Lleoliad: remotely
Rhif | eitem |
---|---|
Gweddi Cofnodion: Dechreuwyd y cyfarfod drwy
weddi gan yr Athro John Tudno Williams. Yn absenoldeb y Cadeirydd
bu i’r Athro John Tudno Williams gadeirio’r cyfarfod ar y cychwyn. Bu i’r Cadeirydd fynegi
cydymdeimladau’r pwyllgor â’r Athro Catrin Williams ar farwolaeth ei thad yn
ddiweddar. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE, Y Parchedig Mark Ansell a’r Parchedig Wyn Thomas am iddynt fethu â bod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|
Cadarnhau cofnodion y gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2021 Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a
gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2021. Materion yn codi Cofnod 6 (b) Aelodaeth o’r
Pwyllgor - Bu i’r Cadeirydd groesawu Anna Uruska fel
cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig i’w chyfarfod cyntaf. Roedd y Parchedig Wyn
Thomas hefyd wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno â’r pwyllgor, fodd bynnag nid
oedd yn bosib iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a bu i’r clerc ymddiheuro
iddo dderbyn yr agenda’n hwyr. |
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllaw Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllaw Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Ystyriwyd y ddogfen ymgynghori
o ran Canllaw Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Yn dilyn sylwadau oddi wrth Aelodau
cytunwyd y bydd y Rheolwr Corfforaethol - Gwella Ysgolion, Gwasanaethau
Ysgolion yn coladu sylwadau a’u dosbarthu er ystyriaeth Aelodau cyn eu cyflwyno
i Lywodraeth Cymru yn unol â’r hyn a nodwyd ynghlwm yn Atodiad 1. . Yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd
i’r Rheolwr Corfforaethol - Gwella Ysgolion, Gwasanaethau Ysgolion gan Aelodau
diwygiwyd yr ymateb caiff ei anfon at Llywodraeth Cymru yn unol â’r hyn a nodwyd yn Atodiad 2. |