Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

5.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Ymddiheuriadau

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Steve Davies, Endaf Edwards a Caryl Roberts am na fedrent fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Amanda Edwards am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod gan ei bod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

e Davies, Endaf Edwards and Caryl Roberts apologised for their inability to attend the meeting.

 

Councillor Amanda Edwards apologised for her inability to attend the meeting as she was on other Council duties.

 

6.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

 

7.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 yn gywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Paul Hinge wedi anfon ei ymddiheuriadau.

 

Materion yn codi

Dim.

 

8.

Diweddariad cyffredinol- Tacsis a materion eraill (Anstatudol) pdf eicon PDF 15 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd y diweddariad cyffredinol ynghylch tacsis a materion eraill (Anstatudol). Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn hysbysu’r Aelodau o waith yr Adain Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a’r gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

Rhoddwyd diweddariad ynghylch y canlynol:-

  • Adolygu Prisiau Cerbydau Hacni (Tacsis)
  • Gwrandawiad Tacsi - (Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976)
  • Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth: 2022-2027 - Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio Tacsis, Deddfwriaeth a Diwygio Polisi, Diwygio Trwyddedu a Safonau Cenedlaethol ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat, System Tocynnau a Chynllunio Siwrneiau Integredig

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth .

 

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd.

 

Nodwyd hefyd fod Gweithdy i’r Aelodau wedi ystyried yr ymgynghoriad  ynghylch y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022-2027 gan ymateb iddo yn y ffordd briodol.

 

 

9.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn paratoi dogfen gwmpasu i ystyried Blaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor. Dywedwyd y byddai modd cyflwyno’r Polisi Gorfodi gerbron y cyfarfod nesaf gan y byddai’n ddogfen ddefnyddiol i Aelodau newydd y Pwyllgor.