Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Delyth James am fethu â mynychu'r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: |
|
Cynghorydd Matthew Vaux, Datblygiad Barcud Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad ar 20 Chwefror 2025 gan y Cynghorydd Matthew Vaux i siarad yn unig
am y cais cynllunio ar dir Maes Parcio
Canolog, Cei Newydd gan gymdeithas dai Barcud. Mae’r Cynghorydd Vaux yn berchen ar
siop decawê a bwyty pysgod a sglodion yng Nghei
Newydd sy’n dibynnu ar y fasnach dwristiaeth
yn ystod tymor yr haf. Roedd y Cynghorydd
Vaux yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais. Gofynnwyd i'r
Cynghorydd Vaux adael y Siambr er mwyn i’r Pwyllgor ystyried
ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Vaux siarad yn unig ar
y sail bod natur buddiant
yr aelod o'r fath fel bod cyfranogiad
yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn gyffredin i'r aelod
ac i gyfran sylweddol o'r cyhoedd
yn gyffredinol (rheoliad 2(e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru)
2001. Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu. |
|
Cofnodion: Cofnod 6 - Adroddwyd
bod yr hyfforddiant cod ymddygiad
ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned wedi cael ei
gynnal ar 11 Chwefror 2025. Roedd wedi cael
ei recordio ac roedd swyddogion yn trafod gyda’r
rheolwr cyfathrebu a chyfieithu i gyhoeddi’r
fideo gyda chyfieithiad. Bydd arolwg
adborth yn cael ei ddosbarthu
i Gynghorwyr Tref / Cymuned
sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant. Roedd dyddiadau'n
cael eu pennu
ar gyfer y cyfarfodydd canlynol gydag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol: •Gweithdy ar
ddiwedd y flwyddyn fwrdeistrefol •Gweithdy’n dilyn y cyfarfod cyffredinol blynyddol |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Dim |