awdurdod Lleol
  • Adolygiad barnwrol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd
  • Nodi cymorth ac adnoddau ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  • Adnodd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
  • Sicrhau Ansawdd maes llafur cytunedig Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

 

CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol.

 

9.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dim.