Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Mercher, 16eg Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans a Mr Alan Davies am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd Ms Elin Prysor fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu o dan eitemau 9 (g)/(vii) a 17 (xiii), (xiv) a (xv). Ystyriwyd yr eitemau hyn ar ddiwedd y cyfarfod. Y Dirprwy Swyddog Monitro oedd yn bresennol ar ôl i’r Swyddog Monitro adael y Siambr.

 

Datgelodd Mrs Dana Jones, Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd a Safonau, fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu o dan eitemau 9 (vii) i (xii), 11, a 17. Y Swyddog Craffu a Safonau fu’n cymryd y cofnodion pan drafodwyd yr eitemau hyn.

vacated the Chamber.

 

 

4.

Cyfle blynyddol i annerch y pwyllgor gan Arweinydd Grwp am hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau Cyngor Sir Ceredigion

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Grŵp  Plaid Cymru, y Cynghorydd Elizabeth Evans, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Cynghorydd Keith Evans ar ran Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Grŵp Annibynnol i’r cyfarfod i annerch y pwyllgor ynglŷn â hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau Cyngor Sir Ceredigion.

 

Y Cynghorydd Bryan Davies oedd y cyntaf i annerch y Pwyllgor. Dywedodd fod y cyhoedd a'r wasg yn llafar iawn eu barn oherwydd y toriadau yng nghyllideb y Cyngor. Roedd ef ac aelodau eraill y Cabinet wedi derbyn negeseuon e-bost annymunol iawn. Dywedodd ei fod yn deall bod gan bobl deimladau cryf am rai o’r materion sensitif a ystyriwyd yn rhai o gyfarfodydd y Cabinet yn ddiweddar megis y drafodaeth ynghylch y broses o gau ysgolion cynradd a symud Llyfrgell Aberaeron. Fodd bynnag, ychwanegodd y dylai’r cyhoedd a ddaeth i’r Siambr wastad ymddwyn yn briodol tuag at yr Aelodau a’r Swyddogion. Dywedodd fod cyfarfodydd bellach yn cael eu cynnal rhwng Arweinwyr y Grwpiau a'r Swyddog Monitro a'i bod yn fuddiol trafod materion sy'n peri pryder a materion sy’n ymwneud â’r cod ymddygiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei bod yn cytuno â sylwadau'r Cynghorydd Bryan Davies gan nodi bod gan y cyhoedd deimladau cryf am y materion hyn ers y trafodaethau ynghylch pennu treth y cyngor ar gyfer 2024/2025. Roedd nifer o faterion dadleuol wedi’u trafod yng nghyfarfod y Cabinet yn ddiweddar gan gynnwys yr ysgolion a’r llyfrgell yn ei ward hi. Serch hynny, dywedodd fod yr Arweinydd wedi cadeirio'r cyfarfodydd hyn yn ardderchog. Dywedodd fod yn rhaid i bawb ddangos parch tuag at ei gilydd er bod gan bobl deimladau cryf. Roedd pob un o’i haelodau wedi mynychu’r hyfforddiant am y Cyfryngau Cymdeithasol, ac roedd hi hefyd wedi eu hannog nhw i rannu gwybodaeth am waith y Cyngor ar eu tudalennau ar y Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn i'r trigolion fod yn ymwybodol ohono. Roedd yr hyfforddiant diweddaru ar y cod ymddygiad ym mis Tachwedd i’w groesawu, ac roedd hi bob amser yn atgoffa ei haelodau o'r angen i ddarllen agendâu cyfarfodydd yn eu cyfanrwydd i weld a oedd angen iddynt ddatgelu buddiannau. Roedd hi hefyd wedi dweud wrthynt fod angen iddynt ystyried bod eu sefyllfa fel unigolion yn wahanol i’w rôl fel Cynghorwyr gan y byddai  e-byst o gyfrif e-bost y Cyngor yn dod o dan y Cod Ymddygiad. Hefyd, dywedodd ei bod yn cytuno â'r Arweinydd fod cyfarfodydd y Swyddog Monitro gydag Arweinwyr y Grwpiau yn rhywbeth yr oedd yn ei groesawu gan ei fod yn gyfle cyfrinachol i drafod achosion o fynd yn groes i’r Cod Ymddygiad a materion cyffredinol eraill.

