Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd Miss Caryl Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
yn eitem 16 ar yr agenda, a chadeiriwyd yr eitem gan y Cynghorydd
Caroline White. Datgelodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn 5 (a) |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 03 Ebrill 2023 fel rhai cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 03 Ebrill 2023 fel cofnod cywir
yn amodol ar y canlynol:- (i) diwygio “fy” i “ei” trigolion
yng nghofnod 7(b); (ii) diwygio rhif/llythyren paragraff y cofnod o 7(p) gan fod dau
7(p) wedi'u cynnwys yn y cofnodion; (iii) diwygio cofnod 7(x) o “fy musnes” i “ei fusnes”; (iv) diwygio/ychwanegu llinell olaf y cofnodion gan ddileu “wastad”; (v) diwygio cofnod 7(a) o “ei” i “ei” gais; (vi) mai’r dyddiad i gadarnhau’r cofnodion oedd 05 Mehefin 2023 ac nid 28 Mehefin 2023 gan fod dyddiad y cyfarfod
wedi’i drefnu’n gynharach; (vii) dylai eitem 10 ddweud 24 Gorffennaf ac nid 29 Gorffennaf (vii) nodi mai Miss
Caryl Davies oedd y Cadeirydd
ac nid Mrs Materion sy’n Codi Dim. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cofnodion: CYTUNWYD i nodi Cofnod y Camau Gweithredu fel y'i cyflwynwyd. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol |
|
Cynghorydd John Roberts, Cyngor Sir Ceredigion Cofnodion:
Cafwyd cais
yn dwyn dyddiad
08 Ebrill 2023 oddi wrth y Cynghorydd John Roberts,
Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn
am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn mewn perthynas â’r ffordd yr
ymdrinnir â TB gan Lywodraeth Cymru. Roedd ei frodyr yn
berchen ar dir yng Ngoginan.
Roedd y tir wedi’i rannu’n ddau. Roedd un brawd wedi lesio’i
holl dir i wahanol bobl nad
oedd yn eu
hadnabod. Mae'r brawd arall yn
cadw cwpl o geffylau ar gyfer
pori yn unig. Nid oedd
ganddo ddim diddordeb yn y tir heblaw gwirfoddoli
i fwydo'r ceffylau tra roedd ei
frawd yn gwella ar ôl
llawdriniaeth ddifrifol. Credaf nad oedd
ceffylau yn cael eu hystyried
yn anifail amaethyddol. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Roberts i siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB i’r Cyngor a fyddai’n cael ei ystyried
yn eu cyfarfod
ar 15 Mehefin 2023 ar y sail bod natur buddiant yr aelod
yn golygu na fyddai cyfranogiad
yr aelod yn y busnes y mae'r
buddiant yn ymwneud ag ef yn
niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; (Rheoliad 2 (d)) Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 15 Mehefin 2023 a chyfarfodydd dilynol y Cyngor os oedd angen, ond heb fod yn hwy na chwe mis. |
|
Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion Cofnodion: Cafwyd cais
yn dwyn dyddiad
01 Mai 2023 gan y Cynghorydd
Rhodri Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ar
Gais Cynllunio A201012 a oedd yn
cael ei drafod
yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023. Roedd y Cynghorydd
Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais.
Dywedodd nad oedd yn credu
bod ganddo fuddiant sy'n rhagfarnu ond roedd am ddod
â hyn gerbron y Pwyllgor Moeseg a Safonau er mwyn tryloywder. Yr ymgeisydd Mr. O Jones oedd ei was priodas yn ei briodas
yn 2007. Yn ei dro bu'r
Cynghorydd Evans yn ystlyswr ym mhriodas
yr ymgeisydd dros 10 mlynedd yn ôl. Fel
yr Aelod Lleol, dywedodd nad oedd ganddo
bleidlais ar y cais hwn, ond
teimlai y dylai fod ganddo’r hawl
i siarad ynglŷn â’r cais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans i siarad yn unig (gan
ei fod yn
Aelod y Ward ac wedi ceisio siarad yn
unig) ar Gais Cynllunio A202012 yn y Pwyllgor Rheoli
Datblygu ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd
penodol yr aelod (Rheoliad 2(d)) Rhoddwyd y gollyngiad
ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023 a’r Pwyllgor Rheoli
Datblygu dilynol os oedd angen,
ond nid yw’n
fwy na chwe
mis. |
|
Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion Cofnodion: Cafwyd cais
yn dwyn dyddiad
01 Mai 2023 gan y Cynghorydd
Rhodri Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ar
Gais Cynllunio A220751 a oedd yn cael
ei drafod yn y Pwyllgor Rheoli
Datblygu. Roedd y Cynghorydd
Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais.
