Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 14eg Gorffennaf, 2022 9.30 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bob Aelod i’r cyfarfod.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Caryl Roberts am nad oeddent yn medru bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

3.

Datgelu buddiannau personol/buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2022 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 346 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2022.

 

Materion yn codi

6(iii) Gofynnwyd am gadarnhad ynghylch a anfonwyd y llythyr i’r Comisiwn Hapchwarae. Nodwyd y tybiwyd bod y llythyr wedi’i anfon, ond byddid yn gofyn am gadarnhad gan y swyddog pan fyddai’n dychwelyd.

5.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar y Diweddariad Cyffredinol.  Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno er mwyn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005.

 

Rhoddwyd y diweddariad a ganlyn ar faterion cysylltiedig â Deddf Trwyddedu 2003

  • Eisteddfod Tregaron 2022
  • Ceisiadau a gaiff eu Herio (Adolygiadau/Apeliadau)
  • Archwilio Safleoedd a Thor Rheolau
  • Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro
  • Ymestyn yr Hawl i Werthu Alcohol - Rheoliadau Trwyddedu Alcohol (Coronafeirws)(Hawddfreintiau Rheoleiddio)(Diwygio) 2021
  • Wythnos Genedlaethol Drwyddedu 2022
  • Rhan B Materion Cysylltiedig â Deddf Gamblo 2005
  • Llywodraeth Cymru - Niwed sy’n gysylltiedig â Gamblo

 

CYTUNWYD nodi’r sefyllfa bresennol.