 

Darllenodd y Cynghorydd Keith Evans lythyr ar ran y Cynghorydd Rhodri Evans, Arweinydd y Grŵp Annibynnol. Roedd y Cynghorydd Rhodri Evans wedi ymddiheuro na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. Roedd y llythyr yn nodi bod y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd, gan wneud hynny ddwywaith y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2024 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

6.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2024 pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2024 yn gywir yn amodol ar nodi bod Mrs Llinos James wedi anfon ei hymddiheuriadau.

 

7.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 23 Awst 2024 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Awst 2024 yn gywir.

 

 

8.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Cofnodion 19 Gorffennaf 2024 -

·       Byddai hyfforddiant diweddaru ynghylch y Cod Ymddygiad a'r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gynnal ar gyfer y Cynghorwyr Sir ar 27/11/24.

·       Gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ynghylch adolygu’r templed ar gyfer asesu cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol. Dywedwyd bod rhywfaint o waith wedi’i wneud ar hyn ond cytunwyd y byddai’r mater hwn yn cael ei gynnwys ar y Flaenraglen Waith fel y gellid ei ystyried ymhellach.

 

9.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:

10.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Calon Tysul) pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 15 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ynghylch cyllid posibl ar gyfer Calon Tysul. Roedd y Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Rheoli ac roedd yn cynghori’r Pwyllgor. Gan mai’r Cynghorydd Evans oedd y Cynghorydd Sir lleol a’i fod hefyd yn aelod o’r Cyngor Cymuned lleol, roedd sefydliadau lleol yn edrych tuag ato am gyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno pob un o’i geisiadau ac i ateb cwestiynau ynglŷn â’i geisiadau.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

         

11.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Calon Tysul) pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

12.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

                  Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 15 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ynghylch cyllid posibl ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul. Roedd y Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Rheoli ac roedd yn cynghori’r Pwyllgor. Gan mai’r Cynghorydd Evans oedd y Cynghorydd Sir lleol a’i fod hefyd yn aelod o’r Cyngor Cymuned lleol, roedd sefydliadau lleol yn edrych tuag ato am gyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth.

                   

                  PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

13.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

                  Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 15 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ynghylch cyllid posibl ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul. Roedd y Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Rheoli ac roedd yn cynghori’r Pwyllgor. Gan mai’r Cynghorydd Evans oedd y Cynghorydd Sir lleol a’i fod hefyd yn aelod o’r Cyngor Cymuned lleol, roedd sefydliadau lleol yn edrych tuag ato am gyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth.

                   

                  PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

14.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Llandysul Pontweli) pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

15.

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Llandysul Pontweli) pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 15 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ynghylch cyllid posibl ar gyfer Llandysul Pont-Tyweli Ymlaen Cyf.  Roedd y Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ar y Bwrdd Rheoli fel Cyfarwyddwr ac roedd yn cynghori’r Bwrdd. Gan mai’r Cynghorydd Evans oedd y Cynghorydd Sir lleol a’i fod hefyd yn aelod o’r Cyngor Cymuned lleol, roedd sefydliadau lleol yn edrych tuag ato am gyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

         

 

16.

Y Cynghorydd Brett Stones, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Brett Stones ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau (llety hunanddarpar, cabanau, carafanau ac ail gartrefi). Roedd yn berchen ar fusnes mordeithiau gwylio dolffiniaid, siop gwerthu pasteiod a llety gwyliau yng Nghei Newydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Stones siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

17.

Y Cynghorydd Jennifer Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Jennifer Davies ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunan-arlwyo, ail gartrefi, podiau glampio a charafanau. Roedd ei merch-yng-nghyfraith yn berchen ar eiddo hunanddarpar.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a) ac (e)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. 

 

17a

Y Cynghorydd Julian Evans, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Julian Evans ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunanddarpar, ail gartrefi, podiau glampio a charafanau. Roedd yn berchen ar lety hunanddarpar yng Ngheinewydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a) ac (e)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis

 

18.