Dywedodd nad oedd yn credu
bod ganddo fuddiant sy’n rhagfarnu ond roedd am ddod
â hyn gerbron y Pwyllgor Moeseg a Safonau er mwyn tryloywder. Yr ymgeiswyr
oedd Mr a Mrs G ac E Jones. Mr G Jones brawd ei frawd
yng nghyfraith. Fel yr Aelod
Lleol, dywedodd nad oedd ganddo
bleidlais ar y cais hwn, ond
teimlai y dylai fod ganddo’r hawl
i siarad ynglŷn â’r cais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans i siarad yn unig (gan
ei fod yn
Aelod y Ward ac wedi ceisio siarad yn
unig) ar Gais Cynllunio A220751 yn y Pwyllgor Rheoli
Datblygu ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd
penodol yr aelod (Rheoliad 2(d)) Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023 a’r Pwyllgor Rheoli Datblygu dilynol os oedd angen, ond nid yw’n fwy na chwe mis. |
|
Adroddiad Blynyddol 2023/23 y Pwyllgor Moeseg a Safonau Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2022/23. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am baratoi’r Adroddiad Blynyddol yn amodol
ar y diwygiadau a ganlyn:- (i) bod mesuriadau’r siart gylch yn
Adran 5 yn cael eu rhannu
yn ôl hyd
yr amser a'r math o ollyngiad; (ii) rhoi “dim data ar gael” ar
gyfer Cynghorau Tref/Cymuned ar dudalen
27 yr adroddiad; a (ii) rhoi terfyn amser o chwe mis i Gynghorwyr gwblhau Hyfforddiant y Cyfryngau Cymdeithasol yn adran Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol |
|
Asesiad Cydymffurfio Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i Asesiad Cydymffurfio Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol. Cwblhaodd arweinwyr y grwpiau eu hadroddiadau erbyn 30/4/23. Cynhaliwyd gweithdy gydag arweinydd pob grŵp yn
unigol ar 15/5/23 gyda: · Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid
Cymru) · Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Democratiaid Rhyddfrydol) · Y Cynghorydd Gareth Lloyd (Grŵp annibynnol) Aeth y Pwyllgor
ati i asesu i ba raddau yr
oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol wedi: 1. cymryd camau
rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r grŵp 2. cydweithredu â’r Pwyllgor wrth
arfer swyddogaethau’r Pwyllgor 3. nodi unrhyw anghenion
o ran hyfforddiant Roedd y Pwyllgor
o’r farn bod: 1. Arweinwyr y grwpiau
wedi cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r
grŵp, ac wedi gwneud hynny mewn
ffordd ystyrlon, er bod diffyg tystiolaeth a metrigau yn yr
adroddiadau. Er bod arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn credu eu
bod nhw wedi gwneud digon i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r
grŵp, nid oedd digon o dystiolaeth
i gefnogi hyn. Roedd yr ymatebion yn
oddrychol ac yn annelwig, ac nid oeddent yn canolbwyntio
ar y Cod Ymddygiad. 2. Roedd arweinwyr
y grwpiau wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i gydweithredu â’r Pwyllgor wrth
arfer swyddogaethau’r Pwyllgor. 3. Dylai holl
arweinwyr y grwpiau sicrhau bod aelodau eu grwpiau’n cwblhau’r
hyfforddiant ar-lein ynghylch y cyfryngau cymdeithasol o fewn 6 mis. Argymhellion neu sylwadau ynghylch y lefel o gydymffurfiaeth â’r dyletswyddau newydd hyn: Dylai pob
arweinydd grŵp sicrhau bod aelodau eu grwpiau’n cwblhau’r
hyfforddiant ar-lein ynghylch y cyfryngau cymdeithasol. Dylid darparu
hyfforddiant ychwanegol ar gyfer 2023/2024 er mwyn sicrhau bod arweinwyr y grwpiau’n cwblhau’r templedi mewn modd digonol,
gyda mwy o fetrigau a thystiolaeth. Parhau i ymgysylltu
â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau a’r Swyddog Monitro mewn modd rhagweithiol. Parhau i ymgysylltu
ag arweinwyr y grwpiau eraill i ddysgu oddi wrthynt a chefnogi eich gilydd
i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol. Parhau i ddefnyddio
cyfarfodydd y grwpiau i ddarparu cyfleoedd i fentora’n anffurfiol. Parhau i ddefnyddio
cyfarfodydd y grwpiau i rannu achosion a gwersi a ddysgwyd, a dylid ystyried cynnwys achosion Panel Dyfarnu Cymru/Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel eitem sefydlog
ar yr agenda. Argymell i’r
aelodau na ddylent arwyddo deisebau. CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Cofnodion: CYTUNWYD y byddai Mr John Weston yn parhau i fod yn Is-gadeirydd y Pwyllgor tan 22 Chwefror 2023. |
|
Cynllunio ar gyfer olyniaeth - aelodau annibynnol Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i'r Adroddiad ar Gynllunio ar
gyfer Olyniaeth o ran Aelodau Annibynnol. Roedd yr argymhellion
