Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Wyn Evans a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 yn gywir. Materion yn
codi Dim. |
|
Diweddariad Cyffredinol PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd y diweddariad cyffredinol ynghylch tacsis a materion eraill (Anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad
er mwyn hysbysu’r Aelodau o waith yr Adain Drwyddedu
ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a’r gwaith oedd
yn cael ei
wneud ar hyn o bryd. ·
Papur Gwyn Llywodraeth
Cymru - Bil Tacsis a Cherbydau Hurio
Preifat (Cymru)
·
Wythnos Drwyddedu Genedlaethol
2023 - 12-16 Mehefin 2023 Cynllun “Dywedwch Wrthym Unwaith” y Llywodraeth a
oedd bellach yn cynnwys trwyddedau a hawlenni. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD: (i) i nodi’r adroddiad
er gwybodaeth; ac (ii) i groesawu cynllun
“Dywedwch Wrthym Unwaith” Wythnos Drwyddedu Genedlaethol 2023
(12-16 Mehefin 2023) a oedd bellach yn
cynnwys trwyddedau a hawlenni gan y byddai hyn yn
lleihau biwrocratiaeth yn y system. Hefyd, awgrymodd yr
Aelodau y dylai swyddogion y gwasanaeth ystyried cynnal eu harchwiliadau o fusnesau ar y cyd,
pe byddai unrhyw fusnes yn y Sir yn gofyn am hynny.
Dywedwyd bod hyn wedi’i wneud yng
nghyswllt rhai archwiliadau, ac y byddai hyn yn cael
ei ystyried ymhellach yn y dyfodol. |