Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Delyth James (Cynrychiolydd y Cynghorau Tref a
Chymuned) am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Nid yw atodiad 2, 3 a
4 sy’n ymwneud â’r eitem uchod i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso’r Prawf
Lles y Cyhoedd yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd
a’r wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Wrth ddelio â’r
eitemau, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r
Cyfarfod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Monitro'r Cyngor, a oedd yn cynghori'r Pwyllgor, ei hadroddiad. Roedd
yr Aelod yn bresennol o bell. Cam Cyntaf
- Materion Rhagarweiniol Trafododd y Pwyllgor
faterion rhagarweiniol gan gynnwys gohebiaeth a dogfennaeth berthnasol a
thystion yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y Pwyllgor (paragraff 37). CYTUNODD y Pwyllgor: a)
i
fabwysiadu gweithdrefn Cyngor Sir Ceredigion fel y nodir yn Rhan 5 Dogfen S y
Cyfansoddiad (y "Weithdrefn Gwrandawiadau")
b)
ar ôl
cymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd, i)
nad
oedd rhai dogfennau i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12, Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan y Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth)
(Amrywio) ac o ganlyniad i’r elfen hon, mae budd y cyhoedd wrth gadw’r
wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth ar hyn o bryd. ii)
er
gwaethaf y dylai'r gwrandawiad ddigwydd yn gyhoeddus oni bai bod rheswm da dros
eithrio'r cyhoedd (paragraff 33 Gweithdrefn Gwrandawiadau) a/neu resymau dilys
dros beidio â gwneud hynny i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn bywyd cyhoeddus
(paragraff 1.24 Canllawiau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru), ar ôl
ystyried sylwadau gan yr Aelod, a chynrychiolydd yr Ombwdsmon, dylid cynnal
gweddill y gwrandawiad (ac eithrio penderfyniadau) mewn sesiwn breifat, er mwyn cynnal cyfrinachedd y wybodaeth
sensitif. Hebddo, roedd perygl i’r wybodaeth gael ei ddatgelu gwybodaeth
sensitif.
c)
gohirio'r
penderfyniad ynghylch a ddylid clywed tystiolaeth gan dyst yr Aelod tan y cam
Canfod Ffeithiau. Nid oedd y Pwyllgor yn dymuno galw unrhyw dystion ychwanegol. Yn unol â hynny, cafodd y wasg a'r cyhoedd, gan gynnwys yr Achwynydd ac
unrhyw dystion, eu gwahardd o'r cyfarfod. Ail Gam -
Canfyddiadau Ffeithiol Trafododd y
Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig yr Ombwdsmon, a gohebiaeth a dogfennau pellach
a gyflwynwyd gan yr Aelod a'r Ombwdsmon yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y
Pwyllgor (paragraffau 38-44). Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cyflwyniadau
llafar gan gynrychiolydd yr Ombwdsmon, yr Aelod, a thyst sy’n cyflwyno’r
ffeithiau. Mynychodd y rhain i gyd o bell.
Gwnaeth y
Pwyllgor ganfyddiadau ffeithiol mewn perthynas â ffeithiau y mae anghydfod
amdanynt ar gydbwysedd tebygolrwydd yn unol â gweithdrefn Gwrandawiad y
Pwyllgor (paragraffau 45-51). Y Trydydd
Cam - Y Cod Ymddygiad ar
gyfer Aelodau Canfu'r Pwyllgor
yn ôl cydbwysedd tebygolrwydd bod ymddygiad yr Aelod wedi torri paragraffau
canlynol Cod Ymddygiad Cyngor Sir Powys ar gyfer Aelodau a Chod Ymddygiad
Cyngor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Aelodau: “4. Rhaid i chi (b) -; (b)
ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt 7. Rhaid i chi — (a) yn eich capasiti swyddogol neu
fel arall, beidio â defnyddio neu geisio defnyddio eich safle yn amhriodol i
roi neu i sicrhau mantais i chi eich hun neu i unrhyw berson arall, neu i greu
neu i osgoi anfantais i chi eich hun neu i unrhyw berson arall;” Camau i’w
Gweithredu / Sancsiynau Yn unol ag Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio), ail-dderbyniwyd y wasg ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |