Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Chris James am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y byddai'n hwyr yn ymuno â'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

iii.    Ymddiheurodd Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol- Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n hwyr yn ymuno â'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

3.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iaith a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2022 pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

CADARNHAWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2022 yn gywir.

4.

Materion yn codi o'r cofnodion

Cofnodion:

Nodwyd y byddai cyflwyniad yn cael ei roi yn canolbwyntio ar ganlyniadau Iaith Gymraeg Cyfrifiad 2021 yn y cyfarfod nesaf. Roedd papur pwnc wedi’i gyhoeddi ac ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu hymdrech i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd Democrataidd.  

5.

Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-23 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Iaith fraslun o fframwaith cyfreithiol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r gofynion i lunio Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd yr oedd y Cyngor wedi ei wneud wrth fynd i’r afael a gofynion gweithredu’r Safonau Iaith ar draws ei wasanaethau, ac yn canolbwyntio ar y cyfnod 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn nodi'r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn cydymffurfio gyda gofynion y Safonau, ac wedi’i drefnu o dan y 5 Prif Safon sef:

       Safonau Darparu Gwasanaethau

       Safonau Llunio Polisi

       Safonau Gweithredu Mewnol

       Safonau Hybu (y gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi Strategaeth 5 mlynedd)

       Safonau Cadw cofnodion

 

Darparwyd trosolwg o'r prif gyflawniadau yn 2022-23. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn disgwyl bod y Cyngor yn medru darparu tystiolaeth gyferbyn a’r dangosydd perfformiad, ac fe geir dadansoddiad llawn yn rhan o’r adroddiad.

 

Cydnabuwyd bod y broses o weithredu’r Safonau yn un parhaus ac roedd y Cyngor wedi ymrwymo i barhau i gyflawni gwelliannau, ac i weithredu er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd gofynion Safonau’r Gymraeg yn llaw.

 

Yn ystod y cyfnod adrodd nesaf, bydd ffocws ar y canlynol:

       Datblygu Strategaeth Hybu’r Gymraeg ar gyfer y cyfnod 5 myned nesaf, yn unol â Safon 145/146.

       Adolygu Canllaw Asesu Effaith Integredig, er mwyn helpu swyddogion i nodi unrhyw effaith ar y Gymraeg wrth gyflwyno penderfyniadau polisi.

       Datblygu prosiect ‘Croeso Ceredigion’ mewn ymgais i geisio cymhathu mewnfudwyr; y gwaith yn deillio o Fforwm Dyfodol Dwyieithog.

       Datblygu canllaw ar ddefnydd y Gymraeg ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

       Adnewyddu tudalennau ‘Iaith ar Waith’ ar fewnrwyd y Cyngor, cynnwys canllawiau a datblygu deunydd cymorth atodol sydd ei angen i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

       Prosiect hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiwylliant a Chymreictod mewn cartrefi preswyl.

 

Nodwyd bod yr Aelodau’n cael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd Democrataidd a bod cyfleusterau ar gael i gefnogi hyn a oedd yn cynnwys canllaw ar gadeirio a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus dwyieithog, ond mater i bob unigolyn oedd dewis iaith.

 

Gofynnodd pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflogeion hunanasesu eu sgiliau iaith. Mesurodd Cyngor Sir Ceredigion sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu gan ddefnyddio Fframwaith ALTE (‘The Association of Language Testers in Europe’).  Argymhellwyd bod adroddiad yn egluro'r broses yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i

       Dderbyn Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion (2022- 23).

       Gymeradwyo bod yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo a chyhoeddi ar wefan corfforaethol y Cyngor, fel sy’n ofynnol dan drefn Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

6.

Adroddiad Cyflawniad Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Cyflawniad Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23. Fe sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i orfodi dyletswyddau ar sefydliadau penodol, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

       Mae Safon 145 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae’r Cyngor yn bwriadu hybu’r Gymraeg ac hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn yr ardal ehangach.

       Mae Safon 146 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu i ba raddau mae’r Cyngor wedi dilyn y strategaeth honno ac wedi cyrraedd y targed.

