Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Mercher, 19eg Mawrth, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Caryl Davies (y Cadeirydd), y Cynghorydd Elen Page a’r Cynghorydd Delyth James am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Datgelodd Mr Alan Davies, Ms Carol Edwards, Mrs Llinos James, Ms Gail Storr a’r Cynghorydd Caryl Roberts fuddiant personol yng nghyswllt y cynnig  a oedd yn rhan o’r ceisiadau y byddai’r Pwyllgor yn eu hystyried. 

 

Roedd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans yn bresennol ond nid oedd yn bresennol fel Aelod o’r Pwyllgor am fod ei gais am ollyngiad yn cael ei ystyried.

4.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:

5.

Gweithdrefn

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, Ms Gail Storr.

 

Gan fod angen i nifer o’r Cynghorwyr adael y cyfarfod yn gynnar, am fod ganddynt ymrwymiadau eraill o ran y Cyngor, cytunodd y Cadeirydd y byddai trefn y ceisiadau ar yr agenda yn cael ei newid. Hefyd, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai angen i’r sawl sy’n gwneud cais am ollyngiad a phob un o’r Cynghorwyr eraill adael y siambr / y cyfarfod ar-lein pan fyddai’r Pwyllgor yn ystyried pob un o’r ceisiadau.

5a

Cynghorydd Keith Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 11 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar y cynnig a fyddai’n mynd gerbron y Cyngor ynghylch lwfans tanwydd y gaeaf. Roedd yn derbyn y lwfans hwn, ac os byddai’r cyfle yn codi, roedd am allu siarad a phleidleisio ar yr eitem pan fyddai’n cael ei hystyried gan y Cyngor. Dywedodd fod safbwynt y llywodraeth yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles nifer o’r preswylwyr yn ei ward.

         

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

6.

Cynghorydd Sian Maehrlein - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 10 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Maehrlein i siarad a phleidleisio ar Lwfans y Gaeaf. Roedd ei gŵr yn derbyn y lwfans.

         

Roedd y Cynghorydd Sian Maehrlein yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei chais ac atebodd gwestiynau am ei chais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Sian Maehrlein adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Maehrlein siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

6a

Cynghorydd Eryl Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 11 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Eryl Evans i siarad a phleidleisio ar y newidiadau yn y dreth etifeddiaeth. Byddai newidiadau arfaethedig y Llywodraeth Lafar yn effeithio ar ei busnes fferm deuluol.

         

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei chais ac atebodd gwestiynau am ei chais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu   Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

6b

Cynghorydd Bryan Davies - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Bryan Davies i siarad a phleidleisio ar y rhybudd o gynnig ynghylch y cymorth ariannol ar gyfer tanwydd y gaeaf, y dreth etifeddiaeth ar ffermydd ac yswiriant gwladol. Roedd un elfen o’r cynnig yn effeithio arno’n bersonol ac yn rhagfarnol sef y dreth etifeddiaeth ar ffermydd. Roedd yn ffermwr ac roedd ganddo deulu a fyddai’n etifeddu’r fferm deuluol. Byddai penderfyniad y trysorlys yn cael effaith ariannol arno ac felly roedd am fod yn gwbl onest â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau am y mater hwn. Roedd hefyd yn aelod o Undeb Amaethwyr Cymru ac roedd yr undeb wedi ymgyrchu’n gryf ar y mater hwn. Roedd hefyd wedi mynychu protest gyhoeddus gydag undeb yr NFU. Roedd yn gofyn am ollyngiad i siarad a phleidleisio yn rhinwedd ei rôl fel Arweinydd y Cyngor ac fel Cynghorydd Sir a oedd yn cynrychioli ei ardal a sir wledig; felly, byddai’n dymuno siarad a phleidleisio dros yr ardal ehangach ac nid ar ei sefyllfa bersonol ei hunan.

         

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail bod gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw; bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol; bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod a’i fod yn ymddangos i'r pwyllgor ei bod o les i drigolion ardal yr awdurdod perthnasol i'r anallu gael ei godi, ar yr amod bod hysbysiad ysgrifenedig bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod a hynny mewn unrhyw fodd y gall ei bennu (rheoliadau 2 (a) (e) (f) ac (i) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor, a fyddai’n cael ei gynnal ar 20 Mawrth 2025, yn unig.

         

7.

Cynghorydd Amanda Edwards- Cyngor Sir Ceredigion (Saeseng yn unig oherwydd cais hwyr) pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 17 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Amanda Edwards i siarad a phleidleisio ar y cynnydd yng Nghyfraniad Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a gostwng y trothwy. Roedd ei gŵr yn hunangyflogedig ac roedd yn rhedeg busnes gan gyflogi tri aelod o staff.

