Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau - Dydd Iau, 8fed Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Marc Davies a Lyndon Lloyd MBE am nad oedd modd iddynt fod yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu.

3.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 ac ystyried unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 yn gywir.

Materion yn codi

Nid oedd dim materion yn codi.

4.

Derbyn Adroddiad ynghylch cyn Ysgol Uwchradd Tregaron pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau, yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2019, wedi penderfynu rhoi’r eiddo ar y farchnad drwy’r Adain Ystadau gan ofyn am gynigion o oddeutu £160,000; defnyddio’r arian a geir drwy werthu’r eiddo i dalu ffioedd yr Adain Ystadau, sef 1% o’r gwerthiant ynghyd â chost yr adroddiad Tystysgrif Perfformiad Ynni; a rhoi dirprwyaeth i is-grŵp ystyried unrhyw gynigion a ddaw i law.

 

Yr oedd is-grŵp a oedd yn cynnwys y Cynghorwyr Elizabeth Evans, Keith Evans ac Ivor Williams wedi cwrdd ym mis Mehefin eleni i drafod cynnig diamod a ddaeth i law. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod yr is-grŵp wedi craffu ar bob llwybr posib, ac argymhellodd y dylai’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau fwrw ymlaen â’r gwerthiant oherwydd bod yr adeilad yn dirywio’n ddifrifol ac yn barhaus, a’r diffyg arian ar gyfer ei gynnal a’i gadw. Dywedodd fod cwynion wedi dod i law ynghylch llystyfiant yn tyfu’n wyllt.

 

Rhoddodd Louise Harries wybod i’r pwyllgor am ddau fater sy’n ymwneud â’r eiddo hwn:

 

a)    Mae sawl plac hanesyddol wedi’u gosod ar y waliau y tu fewn yr adeilad. Maent yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a Phrifathrawon a fu.  Nodwyd bod adroddiad a ddarparwyd gan Dr Robert Anthony yn 2017 wedi rhoi braslun o’r rheolau ynghylch adleoli’r placiau hyn, gan gynnwys ymgynghori i ddod o hyd i leoliad addas a rhoi gwybod i’r Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel. Nodwyd y byddai ymgynghoriad yn digwydd yn amodol ar benderfyniad i fwrw ymlaen â’r gwerthiant. 

b)    Nodwyd bod eiddo cyfagos yn methu agor ffenest o achos y llystyfiant sy’n tyfu’n wyllt, ac argymhellir bod yr adran Ystadau yn cael eu cyfarwyddo i wneud ychydig o glirio er mwyn gwaredu â’r rhwystr hwn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau fod yn rhaid iddynt bwyso a mesur bob amser yr hyn sydd er lles pennaf yr elusen wrth iddynt wneud penderfyniadau ac y byddai bwrw ymlaen yn galluogi'r elusen i droi gwerth yr ased yn arian fel y gellir defnyddio'r enillion at amcanion yr elusen, sef hybu addysg i blant cyn oed ysgol ac oed ysgol yn Nhregaron.

5.

Atodiad A yn berthnasol i'r Adroddiad uchod (Gwaharddwyd)

Cofnodion:

Nid yw’r adroddiad sy’n ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda, Atodiad A, ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau, wrth ymdrin â’r eitem hon, ystyried a ddylid eithrio’r cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd a'r wasg yn ystod y drafodaeth am eitem 5 ar y sail bod y cais yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys y Cyngor) na ddylid, rhwng popeth, gael eu datgelu i'r cyhoedd a'r wasg.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cynnig diamod a ddaeth i law, cyn dychwelyd i gyfarfod agored i bleidleisio ar yr argymhellion.

Ar ôl trafod a phleidleisio, PENDERFYNODD y Pwyllgor:

a)    dderbyn y cynnig i brynu Hen Ysgol Tregaron;

b)    penderfynu bod y Swyddogion, ar ran yr ymddiriedolaeth, yn dod i gytundeb ac yn cwblhau’r holl ddogfennaeth a materion ategol angenrheidiol, er mwyn bwrw ati i werthu’r eiddo;

c)    creu is-grŵp a fydd yn cael ei ddirprwyo, ar ôl gwerthu'r eiddo, i ystyried argymhellion ynghylch sut i ddefnyddio unrhyw gyfalaf neu incwm sydd ym meddiant yr elusen a hynny er mwyn cyflawni amcanion yr elusen. Rhoddir gwybod i gyfarfod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau am unrhyw argymhellion a ddaw o'r is-grŵp, er mwyn iddynt eu hystyried ac i benderfynu yn eu cylch.  Caiff aelodau’r is-grŵp eu henwebu maes o law.

 

6.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Nid oedd dim materion eraill i’w hystyried.