Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorwyr Rhodri Davies a John Roberts am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod am ei bod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

3.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iaith a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2022 pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

CADARNHAWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2022 yn gywir.

4.

Materion yn codi o'r cofnodion

Cofnodion:

Dim.

5.

Yr Asesiad o Lesiant Lleol - canfyddiadau allweddol yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 2021

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r pwyllgor yn canolbwyntio ar y canfyddiadau allweddol a ddeilliodd o’r Asesiad o Lesiant Lleol mewn perthynas â Chrynodebau Pwnc y Gymraeg a Chyfrifiad 2021. Amlinellwyd y canlynol:

  • Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg a Tharged Ceredigion
  • Cyd-destun (data ar siaradwyr Cymraeg yn 1991, 2001 a 2011)
  • Y Dull Pum Cam Bywyd a fabwysiadwyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gorllewin Cymru(Dechreuadau Newydd, Plentyndod, Ieuenctid, Oedolion, Pobl Hŷn)
  • Cyfrifiad 2021 a Chrynodebau Testun
  • Newid Poblogaeth: Ceredigion (2001-2043)
  • Demograffeg a Mudo
  • Camau Nesaf

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod crynodeb o bwnc y Gymraeg o’r Cyfrifiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2021 i’w ryddhau yfory (6 Rhagfyr 2022). Bydd Adroddiad yr Iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen dystiolaeth i fod yn sail i ddatblygiad Strategaeth newydd yr Iaith Gymraeg yn y flwyddyn newydd.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn dilyn y cyflwyniad: 

·       Yng Nghyfrifiad 2021, cafodd myfyrwyr sy’n astudio yn y Sir eu cynnwys ym mhoblogaeth breswyl arferol Ceredigion (yn debyg i Gyfrifiad 2011). Fodd bynnag, mae posibilrwydd o dangyfrif myfyriwr gan fod llawer yn byw gartref (i ffwrdd o Geredigion) pan gynhaliwyd y Cyfrifiad oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Bydd data pellach yn cael ei ryddhau ym mis Ionawr a fydd yn rhoi cipolwg pellach ar y mater hwn.

·       Y berthynas bwysig rhwng dementia a dwyieithrwydd wrth i unigolion ddychwelyd i'w hiaith gyntaf; roedd gwaith yn mynd rhagddo ar ddarpariaeth gwasanaeth dementia yn y sir.

·       Pwysigrwydd canlyniadau Iaith Gymraeg Cyfrifiad 2021 i ymgynghoriad y Cyngor ar ddarpariaeth addysg ôl-16.

·       Roedd mesur defnydd o'r Gymraeg yn anodd iawn wrth gasglu data. Mae cwestiynau ar y defnydd o'r Gymraeg yn amrywio mewn arolygon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Cyfrifiad.

·       Byddai canlyniadau mwy manwl Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i drefnu gweithdy yn benodol ar ganlyniadau’r Cyfrifiad maes o law.

 

6.

Cyflwyno Polisi'r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau yn unol â Safon 94 pdf eicon PDF 578 KB

Cofnodion:

Nodwyd, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fod Comisiynydd y Gymraeg wedi pennu ystod o Safonau’r Gymraeg, sy’n cynnwys rhestr fanwl iawn o ofynion sy’n amlinellu sut y mae’n rhaid i Geredigion ddefnyddio a hybu’r Gymraeg yn y gweithle ac wrth ymwneud â'r Cyhoedd. Hyn, er mwyn darparu gwasanaethau Cymraeg o safon; sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Yn unol â hyn, mae Safon y Gymraeg 94 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi Polisi Iaith Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau. Pwrpas y polisi yw cynorthwyo swyddogion i sicrhau bod ystyriaethau Safonau’r Gymraeg yn elfen integredig o’r broses grantiau ar draws y Cyngor, a sicrhau bod Swyddogion yn asesu effaith dyfarnu grantiau ar y Gymraeg.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn y Polisi argymell cyflwyno’r Polisi i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth.

7.

Prif Ystyriaethau Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg: Y Gymraeg fel Ffordd o Weithio' 2021-22 pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg, a gyhoeddir bob blwyddyn, a oedd yn rhoi barn y Comisiynydd ar y ffordd y mae sefydliadau, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, yn gweithredu gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Rhoddwyd trosolwg o’r canfyddiadau allweddol ynghyd â’r prif faterion y mae angen i Gyngor Sir Ceredigion eu hystyried ymhellach, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Safonau’r Gymraeg fel yr amlinellir isod: 

1.    Safon Llunio Polisi: Gofyniad i Asesu Effaith ar y Gymraeg:

2.    Safonau Gweithredu: Recriwtio a Hysbysebu

3.    Gwasanaethau Allweddol: Ffonio Uniongyrchol

4.    Hybu Gwasanaethau Cymraeg

5.     Effaith diffygion gwasanaethau ar ddefnyddwyr y Gymraeg

6.    Y Camau Nesaf

 

Gofynnir i bob Swyddog Arweiniol Corfforaethol gwblhau Asesiad Perfformiad Safonau’r Gymraeg, er mwyn gwerthuso cydymffurfiaeth ag agweddau o’r Safonau ym mis Ionawr 2023.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i gefnogi’r gweithredoedd sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

8.

