Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - tacsis a materion eraill (anstatudol) - Dydd Iau, 24ain Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Mark Strong am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Datgan Buddiannau Personol a Byddiannau sy'n Rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 yn rhai cywir

 

Cofnod 7 – Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu iddo drafod y mater â’r Heddlu sy’n gyfrifol am draffig. Byddai modd i’r Heddlu gymryd camau gorfodi o ran y mater hwn gan fod gadael i’r injan redeg pan fydd cerbyd yn sefyll yn ei unfan yn anghyfreithlon o dan Adran 42, Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. Roedd Rheol 123 yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn nodi’r canlynol: "Rhaid i chi beidio â gadael injan cerbyd yn troi yn ddiangen tra bo’r cerbyd hwnnw yn sefyll yn ei unfan ar ffordd gyhoeddus.” Dywedwyd bod yr Heddlu wedi cytuno i gynnal patrolau o amgylch y safleoedd tacsis er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.

 

Mynegodd yr Aelodau hefyd bryderon fod y broblem hon yn codi y tu allan i ysgolion. Cytunwyd felly i anfon llythyr/e-bost at Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i ofyn a fyddai modd cynnwys y pwnc hwn o dan Unrhyw Fater Arall yn y cyfarfod a gynhelir yr wythnos nesaf, gan roi sylw penodol i’r llygredd aer a achosir pan fo rhieni yn gadael i injans eu ceir redeg ac yn defnyddio eu ffonau symudol tra bo eu cerbyd yn sefyll yn ei unfan.

 

4.

Diweddariad Cyffredinol – Tacsis a materion eraill (Anstatudol) pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu a’r Uwch Swyddog Trwyddedu a oedd yn hysbysu’r Aelodau o waith yr Adain Drwyddedu ers y cyfarfod diwethaf fel a ganlyn:-

 

·         Adolygu Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor – Omnibysus a dynnir gan geffylau – Diweddariad

·         Adolygu Prisiau Tacsis

·         Y Grŵp Ymgynghorol ar Ddiogelwch Digwyddiadau - Eisteddfod Tregaron 2022

·         Ceisiadau i Ddosbarthu Ffilmiau

·         Trwyddedau Meysydd Carafanau Gwyliau – Adolygu’r Amodau

·         Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ynghylch y canlynol:-

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth;

(ii) anfon llythyr/e-bost at Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i ofyn a fyddai modd cael trafodaeth o dan Unrhyw Fater Arall yn y cyfarfod a gynhelir yr wythnos nesaf ynglŷn â’r  llygredd aer a achosir pan fo rhieni yn gadael i injans eu ceir redeg ac yn defnyddio eu ffonau symudol tra bo eu cerbyd yn sefyll yn ei unfan; (gweler Materion yn Codi)

(iii) yr angen i atgoffa gyrwyr bysiau a thacsis ysgol i beidio ag ysmygu y tu allan i’w cerbydau ar safle’r ysgol a gerllaw; a

(iv) nodi y byddai fforwm tacsis yn cael ei drefnu yn y dyfodol agos i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir gan yrwyr tacsis.