Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies a Lyndon Lloyd MBE
am nad oedd modd iddynt fod yn y cyfarfod. |
|
Datgan diddordebau personol/rhagfarnol Cofnodion: Ni
chafodd dim buddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu eu datgan. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021 yn gywir. Materion yn codi Nid oedd dim materion yn codi. |
|
Cofnodion: Nodwyd,
er mwyn bwrw ymlaen i gwblhau gwerthiant Hen Ysgol Tregaron, fod angen
adleoli’r tair llechen ynghylch cyn-benaethiaid yr ysgol a’r ddwy goflech ryfel
sy’n coffáu cyn-ddisgyblion a gollodd eu bywydau yn y ddau Ryfel Byd. Nodwyd
bod Ysgol Henry Richard wedi cytuno mewn egwyddor i adleoli llechi’r
cyn-benaethiaid ond mae’r ddwy goflech ryfel wedi’u cofnodi yn Rhestr
Genedlaethol Cofebion Rhyfel y Deyrnas Unedig ac felly cynhaliwyd ymgynghoriad
cyhoeddus. Parodd
yr ymgynghoriad am bedair wythnos oddi ar 1 Tachwedd 2021, a chafwyd 72 o
ymatebion a ystyriwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau. Nodwyd
bod dros hanner yr ymatebwyr yn dymuno i’r coflechi gael eu symud i Ysgol Henry
Richard. Ymhlith yr awgrymiadau eraill yr oedd Neuadd Goffa Tregaron, Capel
Bwlchgwynt neu Eglwys Tregaron, man gwyrdd cyhoeddus, Amgueddfa Ceredigion a
Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nodwyd
hefyd fod Pennaeth Ysgol Henry Richard eisoes wedi awgrymu y gellid rhoi’r
coflechi rhyfel ar wal neuadd yr ysgol. Nododd
yr Aelodau fod argymhelliad Pwyllgor y Cyn-ddisgyblion yn cyd-fynd â barn y
mwyafrif, sef symud y coflechi i Ysgol Henry Richard. Nodwyd bod yr ysgol yn
lle addas am fod y coflechi yn cofio’r aberth a wnaed gan gyn-ddisgyblion yn y
rhyfeloedd. Mae hanes yn rhan bwysig iawn o addysg disgyblion ac mae'n bwysig
nad yw'r bobl hyn yn mynd yn angof. Pwysleisiodd
yr Aelodau mor bwysig oedd symud y coflechi mewn modd diogel gan eu bod yn
haeddu parch, ac y dylai hyn ddigwydd cyn gynted â phosib er mwyn iddynt gael
eu gweld gan y disgyblion a’r teuluoedd sy'n perthyn i'r rhai sy’n cael eu
cofio ar y placiau. Nodwyd
bod Swyddogion wedi cynnal proses drylwyr a theg, wedi cynnwys y gymuned yn y
broses honno a bod canlyniad yr ymgynghoriad yn eglur. Diolchodd
yr Aelodau i Louise Harries am ei gwaith o’r cychwyn cyntaf, gan nodi ei bod yn
addas y bydd hyn yn dod i fwcwl gyda gosod y placiau yn y man newydd. Yn
dilyn trafodaeth a phleidlais, PENDERFYNODD y Pwyllgor yn unfrydol i adleoli’r coflechi rhyfel yn Ysgol Henry Richard
gan ddirprwyo swyddogion i gytuno ar yr union leoliad gydag Ysgol Henry
Richard. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Nid oedd dim materion
eraill i’w hystyried. |