Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2022/23 a 2023/24

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Gwyn James ac eiliwyd gan y Cynghorydd

             Keith Evans a PHENDERFYNWYD yn unfrydol fod y Cynghorydd Paul

             Hinge yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn

             fwrdeistrefol 2022/23 a 2023/24.

 

 Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol

             2022/23 a 2023/24

    Cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Hinge ac eiliwyd gan y Cynghorydd John

             Roberts a PHENDERFYNWYD yn unfrydol fod y Cynghorydd Gwyn James

             yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn

             fwrdeistrefol 2022/23 a 2023/24.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Hydref 2022 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 06 Hydref 2022 yn rhai cywir.

 

 

6.

Diweddariad Cyffredinol pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad ar y diweddariad Cyffredinol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar faterion perthnasol, mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005.

 

Rhoddwyd y diweddariad canlynol ar faterion sy’n gysylltiedig â Deddf Trwyddedu 2023:-

  • Ceisiadau lle’r oedd gwrthwynebiad (Adolygiadau/Apeliadau)
  • Licensing SAVI (y Fenter Diogelwch a Bregusrwydd)
  • Y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd o dan adran 182, Deddf Trwyddedu 2003
  • Ymgynghoriad - Ymestyn Oriau Trwyddedu - Coroni’r Brenin Siarl
  • Perfformiad Blynyddol y Tîm Trwyddedu - Adroddiad Cyffredinol

 

Gofynnodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu am adborth gan yr Aelodau ar y paneli a gynhaliwyd yn rhithiol. Roedd gan yr aelodau bryderon oherwydd roedd problemau cysylltu yn ystod un o’r paneli a dywedasant y dylid cynnal y paneli wyneb yn wyneb. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaethau Democrataidd nad oedd ei gwasanaeth yn gallu cefnogi system hybrid ar gyfer y paneli hyn, a nododd, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol a’r Strategaeth Gorfforaethol i leihau’r ôl troed Carbon, y dylid cynnal y cyfarfodydd hyn dros Zoom yn unig. Os oes anawsterau technegol, dylid gohirio’r cyfarfod. 

 

 

PENDERFYNWYD

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth;

(ii) nodi ers cyhoeddi’r agenda bod y Papur Gwyn ar y Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) wedi’i gyhoeddi ar 09 Mai 2023. Byddai’r Gwasanaeth yn paratoi ar gyfer ymateb a gofynnir i banel o Aelodau ystyried yr ymateb cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Byddai holl Aelodau’r Pwyllgor yn cael copi o’r ymateb;

(iii) cyhoeddwyd yng Nghyllideb Gwanwyn 2023 y byddai’r llywodraeth yn cynyddu’r cyfraddau tollau o dan y strwythur tollau diwygiedig ar gyfer cynhyrchion alcohol a gyflwynir o 1 Awst 2023 ymlaen yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae hyn yn cynnwys yr holl gynhyrchion alcoholaidd a gynhyrchir yn y DU neu a fewnforir i’r DU. Byddai’r llywodraeth hefyd yn cynyddu gwerth Rhyddhad Cwrw Casgen o 5% i 9.2% ar gyfer cynhyrchion cwrw a seidr cymwys ac o 20% i 23% ar gyfer gwin, cynhyrchion eples eraill, a gwirodydd cymwys. Daw’r holl newidiadau i rym o 1 Awst 2023 ymlaen;

(vi) y dylai’r cyflwyniad ar y Licensing SAVI (y Fenter Diogelwch a Bregusrwydd) gael ei rannu gyda’r Aelodau er gwybodaeth drwy’r Gwasanaethau Democrataidd ac y dylai’r Cyngor hyrwyddo’r fenter hon, dylid hefyd rhoi gwybod i’r Tîm Cyfathrebu am y fenter er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol;

(v) y dylai’r gwasanaeth cynllunio gael gwybod am yr Egwyddor Cyfrwng Newid yn 14.66 ac y byddai Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu hefyd yn derbyn hyfforddiant ar faterion cynllunio a oedd yn effeithio ar drwyddedu.

 

 

7.

Adroddiad am Gyfraith Martyn - Y Ddyletswydd Diogelu pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar Gyfraith Martyn – y Ddyletswydd Diogelu.

           Darparwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • Cefndir
  • Beth fydd Cyfraith Martyn yn ei wneud?
  • Pa Safleoedd / Lleoliadau fydd yn cael eu cynnwys?
  • Sut fydd yn gweithio?
  • Beth am y lleoliadau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr?
  • A fydd hyn yn effeithio ar hygyrchedd?
  • Sut fydd Cyfraith Martyn yn cael ei gorfodi?

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, a barn ar y baich biwrocratiaeth ar wirfoddolwyr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth.