Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Gweithdrefn Cofnodion: Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, Ms Gail Storr. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Miss Caryl Davies a
Ms Carol Edwards am na fedrent
ddod i’r cyfarfod. Esgusodwyd y Cynghorydd Caryl Roberts o'r cyfarfod oherwydd, yn unol â chyfansoddiad y Cyngor o ran cworwm y pwyllgor, roedd angen o leiaf tri aelod yn bresennol ac roedd angen i o leiaf hanner yr aelodau a oedd yn bresennol (gan gynnwys y Cadeirydd) fod yn Aelodau Annibynnol. |
|
Materion Personol Cofnodion: None. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd Ms Elin Prysor fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu
o dan eitemau 6 (a) i 6 (d). Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro yn bresennol i
gynghori Aelodau’r Pwyllgor pan drafodwyd yr eitemau hyn. Datgelodd Mrs Dana Jones fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu
o dan eitemau 6 (a) i 6 (d). Y Swyddog Craffu a Safonau fu’n cymryd y cofnodion
pan drafodwyd yr eitemau hyn. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2024 Cofnodion: |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynahliwyd ar 01 Mai 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 01 Mai
2024 yn gywir. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: |
|
Cynghorydd Elizabeth Ryder, Cyngor Tref Cei Newydd Cofnodion: Derbyniwyd cais dyddiedig 27 Mehefin 2024 oddi wrth y Cynghorydd Elizabeth Ryder, Cyngor Tref Ceinewydd i siarad a
phleidleisio ynghylch y cais cynllunio gan
Gymdeithas Tai Barcud ar gyfer tai cymdeithasol / fforddiadwy yn y maes
parcio uchaf (oddi ar Stryd y Parc). Roedd ei mab, ei nith a’i nai yn berchen
ar faes parcio Heol y Dŵr yng Ngheinewydd ac roeddent yn rhedeg y maes
parcio. Pe cytunir i’r cais cynllunio gan Gymdeithas Tai Barcud ar gyfer tai,
byddai llefydd parcio yn y maes parcio uchaf (oddi ar Stryd y Parc) yn cael eu
colli. Gallai hyn arwain at bobl yn chwilio am lefydd eraill i barcio ceir ac o
bosib gallai hyn arwain at fwy o geir ym maes parcio ei theulu. Nid oedd y
Cynghorydd Ryder mewn unrhyw fodd yn elwa’n bersonol o’r busnes yn ariannol nac
o ran perchnogaeth tir/eiddo. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Ryder siarad
yn unig ar
y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y
mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae
busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (Rheoliad 2(d), o Reoliadau
Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Helen Swan Jones, Cyngor Tref Cei Newydd Cofnodion: Derbyniwyd cais dyddiedig 27 Mehefin 2024 oddi wrth y Cynghorydd Helen
Swan Jones, Cyngor Tref Ceinewydd i siarad a
phleidleisio ynghylch datblygiad tai
arfaethedig Barcud ar faes parcio Heol Tywun, Sgwâr Uplands, Cei Newydd. Roedd
Barcud eisoes wedi cyflwyno cais am gyngor cyn ymgeisio, ac roeddent wedi
cynnal cyfarfod cyhoeddus. Nid oedd Cyngor Tref Ceinewydd wedi trafod y cais
oherwydd y perygl o ragbenderfynu, ac roedd hyn yn unol â’r cyngor a roddwyd
gan y Clerc. Roedd y Clerc wedi cael gwybod y byddai Barcud yn cyflwyno’r cais
cynllunio llawn yn fuan.
