Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Iaith - Dydd Iau, 14eg Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

CADARNHAWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: O ran eitem 10, esboniodd y Swyddog Polisi Iaith fod neges e-bost wedi’i hanfon at Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Talgarreg.

5.

Strategaeth Iaith Ceredigion 2024-2029 pdf eicon PDF 14 MB

Cofnodion:

Esboniodd y Swyddog Polisi Iaith mai diben yr adroddiad oedd cyflwyno  Strategaeth Iaith Ceredigion 2024-29 i’r Pwyllgor cyn y byddai’r Strategaeth yn mynd gerbron y Cabinet i’w chymeradwyo ar 3 Rhagfyr 2024. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Strategaeth rhwng 26 Gorffennaf a 31 Awst 2024. Ystyriwyd pob un o’r 72 o ymatebion a ddaeth i law a lle bo’n briodol, cafodd mân newidiadau eu gwneud i’r Strategaeth er mwyn adlewyrchu’r awgrymiadau a amlinellwyd yn nhudalennau 2-7 yr adroddiad. Byddai rhai o’r newidiadau yn gwella’r broses ar gyfer monitro a mesur y cynnydd a wneid o ran pob cam gweithredu yn y Strategaeth.

 

Byddai Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion yn parhau gyda chymorth pedwar grŵp strategol newydd a fyddai’n canolbwyntio ar feysydd gwaith penodol (Dysgu, Byw, Perthyn a Llwyddo).

 

Diolchodd y Swyddog Polisi Iaith i’r Tîm Polisi a Pherfformiad am ddadansoddi’r ymatebion ac am baratoi’r adroddiad adborth yn dilyn yr ymgynghoriad. Roedd 53% o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cytuno â gweledigaeth gyffredinol y Strategaeth. Roedd 44% o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad wedi nodi eu bod yn Gymry ac roedd 28% wedi nodi mai Prydeinig oeddynt. Cydnabuwyd nad oedd yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn y modd mwyaf effeithiol o ystyried iddo gael ei gynnal yn ystod cyfnod a oedd yn cyd-daro â gwyliau’r haf. Roedd llai o gyfleoedd ar gael felly ar gyfer sesiynau wyneb yn wyneb. Byddai’r gwersi a ddysgwyd o’r ymarfer ymgynghori yn allweddol wrth ymgynghori ynghylch Strategaeth nesaf y Gymraeg.

 

Mynegwyd pryder nad oedd 56% o’r rhai a ymatebodd yn teimlo bod ganddyn nhw na’u sefydliadau rôl o ran ceisio gwireddu gweledigaeth y Strategaeth. O ystyried hyn, dywedwyd ei bod yn hanfodol adolygu aelodaeth Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. Roedd yr Aelodau yn cefnogi’r angen i Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion fod yn fwy cynhwysol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans at e-bost a anfonwyd at Aelodau’r Pwyllgor gan Dr Jeff Smith ar ran Cymdeithas yr Iaith. Roedd yr e-bost yn codi pryderon ynghylch diffyg uchelgais yr awdurdod lleol ac yn benodol y targed o weld cynnydd o 1.5% yn nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2029. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dylai’r cynnydd fod yn 5% sef targed tebyg i’r un yr oedd Cyngor Sir Powys wedi’i osod.

 

Esboniodd y Swyddog Polisi Iaith fod gwaith manwl wedi’i wneud yn y cefndir i sicrhau bod y ffigwr yn un cadarn ac i ystyried a oedd unrhyw dystiolaeth newydd yn awgrymu y dylai’r ffigwr gael ei ddiwygio ymhellach. Eglurodd fod yna dystiolaeth ystadegol gref i gadw at y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg 1.5% erbyn 2029 (612 o siaradwyr yn seiliedig ar linell sylfaen 2021). Nid oedd tystiolaeth glir i gefnogi targed o 5% fel yr oedd Cymdeithas yr  Iaith yn ei argymell, felly awgrymodd y Swyddog y dylai unrhyw dystiolaeth ynghylch hyn gael ei rhannu â Gwasanaeth Polisi a Pherfformiad yr awdurdod lleol a hi ei hunan. Ar ôl trafod hyn â Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Sir Powys, cafodd wybod nad oedd Strategaeth Iaith newydd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Blynyddol Cered: Menter Iaith Ceredigion pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered gyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

·           Nod a Chyfraniad Strategol Cered

·           Cyllid, Strwythur a Staffio

·           Partneriaid

·           Targedau 2024-25, Themâu ac Uchafbwyntiau

·           Crynodeb

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

·       Nid oedd dim cynlluniau i ymestyn y ‘Clwb Roc’ a oedd yn cael ei gynnig yn Ysgol Penglais ar hyn o bryd i ysgolion eraill y sir am fod yr adnoddau yn brin, ond byddai ystyriaeth yn cael ei roi i wneud hynny wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.

·       Pan fyddai offer cyfieithu yn cael ei logi, ni fyddai cyfieithydd yn cael ei gynnwys gyda’r offer. Roedd Cered yn ymwybodol o’r heriau yr oedd  cymunedau lleol a Chynghorau Cymuned yn eu hwynebu wrth geisio canfod cyfieithwyr. Mewn rhai achosion mae siaradwyr Cymraeg wedi cael eu defnyddio fel sylwebyddion mewn digwyddiadau yn hytrach na llogi cyfieithwyr.

