Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Llun, 28ain Hydref, 2024 9.35 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

           Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Lewis am ei anallu i fynychu'r cyfarfod.

                              

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Medi 2024 ac ystyried unrhyw faterion sy'n
codi o'r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Medi 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 - Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad ar Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig. Cyflwynwyd yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i osod strwythur ffioedd priodol a chynllun awdurdod dirprwyedig ar gyfer Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 mewn perthynas â thrwyddedu gweithdrefn arbennig.

 

Amlinellodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu yr adroddiad a rhoddodd wybodaeth i'r Aelodau ar y Cefndir, Ffioedd Trwyddedu Newydd a'r Awdurdod Dirprwyedig. Yn dilyn eglurhad ar rai materion o fewn yr adroddiad, CYTUNWYD:

 

(i)         Nodi cynnwys a goblygiadau'r adroddiad ac argymell i'r Cabinet y dylid rhoi’r awdurdodi i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 fel y gall swyddogion o fewn Diogelu'r Cyhoedd ddefnyddio pwerau dirprwyedig i gyflawni eu dyletswyddau.

(ii)        Argymell i'r Cabinet y dylid cymeradwyo'r strwythur ffioedd arfaethedig fel y nodir yn y tabl uchod.