Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Mawrth, 10fed Medi, 2024 2.15 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am nad oedd hi’n gallu bod yn y cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod 21 Maweth 2024 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

 

4.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad Diweddariad Cyffredinol er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgarwch y Tîm Trwyddedu mewn perthynas â’i swyddogaethau eraill sy’n eistedd o dan y pwyllgor trwyddedu anstatudol. Rhoddwyd diweddariad cryno ar Wythnos Drwyddedu Genedlaethol 2024 (10-14 Mehefin 2024) a Gwrandawiadau Trwyddedu.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

5.

Adolygiad o Bolisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat -Yswiriant Anadferadwy (Arbed Cerbydau) pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

    Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adolygiad o Bolisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat –Yswiriant Anadferadwy (Arbed Cerbydau). Cyflwynwyd yr adroddiad i roi gwybod i Aelodau’r Pwyllgor am y bwriad i adolygu’r polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat presennol, gyda’r bwriad o gynnwys polisi ar ymdrin â cheisiadau i drwyddedu ac ail-drwyddedu cerbydau categori yswiriant anadferadwy.

 

    Yn dilyn derbyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ar y canlynol:

    (i)cynnwys polisi ar drwyddedu cerbydau yswiriant anadferadwy o fewn polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Cyngor Sir Ceredigion; a

    (ii) bod y Tîm Trwyddedu yn cynnal ymgynghoriad 8 wythnos ac yna’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

6.

Diwygio Polisïau Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad Adolygiad o Bolisi Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i gymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus o’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr.

 

Mae’r pynciau y mae angen ymgynghori arnynt a’r diwygiadau arfaethedig yn cynnwys y canlynol:

 

  • Gofyniad DBS 6 mis i yrwyr (DBS i fod yn benodol ar gyfer rôl gyrrwr tacsi / cerbyd hurio preifat)
  • Gofyniad datgelu sylfaenol ar gyfer perchnogion cerbydau.
  • Gofynion hunan-adrodd y trwyddedai,
  • Deiliaid trwyddedau Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat i wneud datgeliadau sylfaenol o staff sydd â mynediad at gofnodion archebu neu anfon cerbydau.
  • Gwiriadau Cofnodion Troseddol Tramor ar gyfer ymgeiswyr am Drwyddedau Cerbyd a thrwydded gweithredwr cerbydau hurio preifat.
  • Grŵp 2 Meddygol  a gyflawnir gan feddyg teulu'r ymgeisydd ei hun neu Feddyg Teulu arall ym mhractis cofrestredig yr ymgeisydd sydd â mynediad llawn i'w gofnodion meddygol. (O dan amgylchiadau eithriadol, a dim ond gyda chytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod Trwyddedu, gall practis meddyg teulu cofrestredig arall gynnal asesiad meddygol cyn belled â bod hanes meddygol llawn yr ymgeisydd wedi’i weld a’i asesu gan y meddyg teulu hwnnw.)
  • Grŵp 2 Meddygol i fod yn ofynnol fel a ganlyn: Ar gais, bob 5 mlynedd rhwng 45 a 65 oed. Bob blwyddyn pan fo'r gyrrwr yn 65 oed neu’n hŷn, neu unrhyw bryd fel sy'n ofynnol gan yr awdurdod trwyddedu neu'r ymarferydd meddygol.
  • Bydd y prawf meddygol yn ddilys am 4 mis o'r dyddiad y bydd y meddyg archwilio, yr optegydd neu'r optometrydd yn ei lofnodi.
  • gofynion a osodir ar berchnogion cerbydau Hygyrch i Gadair Olwyn i sicrhau y gall gyrwyr gynorthwyo teithiwr mewn cadair olwyn i mewn ac allan o'r cerbyd a gosod y gadair olwyn yn y cerbyd yn gywir,
  • gorfodi trawsffiniol, ac ati.

 

Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD ar y canlynol:

(i) cymeradwyo’r sylwadau ynghylch y newidiadau i bolisi’r cyngor ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni/Hurio Preifat, Perchnogion Cerbydau a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat; a

(ii)bod y Polisi diwygiedig drafft yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau perthnasol i'r cynnwys yn dod yn ôl i'r pwyllgor hwn i’w hystyried ar ôl y cyfnod ymgynghori.