Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Iau, 27ain Mawrth, 2025 11.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

a)    Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod gan ei fod ar fusnes arall ar ran y Cyngor;

b)    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

2.

Datgan diddordebau personol a diddordebau sy'n rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

3.

I ystyried Cofnodion y Cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hyny pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4.

I dderbyn adroddiad ar ddiweddariad Blynyddol Neuadd Goffa Ceinewydd 2024-2025 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor. Nodwyd bod cymal 26.6 y brydles yn nodi bod yn rhaid i’r Sefydliad Corfforedig Elusennol roi crynodeb blynyddol i’r ymddiriedolwr sy’n nodi’r defnydd a wnaed o’r eiddo yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gweithgarwch gan gynnwys cyflogi Swyddog Datblygu llawn amser a oedd yn gyfrifol am ddatblygu a gwella gweithgarwch a oedd yn canolbwyntio ar 4 prif thema, sef helpu gyda’r argyfwng costau byw; cynorthwyo unigolion i osgoi arwahanrwydd cymdeithasol; rhannu sgiliau a dealltwriaeth er budd pawb; a chodi ymwybyddiaeth am yr Hwb fel lle i bawb.

 

Roedd gwirfoddolwyr yn cynnal sesiynau ‘Amser Stori’ bob mis ar gyfer plant cyn oed ysgol; cynhaliwyd prosiectau a oedd yn cynnig cymorth uniongyrchol ac yn cyfeirio pobl at gymorth arall; sefydlwyd Grŵp Afancod; trefnwyd digwyddiadau i ddathlu achlysuron megis Dydd Gŵyl Dewi; cynhaliwyd marchnad wythnosol ar ddydd Gwener a oedd yn gwerthu planhigion, llysiau a ffrwythau tymhorol a dyfwyd yn lleol a hynny am bris isel, ynghyd â bwydydd sawrus a chacennau cartref, a chrefftau; cynhaliwyd Clwb Lego a Bingo wythnosol, gan enwi rhai yn unig. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.  

 

Nododd Aelodau’r Pwyllgor waith Pwyllgor Neuadd Goffa Ceinewydd a diolchwyd yn unfrydol i’r pwyllgor am yr holl waith a wnaed.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i wneud y canlynol:

a)   nodi’r diweddariad oddi wrth y tenant ar gyfer y cyfnod rhwng 10 Chwefror 2024 a 9 Chwefror 2025;

b)  gofyn bod llythyr yn cael ei anfon at Bwyllgor Neuadd Goffa Ceinewydd i ddiolch am yr holl waith caled.

5.

I dderbyn adroddiad ar Neuadd Goffa Ceinewydd - Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod y Sefydliad Corfforedig Elusennol wrthi’n trafod gyda’r Cyngor yn gorfforaethol ynghylch gosod offer gwefru cerbydau trydan yn yr eiddo ar gyfer 2 le parcio. Nododd nad oedd y Sefydliad Corfforedig Elusennol yn gallu gwneud unrhyw addasiadau nac ychwanegiadau penodol i’r eiddo heb ganiatâd y landlord, fel y nodwyd yng nghymal 23 y brydles. Ar 7 Tachwedd 2024, penderfynodd y Pwyllgor ddirprwyo awdurdod i’r Gwasanaethau Ystadau roi neu wrthod cydsyniad landlord ar ran yr ymddiriedolaeth a hynny mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau (neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd). Fodd bynnag, gan fod y Cyngor ynghlwm wrth y mater hwn, penderfynwyd bod gwrthdaro posib rhwng buddiannau ac nid oedd y Swyddogion yn teimlo ei bod hi’n briodol iddynt ddelio â’r cais hwn drwy bwerau dirprwyedig.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cynllun yn dod o fewn cyfnod y brydles, a chadarnhawyd y byddai’n dod o fewn y cyfnod. Yn ogystal, nododd yr Aelodau y byddai’r cynllun hwn yn darparu ffrwd o incwm a fyddai’n cynorthwyo i redeg yr eiddo, ac o bosib yn denu ymwelwyr ychwanegol i Neuadd Goffa Ceinewydd.   

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i wneud y canlynol:

1.   CYMERADWYO mewn egwyddor gais y tenant am ganiatâd i osod offer gwefru cerbydau trydan ar gyfer 2 le parcio y cyfeirir atynt yn yr adroddiad cysylltiedig yn amodol ar y canlynol:

 

a)    taliad o £200 gan y Gwasanaethau Priffyrdd ar gyfer costau proffesiynol y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ystadau yn yr achos hwn; a

 

b)    bod Swyddogion, ar ran yr Ymddiriedolaeth, yn darparu llythyr o ganiatâd ar gyfer y gwaith arfaethedig i osod offer gwefru cerbydau trydan a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r cyfarpar gael ei symud a bod y safle’n cael ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol pan ddaw’r brydles i ben.

6.

I dderbyn diweddariad ar hen Ysgol Sirol Tregaron - is-grŵp pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i’r Pwyllgor, a nododd fod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau wedi penderfynu yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021 i dderbyn y cynnig i werthu hen Ysgol Tregaron a chreu is-grŵp gyda dirprwyaeth, ar ôl gwerthu’r eiddo, i ystyried argymhellion ynghylch sut y dylid defnyddio unrhyw gyfalaf ac incwm a ddelir gan yr elusen er mwyn cyflawni amcanion yr elusen, ac y byddai unrhyw argymhellion gan yr is-grŵp yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau er mwyn iddynt eu hystyried a gwneud penderfyniad terfynol.

 

Nodwyd bod yr is-grŵp, yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2025, wedi penderfynu’n unfrydol y dylid argymell i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau bod y gronfa ymddiriedolaeth hon, a oedd yn cynnwys ychydig o dan £180,000, yn cael ei chlustnodi ar gyfer datblygu cae pob tywydd (astroturf) ar safle caeau chwarae Ysgol Henry Richard. Nodwyd hefyd bod Rheolwr Corfforaethol y Canolfannau Lles yng Ngheredigion wedi cytuno i helpu a chynghori’r ysgol i gyflawni ei dyheadau.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol:

a)    Y byddai’r arian a ddelir gan yr ymddiriedolaeth yn cael ei glustnodi mewn egwyddor ar gyfer datblygu cae pob tywydd (astroturf) ar safle caeau chwarae Ysgol Henry Richard yn Nhregaron;

b)    Y dylai diweddariadau gael eu darparu i’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau neu fod y cynnydd yn cael ei adolygu mewn 12 mis os na chyflwynir diweddariadau yn ystod y cyfnod hwnnw.

7.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

O ran y cais gan Neuadd Goffa Ceinewydd am risiau newydd i fynd i mewn i’r Neuadd, nododd Louise Harries y byddai Swyddogion yn delio â’r cais drwy bwerau dirprwyedig mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, ac y byddai’r mater yn dod nôl gerbron y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.