 

Roedd y Cynghorydd Edwards yn bresennol ar-lein i gyflwyno ei chais gerbron y cyfarfod ac atebodd gwestiynau am ei chais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Edwards adael y cyfarfod fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Edwards siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (e) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

8.

Cynghorydd Catrin M S Davies - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Catrin M S Davies i siarad a phleidleisio ar fwriad y Cyngor i drafod y newidiadau yn y dreth etifeddiaeth a’i effaith ar ffermydd. Dywedodd y gallai etifeddu tiroedd amaethyddol. Ar hyn o bryd, ni fyddai’r fferm yn cwrdd â’r trothwy o £1 miliwn ond gallai’r fferm gynyddu mewn gwerth.

         

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol ar-lein i gyflwyno ei chais gerbron y cyfarfod ac atebodd gwestiynau am ei chais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y cyfarfod fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

8a

Cynghorydd Rhodri Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Rhodri Evans i siarad a phleidleisio ar gynnig a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ynghylch treth etifeddiaeth a thaliadau tanwydd y gaeaf. Byddai’r dreth etifeddiaeth yn effeithio arno, gan ei fod yn byw ac yn gweithio ar y fferm deuluol ac yn y pen draw roedd posibilrwydd y byddai’n etifeddu tir y fferm a’r asedau. Roedd hefyd yn berchen ar dir fferm ac asedau eraill. Yn y gorffennol, roedd y rhai dros 70 oed yn gymwys i gael taliadau tanwydd y gaeaf, a byddai hyn yn effeithio ar ei rieni.

         

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol a bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (rheoliadau 2 (d), (e) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu   Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer dyddiad penodol cyfarfod y Cyngor a fyddai’n cael ei gynnal ar 20 Mawrth 2025 ac am gyfnod o 12 mis.

         

 

8b

Cynghorydd Gareth Lloyd - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 10 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Gareth Lloyd i siarad a phleidleisio ar Rybudd o Gynnig a oedd yn cynnwys lwfans tanwydd y gaeaf, y newid o ran etifeddiaeth ffermio a’r cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr a gostwng y trothwy cychwynnol. Roedd y materion dan drafodaeth mewn un ffordd neu’r llall yn effeithio ar bawb.

         

Roedd y Cynghorydd Lloyd yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Rhoddodd ragor o wybodaeth am ei fuddiant ac atebodd gwestiynau am ei gais.

         

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Lloyd adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Lloyd siarad a phleidleisio ar y sail bod gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw; bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a), (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

9.

Cynghorydd Gwyn Wigley Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans i siarad a phleidleisio ar y cynigion ynghylch lwfans tanwydd y gaeaf, y newid o ran etifeddiaeth amaethyddol  a’r cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwyr a gostwng y trothwy cychwynnol. Roedd y materion hyn yn cyffwrdd ac yn effeithio ar bawb yn y ward / yng Ngheredigion ac ar y Cynghorydd ei hunan hefyd.

         

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Rhoddodd ragor o wybodaeth am ei fuddiannau ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans ar y sail bod gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw; bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a), (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

         

10.

Cynghorydd Wyn Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 11 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Wyn Evans i siarad a phleidleisio ar y cynigion ynghylch lwfans tanwydd y gaeaf, y newid o ran etifeddiaeth ffermio a’r cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr a gostwng y trothwy cychwynnol. Roedd y materion hyn yn cyffwrdd ac yn effeithio ar bawb yn y ward / yng Ngheredigion ac ar y Cynghorydd ei hunan hefyd.

                    

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Rhoddodd ragor o wybodaeth am ei fuddiannau ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans ar y sail bod gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw; bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a), (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

10a

Cynghorydd Meirion Davies - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 11 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Meirion Davies i siarad a phleidleisio ar y cynigion ynghylch lwfans tanwydd y gaeaf, y newid o ran etifeddiaeth amaethyddol a’r cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwyr a gostwng y trothwy cychwynnol. Roedd y materion hyn yn cyffwrdd ac yn effeithio ar bawb yn y ward / yng Ngheredigion.

         

Roedd y Cynghorydd Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Rhoddodd ragor o wybodaeth am ei fuddiannau ac atebodd gwestiynau am ei gais.

