Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Iau, 16eg Ionawr, 2025 11.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ceris Jones am ei hanallu i fynychu'r cyfarfod.

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgan diddordebau personol a diddordebau sy'n rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

4.

I ystyried Cofnodion y Cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ac unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

5.

Diweddariad ar Sefydliad Addysg Goffa COE - adolygiad o Fferm Blaendyffryn pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Harries yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi'r penderfyniadau o'r cyfarfod diwethaf yn ymwneud â'r mater hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth fe benderfynodd yr Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Atodiad A yn berthnasol i'r Adroddiad uchod (Gwaharddwyd)

Cofnodion:

Nid yw’r adroddiad hwn ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraffau 12, 14 ac 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Paragraff 12 – Gwybodaeth ynghylch unrhyw unigolyn;


Paragraff 14 - Gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n meddu ar y wybodaeth honno);


Paragraff 16 - Gwybodaeth lle y gellid hawlio braint broffesiynol gyfreithiol yn ei chylch mewn achos cyfreithiol;


PENDERFYNWYD
gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r cyfarfod. Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

(i)    (i) cyfarwyddo Gwasanaethau Eiddo (a Gwasanaethau Tai os yw'n briodol) i gael dyfynbrisiau manwl mewn perthynas â phwyntiau a) a b) a nodir yn yr adroddiad eithriedig ynghlwm ac i Swyddogion adrodd ar y dyfyniadau yn y Pwyllgor nesaf;

(ii)   (ii) gohebu ag asiant y tenant mewn perthynas â'r materion a drafodwyd yn flaenorol rhwng swyddogion a'r asiant ac yr adroddwyd ar lafar i'r Pwyllgor a'i drafod, ac i adrodd yn ôl yn y Pwyllgor nesaf.