Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Wyn Evans am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 06 Hydref 2022 yn rhai cywir. Materion yn codi Dim. |
|
Diweddariad Cyffredinol Cofnodion: Ystyriwyd y Diweddariad Cyffredinol ar dacsis a materion eraill
(anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am y
gweithgarwch a wnaed gan yr Adain Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a
hefyd i roi gwybod iddynt am y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Rhoddwyd diweddariad ar y canlynol:-
- Cynllun trwyddedu cenedlaethol gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig
(aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio)
CYTUNWYD nodi’r adroddiad er
gwybodaeth. |