         

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Davies adael y Siambr fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies ar y sail bod gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw; bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliadau 2 (a), (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

10b

Cynghorydd Endaf Edwards - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 12 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Edwards i siarad a phleidleisio ar y Rhybudd o Gynnig yng nghyfarfod y Cyngor ar 20 Mawrth 2025. Roedd oedran ei rieni (78 oed) yn golygu y byddent yn derbyn lwfans y gaeaf. Wedi dweud hynny, roedd ei frawd (45 oed) a’i chwaer (48 oed) yn byw gyda nhw ac yn cyfrannu at unrhyw filiau.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Edwards siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Mawrth 2025 yn unig.

11.

Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda

12.

Cynghorydd Simon Aldridge - Cyngor Cymuned Llanfair Clydogau and Cellan (Saesneg yn unig oherwydd cais hwyr) pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 17 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Simon Aldridge i siarad a phleidleisio ar y cynigion gan Belltown, Bute Energy a Green Gen ar gyfer gosod tyrbinau a pheilonau. Roedd ei eiddo o fewn 750 o fetrau i ffin llwybr arfaethedig y peilonau ac roedd yr eiddo yn llai na 1.5 cilometr oddi wrth leoliad arfaethedig mwy na 40 o dyrbinau gwynt a fyddai’n 220 metr o uchder.

                    

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Aldridge siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.ispensation was granted for a period of 12 months.

13.

Cynghorydd Roger Daniel - Cyngor Cymuned Llanfair Clydogau and Cellan (Saseneg yn unig oherywdd cais hwyr) pdf eicon PDF 158 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 17 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd Roger Daniel i siarad a phleidleisio ynghylch adeiladu parciau ynni Waun Maenllwyd a Lan Fawr. Byddai llinell o beilonau yn cael ei hadeiladu ger Cellan, i lawr Dyffryn Teifi ac felly i mewn i Sir Gaerfyrddin. Byddai’r llinell o beilonau yn cael ei gosod 150 o fetrau y tu ôl i’w eiddo. Byddai hyn yn gostwng gwerth ei eiddo, a gallai’r ymbelydredd electromagnetig gael effaith arno ef ac iechyd ei wraig. Byddai’r gwaith adeiladu yn amharu’n fawr iawn ar fywyd y gymuned leol.

         

Roedd y Cynghorydd Daniel yn bresennol ar-lein i gyflwyno ei gais gerbron y cyfarfod ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Daniel adael y cyfarfod fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei gais.

         

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Daniel siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu  Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

13a

Cynghorydd David Bartholonmew - Cyngor Cymuned Llanfair Clydogau a Cellan (Saeseng yn unig oherwydd cais hwyr) pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 17 Mawrth 2025 oddi wrth y Cynghorydd David Bartholomew i siarad a phleidleisio ynghylch gosod seilwaith ar gyfer cynhyrchu pŵer (ffermydd gwynt, gan Belltown Power a Bute Energy) a dosbarthu pŵer (llinellau peilonau gan Green GEN Cymru) yn yr ardal leol a’r ardal gyfagos. Roedd posibilrwydd y gallai gwerth ei eiddo personol (ei gartref) ostwng am ei fod yn agos at linell arfaethedig y peilonau a lleoliad y peilonau unigol. Roedd o’r farn y byddai’r amrywiol ddatblygiadau arfaethedig o ran ffermydd gwynt yn yr ardal yn llai tebygol o ostwng gwerth yr un eiddo.

                    

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Bartholomew siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau)(Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

13b

Cynhgorydd Chris James - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

Cysylltwyd â’r Cynghorydd Chris James yn ystod y cyfarfod am nad oedd  paragraff 5 ‘Sail ar gyfer rhoi gollyngiad – Mwy o wybodaeth’ wedi’i gwblhau ac felly ni fyddai modd ystyried y cais. Ymunodd y Cynghorydd James â’r cyfarfod ar-lein a rhoddodd y wybodaeth briodol i’r Aelodau fel y gallent ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd James siarad a phleidleisio ar y sail bod y buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2 (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau)(Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Mawrth 2025 ac am gyfnod o 6 mis.

14.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Gofynnodd Mr Alan Davies fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddileu’r llinell mewn print trwm (Os na chwblheir y rhan hon, fe gaiff y ffurflen gais ei dychwelyd atoch) a oedd yn y paragraff ‘Sail ar gyfer rhoi gollyngiadMwy o wybodaeth’.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Caryl Roberts fod protocol ar gyfer Cynghorwyr sy’n dod i’r cyfarfod i gyflwyno eu cais i’r Pwyllgor yn cael ei ystyried a’i roi ar y Flaenraglen Waith. Serch hynny, nodwyd nad oedd nifer uchel y ceisiadau a ystyriwyd yn y cyfarfod yn rhywbeth arferol.