 

Roedd cyfnod y Strategaeth gyfredol yn dod i ben yn 2023 ac roedd yr adroddiad cyrhaeddiad wedi cael ei baratoi, gyda mewnbwn partneriaid.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dau ran:

       Adroddiad Adolygu Strategaeth Iaith: sy’n adrodd ar ein dulliau o weithredu, ynghyd â’r dulliau o fesur canlyniadau

       Adroddiad ar Gyflawniad Strategaeth Iaith: sy’n adrodd ar yr holl weithgareddau a drefnwyd er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg (Atodiad 1)

 

Prif nod Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23 oedd anelu at gynyddu defnydd o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd y Sir; gosodwyd tri maes strategol i’w gyflawni yn rhan o’r strategaeth:

       Cynyddu sgiliau iaith trigolion Ceredigion

       Cynnal a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngheredigion mewn amrywiol gyd-destunau

       Sicrhau amodau cymdeithasol sy’n galluogi’r Gymraeg i ffynnu yng Ngheredigion

 

Rhoddwyd crynodeb o brif lwyddiannau gweithredu'r Strategaeth Iaith. Cydnabuwyd bod Covid-19 wedi effeithio ar lawer o’r gwaith gan fod ymgysylltu yn un o’r prif nodau.

 

Pennodd y Strategaeth hefyd darged i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion o 47.5% i 48.5%, sef cynnydd o tua 1,500 erbyn 2023. Ers Cyfrifiad 2011, nododd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ostyngiad o 3,286 (2%) o bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Er gwaethaf gostyngiad cyffredinol, roedd cyfran yr oedolion rhwng 16-44 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu 2.2% erbyn 2021. Rhaid nodi bod angen gofal wrth ddehongli data’r Cyfrifiad gan fod y darlun yn un cymhleth iawn. Roedd arolygon eraill gan gynnwys yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion wedi cynyddu. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg ar y gwahanol ddata sy’n bodoli ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg, ac yn ceisio datrys pam bod y canlyniadau mor wahanol i’w gilydd.

 

Wrth adolygu cyrhaeddiad y Strategaeth Iaith, roedd yn bwysig cydnabod bod cynllunio iaith yn broses tymor hir, ac roedd gweithredu er lles y Gymraeg yn cymryd amser i’w feithrin; fodd bynnag roedd y Cyngor yn teimlo’n hyderus bod y Strategaeth Iaith wedi gosod y seiliau cywir ar gyfer symud ymlaen i’r cyfnod 5 mlynedd nesaf. Cynhaliwyd gweithdy ar 20 Mawrth 2023 i drafod y Strategaeth Iaith Gymraeg newydd ac roedd nifer dda o aelodau’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog yn bresennol.

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

       Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet, bydd proses ymgynghori yn cychwyn yn fuan ynghylch newid cyfrwng iaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Targedau Cered: Menter Iaith Ceredigion pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r canlynol:

       Nod Cered

       Cyfraniad strategol

       Cyllid

       Strwythur a Staffio

       Partneriaid

       Targedau 2023-24

       Themâu (Plant, Pobl Ifanc, Y Gymuned, Dysgwyr a Seilwaith)

       Crynodeb

 

Codwyd y prif bwyntiau canlynol yn ystod y trafodaethau:

       Estynnwyd gwahoddiad i fynychu Ras yr Iaith yn Aberystwyth ar 22 Mehefin 2023 i ysgolion dalgylch Ysgol Penglais ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

       Roedd y niferoedd a gymerodd ran mewn gwahanol brosiectau yn amrywio (5 yn y Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc ar gyfer cefnogwyr pêl-droed a 25 ar ‘Ar Gered’). Roedd Cered yn awyddus i ddatblygu prosiectau ymhellach yn amodol ar gyllid a gallu.

       Rhoddwyd hyfforddiant yn y gorffennol i alluogi pobl i ddefnyddio'r offer cyfieithu sydd ar gael i'w fenthyg gan gymunedau; mae'n bosibl y gellid ymchwilio i hyn eto yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad ar dargedau Cered ar gyfer y cyfnod dan sylw ac yn nodi gwaith y Fenter wrth hyrwyddo a datblygu defnydd y Gymraeg yng Ngheredigion.

8.

Diweddariad Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd sylw i’r adroddiad a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau sut mae’r polisi enwi a rhifo strydoedd wedi datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2022- Mawrth 2023).

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.         

9.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Awgrymwyd yr eitemau canlynol gan Aelodau'r Pwyllgor:

       Cyflwyniad ar Fframwaith ALTE

       Adroddiad ar gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol Ceredigion (cyfarfod Rhagfyr)

       Strategaeth newydd y Gymraeg

       Canlyniadau Iaith Gymraeg Cyfrifiad 2021

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.