Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorwyr Steve
Davies, Endaf Edwards a Caryl Roberts am na fedrent fod yn
bresennol yn y cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Amanda Edwards
am na fedrai fod yn bresennol
yn y cyfarfod gan ei bod yn
cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. e Davies, Endaf Edwards and Caryl Roberts apologised for
their inability to attend the meeting. Councillor Amanda Edwards apologised for her inability to attend the meeting as she was on other Council duties. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 73 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 yn gywir yn amodol
ar nodi bod y Cynghorydd
Paul Hinge wedi anfon ei ymddiheuriadau. Materion yn codi Dim. |
|
Diweddariad cyffredinol- Tacsis a materion eraill (Anstatudol) PDF 15 MB Cofnodion: Ystyriwyd y diweddariad cyffredinol ynghylch tacsis a materion eraill (Anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad
er mwyn hysbysu’r Aelodau o waith yr Adain Drwyddedu
ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a’r gwaith oedd
yn cael ei
wneud ar hyn o bryd. Rhoddwyd diweddariad ynghylch y canlynol:-
CYTUNWYD i nodi’r adroddiad
er gwybodaeth . Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd. Nodwyd hefyd fod Gweithdy i’r
Aelodau wedi ystyried yr ymgynghoriad ynghylch y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022-2027 gan ymateb iddo
yn y ffordd briodol. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: CYTUNWYD y byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn paratoi dogfen gwmpasu i ystyried Blaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor. Dywedwyd y byddai modd cyflwyno’r Polisi Gorfodi gerbron y cyfarfod nesaf gan y byddai’n ddogfen ddefnyddiol i Aelodau newydd y Pwyllgor. |