·       Roedd trafodaethau’n parhau rhwng Cered a Swyddog Polisi Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch cefnogi’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Roedd sesiwn gyda’r meddygon iau wedi’i chynnal yn ddiweddar.

·       Roedd Cynllun Gohebwyr Ifanc Chwaraeon Ceredigion ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i bobl ifanc roi cynnig ar sylwebu ar gemau pêl-droed ar wasanaeth Cymru Sport. Awgrymodd un o’r Aelodau y gallent hefyd ysgrifennu adroddiadau yn y papurau newydd lleol (e.e. y papurau bro).

·       Teimlai’r Aelodau fod y cyllid craidd o £120,626.00 drwy gynllun grantiau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn annigonol. Roedd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gyflogi staff a chostau cysylltiedig. Roedd gostyngiad wedi bod yn nifer y staff dros y blynyddoedd am nad oedd y ffigwr wedi cynyddu ers 2015-16. Dywedwyd bod y Swyddogion a’r Aelodau Etholedig yn codi mater diffyg cyllid i gefnogi’r Gymraeg o fewn awdurdodau lleol gyda Llywodraeth Cymru ar bob cyfle posibl. Roedd gweddill cyllid Cered yn dod oddi wrth yr awdurdod lleol ac roedd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau a gweithgareddau.

 

Gwnaeth yr Aelodau longyfarch Cered a diolch i bawb yn y tîm am eu gwaith o gofio’r cyllid cyfyngedig yr oeddent yn ei dderbyn.

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad blynyddol fel cofnod o waith Cered yn ystod y cyfnod dan sylw ac i nodi gwaith y Fenter wrth hyrwyddo a datblygu defnydd y Gymraeg yng Ngheredigion.

7.

Adroddiad Blynyddol Theatr Felinfach pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar weithgaredd Theatr Felinfach rhwng Ebrill - Medi 2024 ac i’r uchafbwyntiau a’r rhaglen waith rhwng Hydref 24 – Mawrth 2025. Roedd creadigrwydd, y celfyddydau a chyfranogi yn rhan annatod o ddiwylliant Ceredigion ac roedd Theatr Felinfach yn gweithredu fel canolbwynt i’r egni a’r uchelgais creadigol oedd yn byrlymu drwy ardaloedd gwledig y sir. Roedd Theatr Felinfach yn gyrchfan greadigol, Gymreig a dwyieithog naturiol a chroesawgar i unigolion, grwpiau a mudiadau, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd.

 

Darparwyd trosolwg o'r canlynol fel y nodwyd yn yr adroddiad:

·       Gwerthoedd a chyfraniad Theatr Felinfach i Strategaethau ehangach

·       Cyllid, Strwythur a Staffio

·       Partneriaid

·       Gweithgaredd Theatr Felinfach yn 6 mis cyntaf 2024-25

·       Blaenoriaethau’r 6 mis i ddod

 

Nodwyd y byddai pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn cael eu gosod ar y campws yn fuan. Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor a oedd yn amlinellu’r amrywiol weithgareddau yr oedd Theatr Felinfach yn eu cynnig.

 

Bu i’r Aelodau ganmol gwaith pawb yn Theatr Felinfach gan nodi eu hymrwymiad a’u parodrwydd i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed, o un genhedlaeth i’r nesaf.

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad blynyddol fel cofnod o waith Theatr Felinfach yn ystod y cyfnod dan sylw ac i nodi gwaith y theatr yn hybu a datblygu lles, datblygu sgiliau a’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion.

8.

Hybu hyder a hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod yn y gweithle pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Polisi Iaith drosolwg o’r gweithgareddau, adnoddau ac ymgyrchoedd oedd yn hybu hyder a hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod yn y gweithle

 

Cyfeiriwyd at y canlynol:

·       Fforwm Dyfodol Dwyieithog – Dulliau Mwy Strategol

·       GWENA 'Mae’n ddydd Gwener'

·       Recriwtio – Diweddariad

·       Ymgyrchoedd / Gweithgareddau

 

Diolchodd y Swyddog Polisi Iaith i Non Davies, Rheolwr Corfforaethol – Diwylliant am ei chymorth yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y rôl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Polisi Iaith am ei gwaith a’i brwdfrydedd ac am weithio’n agos gyda gwasanaethau’r awdurdod lleol. Ychwanegodd iddi ymweld â Chartref Gofal Preswyl Hafan y Waun yn ddiweddar ac iddi gael gwybod y byddai Huw Owen, y Tiwtor Cymraeg yn mynd i’r cartref yn fuan i ddysgu rhai ymadroddion Cymraeg i’r staff.

 

CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth.

9.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Nodwyd y byddai’r canlynol yn cael eu cynnwys ar agendâu cyfarfodydd y dyfodol:

·       Diweddariad ar Fframwaith ALTE/ CEFR

·       Trosolwg o gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol yr awdurdod lleol

·       Datblygu canllaw ar ddefnydd y Gymraeg ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.