Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Gwener, 15fed Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

4.

YSTYRIED SYLWADAU A PHENDERFYNU AR ADRODDIAD A BARATOWYD GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU O DAN ADRAN 71(2)(C) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 - ar achos honedig o dorri Cod Ymddygiad Cyngor Sir Ceredigion/Cyngor Cymuned Llansantffraed ar gyfer Aelodau gan y Cynghorydd Andrew Phillips pdf eicon PDF 162 KB

Nid yw atodiad 3 sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a’r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

 

 

Wrth ddelio â’r eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cam Cyntaf - Materion Rhagarweiniol

Trafododd y Pwyllgor faterion rhagarweiniol gan gynnwys gohebiaeth a dogfennaeth berthnasol a thystion yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraff 37).

 

CYTUNODD y Pwyllgor:

  a)         i fabwysiadu gweithdrefn Cyngor Sir Ceredigion fel y nodir yn Rhan 5 Dogfen S y Cyfansoddiad (y "Weithdrefn Gwrandawiadau")

 

  b)         ar ôl cymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd,

i)               y dylai'r gwrandawiad (ac eithrio penderfyniadau) ddigwydd yn gyhoeddus oni bai bod rheswm da dros eithrio'r cyhoedd (paragraff 33 Gweithdrefn Gwrandawiadau) a/neu resymau dilys dros beidio â gwneud hynny i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn bywyd cyhoeddus (paragraff 1.24 Canllawiau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru).

 

  c)         gohirio'r penderfyniad ynghylch a ddylid clywed tystiolaeth gan dystion yr Aelod tan y cam Canfod Ffeithiau. Nid oedd y Pwyllgor yn dymuno galw unrhyw dystion ychwanegol.

 

Ail Gam - Canfyddiadau Ffeithiol

Trafododd y Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig yr Ombwdsmon a dogfennau pellach a gyflwynwyd gan yr Aelod a'r Ombwdsmon yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraffau 38-44). Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cyflwyniadau llafar gan gynrychiolydd yr Ombwdsmon, yr Aelod, cynrychiolydd yr Aelod a thyst sy’n cyflwyno’r ffeithiau.

 

Gwnaeth y Pwyllgor ganfyddiadau ffeithiol mewn perthynas â ffeithiau diamheuol ar gydbwysedd tebygolrwydd yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraffau 45-51).

 

Y Trydydd Cam - Y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau

Canfu'r Pwyllgor yn ôl cydbwysedd tebygolrwydd bod ymddygiad yr Aelod wedi torri paragraff canlynol Cod Ymddygiad Cyngor Sir Ceredigion/ Cyngor Cymuned Llansantffraed ar gyfer Aelodau.

 

“6. (1) Rhaid i chi —

(a) peidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod”

 

Camau i’w Gweithredu / Sancsiynau

Yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraffau 52-57), CYTUNODD y Pwyllgor:

a)    Mewn perthynas â’r mater sy’n ymwneud â’r Cynghorydd Andrew Phillips o Gyngor Cymuned Llansantffraed, penderfynodd y Pwyllgor arfer ei bŵer yn unol â Rheoliad 9 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd, y dylai'r Aelod gael ei geryddu.