Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Wyn Evans a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi

Dim

4.

Gwybodaeth Cyffredinol pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch y Diweddariad Cyffredinol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn adolygu a thrafod y gwaith o weithredu Deddf Trwyddedu 2003 a’r cynnydd a wneir o ran y ddeddf, ynghyd ag unrhyw faterion cysylltiedig sy'n codi o gyfrifoldebau’r Pwyllgor penodol hwn. Roedd y materion hyn yn cynnwys Deddf Gamblo 2005.

 

Rhoddwyd y diweddariad canlynol:-

  • Rhan A: Deddf Trwyddedu 2003 – Materion Cysylltiedig

Ceisiadau lle’r oedd gwrthwynebiad (Adolygiadau/Apeliadau)

Cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) 

o   ‘Big Tribute Festival’, Aberystwyth 25 – 27 Awst 2023

o   Gŵyl Tân yn y Mynydd, Abermagwr, Aberystwyth: 1 – 5 Mehefin 2023

 

     Canllawiau DiwygiedigAdran 182 (Deddf Trwyddedu 2003)

  • Rhan B: Deddf Gamblo 2005 – Materion Cysylltiedig

o   Papur Gwyn – Adolygu’r Ddeddf Gamblo

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr am gynnwys yr adroddiad, CYTUNWYD:-

(i) i nodi’r adroddiad er gwybodaeth; ac

(ii) y dylai’r holl ymatebion i bapurau ymgynghori gael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor fel y gallai’r Aelodau eu hystyried.