Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. Dymunwyd y gorau i Mrs Carys Morgan, Swyddog Iaith yn ystod ei thriniaeth ar hyn o bryd |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiant
personol na buddiant sy’n rhagfarnu. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iaith a gynhaliwyd ar 07 Rhagfyr 2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 07 Rhagfyr 2020. |
|
Materion yn codi o'r cofnodion Cofnodion: Dim. |
|
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion
ddadansoddiad i'r Aelodau o'r broses o weithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn
Addysg, i gynnwys y broses ddemocrataidd a’r broses ymgynghori. Dywedwyd bod Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gynllun 10 mlynedd ar gyfer 2022-2032 ac y
byddai'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2022. Cynlluniwyd
yn unol â 7 deilliant statudol er mwyn datblygu a chryfhau lle’r Gymraeg o fewn
addysg. Deilliant 1: Rhagor o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant
2: Rhagor o blant dosbarth derbyn/ pump oed yn cael eu
haddysg drwy gyfrwng y
Gymraeg Deilliant 3: Rhagor o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo
o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall Deilliant
4: Rhagor o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y
Gymraeg Deilliant 5: Rhagor o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn
cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol Deilliant 6: Cynnydd yn y
ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion
ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan
Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018) Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff
addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol-Ysgolion y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am sefyllfa Ysgolion Ceredigion ar bob un o'r
deilliannau uchod a'r data i gefnogi'r sefyllfa ar hyn o bryd a sefyllfa’r
dyfodol. Yn dilyn cyflwyniad manwl a chwestiynau o'r llawr, dywedwyd y
byddai'r cynllun nawr yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu i'w ystyried ac yna i'r Cabinet gytuno y byddai'n cael ei
anfon allan i ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Data am ail gartrefi a llety gwyliau Ceredigion Cofnodion: Rhoddodd Dr Sarah
Groves-Phillips ddiweddariad ar effaith ail gartrefi
yn awdurdodau’r arfordir a oedd wedi’i thrafod yn eang yn y cyfryngau yn
ddiweddar, a bu galwadau ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfyngiadau i'r
niferoedd, neu newid y fframwaith cynllunio i gynnig mwy o amddiffyniad i
ardaloedd sydd wedi gweld nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau. Mae
papur yr adroddiad yn ymchwilio i sut mae’r sefyllfa yng Ngheredigion yn
cymharu'n rhanbarthol ac yn tynnu sylw at ardaloedd lle gallai cyfraddau fod
wedi cyrraedd lefelau anghynaliadwy yn y sir. Cyflwynwyd yr
adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar 03.03.2021.
Cytunodd y Pwyllgor i gymeradwyo’r Cynnig a gynigiwyd
i’r Cyngor: Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 1. ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol gwneud cais cynllunio cyn cael yr hawl i newid cartref preswyl yn gartref gwyliau neu lety gwyliau 2. addasu fframwaith y polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd y cartrefi gwyliau mewn ardal benodol 3. ei gwneud yn orfodol i berchnogion ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn newid ail gartref yn fusnes gwyliau neu’n fusnes AirBnB Cytunodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus hefyd i argymell i'r Cyngor y codir cynnydd 100% ar dreth y cyngor ar gartrefi gwyliau yn y sir. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, diolchodd yr Aelodau i'r swyddog am adroddiad cynhwysfawr ac wedi ei ysgrifennu'n dda. CYTUNWYD i gefnogi argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus i'r Cyngor |
|
Adroddiad Monitro Safonau'r Gymraeg 2020-21 Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ar yr Adroddiad Monitro
Blynyddol - Safonau’r Gymraeg 2020-21. Amlinellodd yr adroddiad a gyflwynwyd y
cynnydd wrth weithredu gofynion Safonau’r Gymraeg. Yn unol â Safon 158, mae'n
rhaid cyhoeddi'r adroddiad erbyn 30 Mehefin 2021. Yn dilyn cwestiynau o'r
llawr, CYTUNWYD i:- (i)
derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion
(2020-21) a (ii)
argymell y dylid cyflwyno'r adroddiad llawn i Gabinet y Cyngor i'w
gymeradwyo ac yna ei gyhoeddi ar wefan gorfforaethol y Cyngor. |