Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr
Euros Davies a Mark Strong am na allent fynychu'r cyfarfod. |
|||
Datgan diddordebau personol/diddordebau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim |
|||
Cofnodion:
|
|||
Diweddariad Cyffredinol Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad
y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu a'r Uwch Swyddog
Trwyddedu yn sôn wrth yr
Aelodau am weithgarwch a wnaed gan yr
Adran Drwyddedu ers cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor fel a ganlyn:- • ‘Wild
Animal Kingdom’ y Borth – Diweddariad • Cerbydau a Dynnir gan Geffylau – Polisi (Ymgynghoriad) • Trwyddedu Gwersylla – Ymestyn defnydd dros dro i 56 diwrnod • Ystadegau Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat 2020/2021 • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais Gwrandawiadau Tacsi am Drwydded Cerbyd – Hurio Preifat • Bridio Cŵn – Apêl Achos Llys • Diweddariad Cyffredinol ynghylch Deddfwriaeth Lles Anifeiliaid/Bridio Cŵn - Rheoliadau Newydd, Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, ac ati. Yn dilyn
cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD (i) i nodi'r
adroddiad er Gwybodaeth; (ii) nodi
y byddai angen ystyried y Polisi (Ymgynghoriad) – Cerbydau a Dynnir gan Geffylau
mewn pwyllgor Craffu yn y dyfodol
cyn ei gyflwyno
i'r Cabinet; a (iii) nodi
bod adroddiad ar y cyflwyniad i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021; sy'n cyflwyno gwaharddiad
ar werthu cŵn bach gan
drydydd parti (a chathod bach (“Cyfraith Lucy”) yng Nghymru. Roedd y trosolwg o'r sefyllfa
ar hyn o bryd gyda bridio
trwyddedig cŵn yng Ngheredigion i fod i gael
ei ystyried gan Bwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cymunedau Iachach ar 22 Medi
|
|||
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i'r adroddiad ar Drwyddedu Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat – Adolygiad o'r Polisi
ar hyn o bryd - Pennu Addasrwydd
Ymgeiswyr a Deiliaid Trwydded ar hyn
o bryd. Roedd yr adroddiad wedi’i
gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Trwyddedu i’r Gwasanaeth Trwyddedu gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, ar newid
Polisi Addasrwydd y Cyngor yn ymwneud ag ymgeiswyr
a deiliaid cerbydau hacni, cerbydau hurio preifat, trwyddedau gyrwyr a thrwyddedau gweithredwyr. Amlinellwyd y Wybodaeth
ganlynol:- • Cefndir • Angen i Adolygu'r Polisi Addasrwydd/Ffitrwydd ar hyn
o bryd • Yr Angen am Ymgynghoriad • Goblygiadau Cyfreithiol Yn dilyn
cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i:- (i) gymeradwyo'r
adolygiad o'i Bolisi Addasrwydd ar gyfer Trwyddedu
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, a (ii) cymeradwyo'r angen i ymgynghori â'r fasnach a'r cyhoedd yn ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol) ar y Polisi Addasrwydd/Ffitrwydd drafft (Gyrwyr a Pherchnogion Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat). |
|||
Cofnodion: Ystyriwyd y Cynnig
i Adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu Cyngor Sir
Ceredigion yn ymwneud â Gweithredwyr, Gyrwyr a Cherbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd yr adroddiad wedi'i
gyflwyno i hysbysu Aelodau'r Pwyllgor o'r angen i adolygu'r
Polisïau ar hyn o bryd o ran Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a cheisio ei gymeradwyaeth i ymgynghori ar adolygiad
y Polisi. Amlinellwyd y Wybodaeth
ganlynol:- • Cefndir • Newidiadau i Ddatganiad y Polisi Trwyddedu • Ymgynghori • Cyraeddadwyedd • Goblygiadau Cyfreithiol Yn dilyn
cwestiwn o'r llawr, CYTUNWYD Argymhellir bod y Pwyllgor yn ystyried
cynnwys yr adroddiad ac yn penderfynu CYMERADWYO:- (i) yr adolygiad
o'i Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n ymwneud â'r
Gyrwyr, Gweithredwyr a Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, yn unol â Safonau
Statudol newydd yr Adran Drafnidiaeth
ac Argymhellion Llywodraeth
Cymru o ran Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat; a (ii) yr angen i ymgynghori â'r fasnach a'r cyhoedd yn ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol er enghraifft; grwpiau hygyrchedd) ar Ddatganiad drafft o Bolisi Trwyddedu. |
|||
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Cododd y Cynghorydd Gareth Davies ei bryderon ynghylch gyrwyr tacsi yn rhedeg peiriannau eu ceir y tu allan i giât yr ysgol; roedd hyn hefyd yn wir gyda gyrwyr tacsis ar y safle tacsis yn ystod y gaeaf i gadw'n gynnes. Dywedwyd bod hyn yn erbyn y gyfraith oherwydd ei effaith ar yr amgylchedd. Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y dylai'r Cynghorydd Davies, yn dilyn y cyfarfod, gysylltu ag ef gyda manylion yr ysgol, rhif y tacsi ac ati er mwyn gallu anfon llythyr o’r Gwasanaeth Trwyddedu yn eu hysbysu bod y mater hwn wedi'i wahardd. Byddai trefniadau hefyd yn cael eu gwneud i ymweld â'r ardaloedd hyn ac arolygu cerbydau. |