Agenda a Chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yng Ngheredigion (CYSAG) - Dydd Iau, 16eg Rhagfyr, 2021 3.30 pm

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gweddi

Cofnodion:

Cychwynnwyd y cyfarfod â’r Parchedig Aled Jones yn arwain y Pwyllgor mewn gweddi.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd yr Athro Catrin Williams ac Alwen Roberts am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod

3.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2021 ac ystyried unrhyw fater sy'n codi o'r cofnodion hynny pdf eicon PDF 409 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion y Cyfarfod o’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog a gynhaliwyd 18 Mehefin 2021.

4.

Diweddariad ar lefydd gwag Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Ceredigion

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gynrychiolwyr i gynrychioli’r Aelodau Cyfetholedig ar y Pwyllgor. Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Corfforaethol - Gwella Ysgolion, Gwasanaethau Ysgolion yn cysylltu â nhw yn unol â hynny i weld a oedd ganddynt ddiddordeb mewn dod yn Aelod o’r Pwyllgor. O ran cynrychiolydd dyneiddiol, cytunwyd y byddid yn ceisio cael cynrychiolydd dwyieithog, lleol.

5.

Diweddariad ar Ganllawiau Cwricwlwm i Gymru Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei drefnu ddydd Mercher 26 Ionawr 2022 am 4 pm i ystyried y canllawiau yn fanwl.

 

6.

Gosod y ddogfen 'Canllawiau Cwricwlwm i Gymru Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg' yn ei chyd-destun

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai’r adroddiad a’r dolenni mewn perthynas â’r cwricwlwm, a gyflwynwyd yn y cyfarfod, yn cael eu cylchredeg i’r Aelodau gan y Swyddog Safonau a Gwasanaethau Democrataidd. 

7.

Adroddiad Blynyddol Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Ceredigion

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad drafft a gafodd ei gylchredeg i’r Aelodau cyn y cyfarfod. Yn dilyn mân ddiwygiadau ac unrhyw adborth pellach gan yr Aelodau erbyn y dydd Llun canlynol, CYTUNWYD derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd. Byddai’r adroddiad yna’n cael ei gyfieithu a’i anfon i Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.