Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Iau, 5ed Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Wyn Evans a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 yn gywir.

 

 

Materion yn codi

Dim.

4.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd y diweddariad cyffredinol ynghylch tacsis a materion eraill (Anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn hysbysu’r Aelodau o waith yr Adain Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a’r gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

·       Papur Gwyn Llywodraeth Cymru  - Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru)

  • YmgynghoriadCynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

·       Wythnos Drwyddedu Genedlaethol 2023 - 12-16 Mehefin 2023

Cynllun “Dywedwch Wrthym Unwaith” y Llywodraeth a oedd bellach yn cynnwys trwyddedau a hawlenni.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:

(i) i nodi’r adroddiad er gwybodaeth; ac

(ii) i groesawu cynllunDywedwch Wrthym UnwaithWythnos Drwyddedu Genedlaethol 2023 (12-16 Mehefin 2023) a oedd bellach yn cynnwys trwyddedau a hawlenni gan y byddai hyn yn lleihau biwrocratiaeth yn y system.

 

Hefyd, awgrymodd yr Aelodau y dylai swyddogion y gwasanaeth ystyried cynnal eu harchwiliadau o fusnesau ar y cyd, pe byddai unrhyw fusnes yn y Sir yn gofyn am hynny. Dywedwyd bod hyn wedi’i wneud yng nghyswllt rhai archwiliadau, ac y byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn y dyfodol.