Roedd y Cynghorydd Jones yn byw yn yr eiddo rhent ar Sgwâr Uplands a oedd gyferbyn â’r datblygiad tai
arfaethedig. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Swan Jones siarad yn unig ar
y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y
modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal, a bod y buddiant yn
gyffredin i’r aelod a chyfran sylweddol o’r cyhoedd yn gyffredinol (rheoliad 2
(d) a (e), o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Tomas Davies, Cyngor Tref Cei Newydd Cofnodion: Derbyniwyd cais dyddiedig 28 Mehefin 2024 oddi wrth y Cynghorydd Tomas Davies, Cyngor Tref Ceinewydd i siarad a phleidleisio ynghylch y tir yn
y maes parcio canolog yng Ngheinewydd. Roedd ei frawd
yn berchen ar eiddo gyferbyn ag ardal y datblygiad arfaethedig. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad yn unig ar y sail bod natur
buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes
yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (Rheoliad 2(d), o Reoliadau Pwyllgor
Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12
mis. |
|
Cynghorydd Ywain Davies, Cyngor Tref Cei Newydd Cofnodion: Derbyniwyd cais dyddiedig 28 Mehefin 2024 oddi wrth y Cynghorydd Ywain Davies, Cyngor Tref Ceinewydd i siarad a phleidleisio
ynghylch datblygiad tai cymdeithasol Barcud ym maes parcio Ceinewydd. Ei frawd (Rhys Davies) perchennog Gwerthwyr Tai Morgan a Davies oedd
asiant y teulu Williams a werthodd y tir i Barcud. Nid oedd gan Morgan a Davies
unrhyw gysylltiad pellach â’r tir hwn. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio
ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod
yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn
y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (Rheoliad 2(d), o
Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y
gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Cofnod o Gamau Gweithredu fel y’i cyflwynwyd. |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cynnwys. |
|
Diweddariad Cod Ymddygiad Swyddog Monitro Cwarter 4 Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cynnwys. Dywedwyd bod disgwyl y byddai achos gan Banel Dyfarnu Cymru ynghylch y
cyn Gynghorydd Steve Davies yn cael ei gynnal yn fuan. |
|
Adroddiad Blynyddol 2023/24 y Pwyllgor Moeseg a Safonau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol Moeseg a Safonau 2023/24.
CYTUNWYD i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Moeseg a Safonau
2023/24 cyn y byddai’n cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor yn amodol ar wneud mân
newidiadau i’r dyddiadau, ychwanegu llun / manylion un o’r Aelodau a chywiro
sillafu. |
|
Hyfforddiant Cynghorau Tref a Chymuned Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd hyfforddiant ynghylch y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a
Chymuned. Yn dilyn trafodaeth, CYTUNWYD:- (i) y byddai’r
swyddogion yn paratoi e-bost ac yn ei ddosbarthu i’r Aelodau yn gofyn am eu
cynigion a’r hyn y byddent yn ei ffafrio o ran hyfforddiant ynghylch y Cod
Ymddygiad yn y dyfodol; a (ii) y dylid gofyn i Arweinwyr y grwpiau
gwleidyddol ddweud wrth Aelodau eu Grwpiau am roi gwybod i’w Cynghorau Tref neu
Gymuned o’r angen i ymateb i’r e-bost a ddosbarthwyd ynglŷn ag ymholiad y
Pwyllgor am hyfforddiant ynghylch y Cod Ymddygiad, hyd yn oed os nad oeddent yn
dymuno derbyn hyfforddiant. |
|
Asesiad Cydymffurfiaeth Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol Cofnodion: Ystyriwyd Asesiad Cydymffurfiaeth Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol.
Dywedwyd bod gweithdy wedi’i gynnal gydag arweinwyr y grwpiau ar 5 Mehefin
2024: · Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru) · Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Y Democratiaid Rhyddfrydol) · Y Cynghorydd Rhodri Evans (Grŵp Annibynnol) Roedd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol o’r farn fod y cyfarfodydd misol
gyda’r Swyddog Monitro yn effeithiol iawn ac roeddent yn ddiolchgar amdanynt.