Holiadur gan Gomisiynydd y Gymraeg: Arferion cyfredol sefydliadau cyhoeddus o ran hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg, a'r data sy'n bodoli ar ddefnydd gwasanaethau Cymraeg (Hydref 2022) pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Iaith bod Comisiynydd y Gymraeg yn cysylltu’n gyson ynglŷn â chydymffurfedd Cyngor Sir Ceredigion â gofynion Safonau’r Gymraeg. Anfonwyd yr holiadur diweddaraf i bob awdurdod lleol ym mis Hydref ynglŷn â threfniadau i Hyrwyddo Gwasanaeth Cymraeg. Amlygwyd bod coladu data i fesur defnydd o’r Gymraeg yn gallu bod yn anodd. Mae mwy o waith yn cael ei wneud i ddeall pa ddata all fod yn arwyddocaol o ran defnydd iaith, a bydd yr Awdurdod Lleol yn cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg wrth i’r gwaith yma ddatblygu.

 

Yn dilyn ystyriaeth, CYTUNWYD i dderbyn y dystiolaeth amgaeedig, sydd wedi’i gyflwyno at sylw Comisiynydd y Gymraeg.

9.

Annog defnydd y Gymraeg mewn Pwyllgorau Democrataidd yn unol â gofynion Safonau'r Gymraeg (Safonau 30-40) pdf eicon PDF 269 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o'r adroddiad. Eglurodd y Swyddog Iaith fod Safonau’r Gymraeg (Safonau 30-40) wedi’u gweithredu gan Gyngor Sir Ceredigion ers 2016 yn dilyn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg. Elfen a oedd angen sylw pellach oedd annog y defnydd o’r Gymraeg o fewn Cyfarfodydd Democrataidd. Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi datblygu canllaw ar gadeirio a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus dwyieithog, gan gynnwys rhestr o derminoleg ddefnyddiol, sydd ar gael ar CeriNet i bob Cynghorydd.

 

Nododd y Cadeirydd fod angen i'r Gymraeg fod mor weladwy â phosibl mewn cyfarfodydd, er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith.  

 

Yn dilyn ystyriaeth, CYTUNWYD i dderbyn cynnwys yr Adroddiad.

10.

Diwrnod ShwMae: Dathlu Dysgwr y Flwyddyn pdf eicon PDF 203 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Iaith mai nod Diwrnod Shwmae yw bod yn ddiwrnod cenedlaethol arbennig ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Eleni, defnyddiodd Cyngor Sir Ceredigion y diwrnod i ddathlu llwyddiannau Melisa Elek, a lwyddodd yn ei harholiad Cymraeg lefel uwch yn haf 2022 ac a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn Ceredigion. Amlygwyd bod cynllun Cymraeg Gwaith Ceredigion yn rhedeg mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chynigiwyd amrywiaeth o gyrsiau gan Huw Owen, Swyddog Hyfforddiant Cymraeg Gwaith yr awdurdod.

 

Llongyfarchwyd Melisa Elek ar ei llwyddiant.  

11.

Diwrnod Hawliau Comisiynydd y Gymraeg: 7fed Rhagfyr

Cofnodion:

Nodwyd bod Mesur y Gymraeg wedi’i basio gan y Senedd ar 7 Rhagfyr 2011. Pwrpas y diwrnod oedd i sefydliadau cyhoeddus hyrwyddo argaeledd gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ac annog eu defnydd. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu fideo yn canolbwyntio ar hyn a fydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn fewnol, bydd ymgyrch ‘gair y dydd’ Cymraeg a ddechreuodd yn ystod Cwpan y Byd Fifa 2022 yn para tan y Nadolig. 

12.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru- Dyfodol Cymunedau Cymraeg (dyddiad cau 13 Ionawr 2023):

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Iaith fod Panel Aelodau wedi’i drefnu ar gyfer 5 Ionawr 2023 i ystyried yr ymgynghoriad. Byddai ymateb drafft yn cael ei ddosbarthu i'r aelodau maes o law unwaith y byddai tystiolaeth wedi'i chasglu.

13.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.