Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Nid yw atodiad 3 sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi
gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12
Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan
Lywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y
Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem
hon yn breifat, bydd y cyhoedd a’r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn
unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Wrth ddelio â’r eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cam Cyntaf
- Materion Rhagarweiniol Trafododd y
Pwyllgor faterion rhagarweiniol gan gynnwys gohebiaeth a dogfennaeth berthnasol
a thystion yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraff 37). CYTUNODD y Pwyllgor: a)
i
fabwysiadu gweithdrefn Cyngor Sir Ceredigion fel y nodir yn Rhan 5 Dogfen S y
Cyfansoddiad (y "Weithdrefn Gwrandawiadau")
b)
ar ôl
cymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd, i)
y
dylai'r gwrandawiad (ac eithrio penderfyniadau) ddigwydd yn gyhoeddus oni bai
bod rheswm da dros eithrio'r cyhoedd (paragraff 33 Gweithdrefn Gwrandawiadau)
a/neu resymau dilys dros beidio â gwneud hynny i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn
bywyd cyhoeddus (paragraff 1.24 Canllawiau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru).
c)
gohirio'r
penderfyniad ynghylch a ddylid clywed tystiolaeth gan dystion yr Aelod tan y
cam Canfod Ffeithiau. Nid oedd y Pwyllgor yn dymuno galw unrhyw dystion
ychwanegol. Ail Gam -
Canfyddiadau Ffeithiol Trafododd y
Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig yr Ombwdsmon a dogfennau pellach a gyflwynwyd
gan yr Aelod a'r Ombwdsmon yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor
(paragraffau 38-44). Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cyflwyniadau llafar gan
gynrychiolydd yr Ombwdsmon, yr Aelod, cynrychiolydd yr Aelod a thyst sy’n
cyflwyno’r ffeithiau. Gwnaeth y
Pwyllgor ganfyddiadau ffeithiol mewn perthynas â ffeithiau diamheuol ar
gydbwysedd tebygolrwydd yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor
(paragraffau 45-51). Y Trydydd
Cam - Y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Canfu'r Pwyllgor
yn ôl cydbwysedd tebygolrwydd bod ymddygiad yr Aelod wedi torri paragraff
canlynol Cod Ymddygiad Cyngor Sir Ceredigion/ Cyngor Cymuned Llansantffraed ar gyfer Aelodau. “6. (1) Rhaid i chi — (a) peidio ag
ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar
eich swydd neu ar eich awdurdod” Camau i’w
Gweithredu / Sancsiynau Yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraffau 52-57), CYTUNODD
y Pwyllgor: a)
Mewn
perthynas â’r mater sy’n ymwneud â’r Cynghorydd Andrew Phillips o Gyngor
Cymuned Llansantffraed, penderfynodd y Pwyllgor arfer
ei bŵer yn unol â Rheoliad 9 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol
(Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, fel y'u
diwygiwyd, y dylai'r Aelod gael ei geryddu. |