Cafwyd trafodaeth ynghylch yr amser mwyaf addas i arweinwyr y grwpiau gyfarfod
â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau a chytunwyd y byddai'n well pe bai'r cyfarfod
swyddogol yn cael ei gynnal yn yr hydref yn hytrach nag ym mis Ionawr oherwydd
y pwysau sy'n ymwneud â gosod y gyllideb ym mis Ionawr. Roedd arweinwyr y
grwpiau gwleidyddol hefyd yn barod i fynychu cyfarfodydd ar adegau eraill o'r
flwyddyn pe bai'r angen yn codi. Cytunwyd ar amserlen ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a ganlyn: • Gweithdy yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol (diwedd Mai/dechrau Mehefin) • Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i fynychu
cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn yr hydref (Medi/Hydref) • Gweithdy ar ddiwedd y flwyddyn fwrdeistrefol (Mai
– cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) Mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2024 lle cyfarfu'r Pwyllgor ag
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn unigol, asesodd y Pwyllgor i ba raddau yr
oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol wedi gwneud y canlynol: 1. cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan
aelodau'r grŵp 2. cydweithredu â'r Pwyllgor wrth arfer ei swyddogaethau 3. nodi unrhyw anghenion hyfforddi • Mae Arweinwyr y Grwpiau
Gwleidyddol yn ymgysylltu ac yn cydweithio â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau; • Mae'n gadarnhaol nad oes
nifer uchel o atgyfeiriadau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; • Mae angen cynnwys
hyfforddiant gorfodol ar y templed cydymffurfio; • Mae angen cynnwys
hyfforddiant ychwanegol y mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi gofyn amdano ar
y templed cydymffurfio; • Mae angen i Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol rannu adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a
Phanel Dyfarnu Cymru gyda'u grŵp a’u trafod yn eu cyfarfodydd grŵp; • Canfu Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol fod y cyfarfodydd misol gyda'r Swyddog Monitro yn
effeithiol iawn ac roeddent yn ddiolchgar amdanynt. Cynigiwyd bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i'r templed
cydymffurfio:
O ran y trothwy cydymffurfio, felly, ystyrid:
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cadw’n annibynnol ar
faterion gweithredol a byddai’n gofyn i Arweinwyr y
Grŵp adrodd unwaith y flwyddyn.
Byddai’r Pwyllgor wedi hynny yn cyfarfod â phob arweinydd grŵp yn
anffurfiol i archwilio ei adroddiad. Byddai adroddiad blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cynnwys y canlynol: a)
crynodeb byr o'r camau a
gymerwyd gan arweinwyr grwpiau i gyflawni'r ddyletswydd, b)
ei farn ynghylch a wnaed
digon, c)
unrhyw argymhellion ynglŷn
â'r hyn y gall arweinwyr grwpiau ei wneud i gyflawni eu dyletswyddau, d)
unrhyw argymhellion ynglŷn
â'r hyn y gellir ei wneud i gadw tystiolaeth o gamau arweinwyr grwpiau e)
unrhyw argymhellion o ran yr
hyn y gellir ei wneud i wella'r drefn o adrodd f)
pa hyfforddiant ychwanegol sydd
ei angen, os oes yna o gwbl g)
unrhyw ddarnau o waith a allai
gael eu gwneud yn y dyfodol Roedd arweinwyr y grwpiau wedi cwblhau eu hadroddiadau erbyn 15/4/24. Ar
29/4/24, cynhaliwyd gweithdy gyda phob un o arweinwyr y grwpiau yn unigol: · Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru) · Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Democratiaid
Rhyddfrydol) · Y Cynghorydd Gareth Lloyd (Grŵp
Annibynnol) Bu i’r Pwyllgor asesu i ba raddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol
wedi: 1. cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel
gan aelodau’r grŵp 2. cydweithredu â’r Pwyllgor wrth arfer
swyddogaethau’r Pwyllgor 3. nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddiant Dyma asesiad y Pwyllgor:
CYTUNWYD
i wneud y canlynol: (i) nodi sut y bydd Arweinwyr y Grwpiau a'r Pwyllgor yn gweithio gyda'i
gilydd, nodi pa mor aml y cytunwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal a
nodi’r trothwy cydymffurfio; a (ii) cytuno ar y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18. |
|
Cofnodion Fforwm Pwyllgor Safonau Cymru Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r cofnodion er gwybodaeth yn amodol ar nodi bod cyfarfod
arall wedi’i gynnal ar 24 Mehefin 2024 ac y byddai’r Cadeirydd yn rhoi
adroddiad am y cyfarfod hwnnw yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. Wrth wneud
hynny, byddai’r Cadeirydd hefyd yn ymateb i’r materion a godwyd gan Aelod o’r
pwyllgor am yr hyn a drafodir yng nghyfarfodydd y Fforwm gan gynnwys statws y
Fforwm. |
|
Canfyddiadau Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cofnodion: CYTUNWYD i nodi Canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
ynghylch materion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel
y’i cyflwynwyd yn amodol ar nodi bod y gwrandawiad wedi’i aildrefnu o 31 Gorffennaf
2024 i 23 Awst 2024. Roedd gwrandawiad ychwanegol wedi’i drefnu ar gyfer 24
Medi 2024, yn amodol ar sicrhau bod Aelodau’r Pwyllgor ar gael i fod yn
bresennol. |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Dim. |