Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Wyn Evans am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Hydref 2022 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 06 Hydref 2022 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

4.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y Diweddariad Cyffredinol ar dacsis a materion eraill (anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gweithgarwch a wnaed gan yr Adain Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a hefyd i roi gwybod iddynt am y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y canlynol:-

  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Rhan 4 (Triniaethau Arbennig)

- Cynllun trwyddedu cenedlaethol gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio)

  • Perfformiad Blynyddol y Tîm Trwyddedu - Adroddiad Cyffredinol

 

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.