Y Cynghorydd Sioned Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Sioned Davies ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunanddarpar, ail gartrefi, podiau glampio a charafanau. Roedd ei thad yn berchen ar lety hunanddarpar yng Ngheinewydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a) ac (e)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

19.

Y Cynghorydd Tomas Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Tomas Davies ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunanddarpar, ail gartrefi, podiau glampio a charafanau. Roedd yn Gyfarwyddwr ar Barc Gwyliau Pencnwc ger Ceinewydd, Caerfelin yn Aberporth a New Minterton yn Ninbych-y-pysgod. Roedd ganddo hefyd ddau eiddo a oedd yn cael eu gosod ar rent yn ardal Ceinewydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliad 2 (d) a (f)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

20.

Y Cynghorydd Ywain Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 16 Medi 2024 oddi wrth y Cynghorydd Ywain Davies ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunanddarpar, ail gartrefi, podiau glampio a charafanau. Ef oedd perchennog/Cyfarwyddwr Maes Carafanau Wern Mill, Gilfachreda, Ceinewydd. Roedd ganddo lety gwyliau – carafanau teithiol, carafanau sefydlog, cartrefi gwyliau a chabanau gwyliau. Roedd gan ei deulu hefyd lety gwyliau yn lleol. Gallai ceisiadau cynllunio gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ei fusnes (cadarnhaol neu negyddol). Gallai ei farn/penderfyniad gael ei ystyried yn unochrog neu’n ddiduedd gan y cyhoedd neu’r rhai a fyddai’n cyflwyno’r cais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliad 2 (d) a (f)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

21.

Cofnod o Gamau Gweithredu pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Cofnod o Gamau Gweithredu fel y’i cyflwynwyd. Dywedwyd y byddai pob Aelod o’r Cyngor Sir yn derbyn hyfforddiant diweddaru ar y Cod Ymddygiad ar 27 Tachwedd 2024 gan gynnwys materion yn ymwneud â’r Cyfryngau Cymdeithasol.

 

22.

Y diweddaraf am faterion Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r cynnwys.

 

23.

Diweddariad Cod Ymddygiad Swyddog Monitro - Chwarter 1 & 2 2024/2025 pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r cynnwys. Awgrymwyd y gallai’r ffigurau gael eu cyflwyno mewn fformat gwahanol megis tabl fel y gellid cael trosolwg clir o’r tueddiadau

24.

Hyfforddiant Cyngor Tref a Chymuned pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd hyfforddiant ynghylch y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd ynghylch y canlynol:-

 

Byddai un sesiwn hyfforddi ar-lein yn cael ei chynnal bob blwyddyn.

Byddai’n agored i bob Cyngor Tref a Chymuned. Byddai’r sesiwn yn cael ei recordio a’i dosbarthu i’r rheini na fyddai’n medru bod yn bresennol.

Pe na fyddai llawer yn dod i’r sesiwn, byddai angen ystyried cynnal y sesiwn hyfforddi mewn ffurf arall. Byddai dyddiadau, amseroedd a fformat yr hyfforddiant ar-lein yn cael eu cadarnhau maes o law. Roedd Mrs Gail Storr a’r Cynghorydd Elen Page wedi cytuno i gynorthwyo â’r sesiynau hyfforddi. Byddai mewnbwn aelodau eraill y Pwyllgor hefyd yn cael ei groesawu.

 

25.

Cofnodion Fforwm Pwyllgor Safonau Cymru /Diweddariad pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r cofnodion a’r cyflwyniadau a ddarparwyd yn y cyfarfod  er gwybodaeth.

 

26.

Canfyddiadau Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi Canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch materion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad a’r Llythyr Blynyddol er gwybodaeth.

 

27.