yn angenrheidiol i sicrhau bod y penodiadau priodol yn eu
lle, yn unol
â'r Cyfansoddiad CYTUNWYD argymell i’r Cyngor gymeradwyo: 1) Cyfnod swydd Carol Edwards yn cael ei
ymestyn 22/2/2024 i 21/2/2028. 2) y disgrifiad o’r rôl, manyleb y person a’r meini prawf
3) Aelodaeth y Panel Dethol fel a ganlyn: • Cadeirydd y Cyngor (Is-gadeirydd yn ei absenoldeb); • Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (wedi’i enwebu gan
y Swyddog Monitro) • Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau (neu aelodau annibynnol eraill a enwebir gan y Swyddog Monitro yn ôl
yr angen) • Cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned a enwebir gan Un Llais Cymru. • Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (Cadeirydd y panel dethol); (a enwebir gan y Swyddog Monitro); |
|
Hunanwerthuso'r Pwyllgor Moeseg a Safonau Cofnodion: Yng nghyfarfod
y Pwyllgor Moeseg a Safonau ar 13 Hydref 2022 cytunwyd y byddai papur ar hunanwerthuso’r
Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cael
ei ystyried yn y cyfarfod nesaf. Roedd y Cadeirydd,
yr Is-gadeirydd a’r Swyddogion wedi cyfarfod ac wedi drafftio holiadur
er mwyn hunanwerthuso’r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn flynyddol.
Cafodd yr holiadur arfaethedig ei gyflwyno i’r
Pwyllgor ar 25ain Ionawr 2023 a chynigiwyd bod hunanwerthusiad yn cael ei gwblhau
yn flynyddol gan aelodau’r Pwyllgor
Moeseg a Safonau ar ddiwedd blwyddyn
y cyngor. Cytunwyd i roi
mwy o ystyriaeth i’r hunanwerthuso o ran cael gwared ar
yr opsiwn canolig yn yr
holiadur hunanwerthuso ac ychwanegu cwestiwn ar effeithiolrwydd y Pwyllgor o ran llwyth gwaith agenda’r pwyllgor. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor anfon eu hadborth
ar yr hunanwerthuso
er mwyn cwblhau’r hunanwerthuso. Byddai cynnwys yr ymatebion yn
cael eu hychwanegu
at y Blaengynllun Gwaith a'u
hystyried mewn gweithdy i gytuno ar flaenoriaethau'r dyfodol. Ar ôl ystyried yr ymatebion, CYTUNWYD i gynnal gweithdy i ystyried yr ymatebion ac i flaenoriaethu gwaith y pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Diweddariad ar God Ymddygiad y Swyddog Monitro - Chwarter 4 Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i Ddiweddariad Cod Ymddygiad
y Swyddog Monitro – Chwarter
4. CYTUNWYD i nodi'r wybodaeth
a gyflwynwyd. Nodwyd y byddai Arweinwyr y Grwpiau mewn sefyllfa dda i amlygu materion tueddiadau a'r angen i hunan-adrodd yn dilyn euogfarn i'w haelodau |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi y byddai'r ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno fel y'i cyflwynwyd. |
|
Adolygu Datganiad o Weledigaeth Cofnodion: CYTUNWYD bod y Datganiad o Weledigaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben. |
|
Hyfforddiant - Cynghorau Tref a Chymuned yn 2024 Cofnodion: CYTUNWYD y byddai hyfforddiant pellach yn cael ei roi yn 2024, ac y byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gyflwyno sesiynau hyfforddi gydag achosion/adroddiadau gwirioneddol o gamymddwyn. Nodwyd bod adroddiadau'r Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru yn cael eu dosbarthu i Glercod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn pob cyfarfod o'r pwyllgor. Nodwyd y gellid gofyn am adborth gan Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar anghenion hyfforddi eu Cyngor gan fod ganddynt fwy o wybodaeth am anghenion hyfforddi eu Haelodau. Nodwyd hefyd, er efallai nad oedd rhoi hyfforddiant yn broblem, roedd ymgysylltiad aelodau â hyfforddiant yn broblem barhaus. Nid oedd pob cynllun hyfforddi wedi'i ddychwelyd. |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: CYTUNWYD i nodi'r adroddiad a ddosbarthwyd trwy e-bost. Byddai'r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i holl Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ac Arweinwyr y Grwpiau. |
|
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cofnodion: CYTUNWYD i nodi'r adroddiad. Byddai'r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i holl Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ac Arweinwyr y Grwpiau. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Gwaith fel y'i cyflwynwyd. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf Mrs Caroline White a diolchodd iddi am ei holl waith a'i hymrwymiad dros y 10 mlynedd diwethaf. Dymunodd pawb yn dda iddi ar gyfer y dyfodol. |