Blaenraglen Waith Moeseg a Safonau 2024/25 pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:-

  • Roedd dyddiad newydd wedi’i bennu ar gyfer y gwrandawiad sef 15 Tachwedd 2024 a hynny am fod y gwrandawiad ar 08 Hydref 2024 wedi’i ohirio.
  • Byddai’r templed ar gyfer asesu cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol yn cael ei gynnwys ar agenda’r cyfarfod ym mis Ionawr 2025 fel y gellid ei ystyried ymhellach
  • Byddai hunanwerthusiad y pwyllgor yn cael ei ddosbarthu’n fuan fel y gellid adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r cyfarfod ym mis Ionawr 2025.
  • Byddai adolygiad yn cael ei gynnal o’r broses ar gyfer gwrandawiadau yn dilyn nifer o wrandawiadau yn ystod y misoedd diwethaf.

 

28.

Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda

29.

Cynghorydd Brett Stones, Cyngor Tref Cei Newydd ( cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Brett Stones ynglŷn â Chynllun Lle Cei Newydd. Roedd yn berchen ar fusnesau yng Nghei Newydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Stones siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

30.

Cynghorydd Julian Evans, Cyngor Tref Cei Newydd (cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 13 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Julian Evans ynglŷn â’r Cynllun Lle. Roedd Neuadd Goffa / Hwb Cei Newydd wedi’i nodi fel Ased Cymunedol yng nghamau cynllunio cychwynnol y cynllun lle. Yn ystod y trafodaethau, dymuniad y rhanddeiliad oedd gweld Cei Newydd yn darparu digwyddiadau drwy’r flwyddyn ar gyfer y gymuned. Roedd yn un o ymddiriedolwyr Neuadd Goffa Cei Newydd a’i wraig oedd Swyddog Datblygu Hwb Cymunedol Cei Newydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

30a

Cynghorydd Sioned Davies, Cyngor Tref Cei Newydd, (cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 13 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Sioned Davies ynglŷn â’r Cynllun Lle. Yn ystod y trafodaethau, dymuniad y rhanddeiliad oedd gweld Cei Newydd yn darparu digwyddiadau drwy’r flwyddyn ar gyfer y gymuned. Roedd yn un o ymddiriedolwyr Neuadd Goffa Cei Newydd a’i mam oedd Swyddog Datblygu Hwb Cymunedol Cei Newydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

30b

Cynghorydd Tomas Davies, Cyngor Tref Cei Newydd ( cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 13 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Tomas Davies ynghylch y pum blaenoriaeth yr oedd angen i Gyngor Tref Cei Newydd eu hystyried ar gyfer Cynllun Lle Cei Newydd. Roedd y rhain yn ymwneud â 5 maes allweddol sef llesiant, creu lleoedd, treftadaeth a diwylliant, yr economi a’r amgylchedd. Roedd yn Gyfarwyddwr ar Barc Gwyliau Pencnwc ger Cei Newydd.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; a bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; (rheoliadau (a) a (d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

31.

Cynghorydd Matthew Vaux- Cyngor Tref ( cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 13 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Davies ynghylch y pum blaenoriaeth yr oedd angen i Gyngor Tref Cei Newydd eu hystyried ar gyfer Cynllun Lle Cei Newydd. Roedd y rhain yn ymwneud â 5 maes allweddol sef llesiant, creu lleoedd, treftadaeth a diwylliant, yr economi a’r amgylchedd. Y Cynghorydd Davies oedd yr Aelod ar Gyngor Tref Cei Newydd a oedd yn gyfrifol am y Ganolfan Dreftadaeth a'r Amgueddfa. Roedd hefyd yn aelod o’r grŵp cymunedol a oedd yn bwriadu creu gardd gymunedol ar safle’r hen lyfrgell gan gynnwys mynediad i’r ysgol gynradd leol.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; a bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; (rheoliadau (a) a (d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

32.

Cynghorydd Jennifer Davies, Cyngor Tref Cei Newydd ( cais yn Saesneg yn unig oherwydd gyflwynwyd yn hwyr) pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 14 Hydref 2024 oddi wrth y Cynghorydd Vaux ynglŷn â Chynllun Lle Cei Newydd. Roedd yn berchen ar Siop Pysgod a Sglodion ‘The Captain’.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Vaux siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; (rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.