Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Llun, 5ed Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd Miss Caryl Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 16 ar yr agenda, a chadeiriwyd yr eitem gan y Cynghorydd Caroline White.

 

Datgelodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn 5 (a)

3.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 03 Ebrill 2023 fel rhai cywir

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 03 Ebrill 2023 fel cofnod cywir yn amodol ar y canlynol:-

(i) diwygiofy” i “eitrigolion yng nghofnod 7(b);

(ii) diwygio rhif/llythyren paragraff y cofnod o 7(p) gan fod dau 7(p) wedi'u cynnwys yn y cofnodion;

(iii) diwygio cofnod 7(x) o “fy musnes” i “ei fusnes”;

(iv) diwygio/ychwanegu llinell olaf y cofnodion gan ddileuwastad”;

(v) diwygio cofnod 7(a) o “ei” i “eigais;

(vi) mai’r dyddiad i gadarnhau’r cofnodion oedd 05 Mehefin 2023 ac nid 28 Mehefin 2023 gan fod dyddiad y cyfarfod wedi’i drefnu’n gynharach;

(vii) dylai eitem 10 ddweud 24 Gorffennaf ac nid 29 Gorffennaf

(vii) nodi mai Miss Caryl Davies oedd y Cadeirydd ac nid Mrs

 

 

 

Materion sy’n Codi

Dim.

4.

Cofnod o Gamau Gweithredu pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi Cofnod y Camau Gweithredu fel y'i cyflwynwyd.

5.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol

6.

Cynghorydd John Roberts, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

 

Cafwyd cais yn dwyn dyddiad 08 Ebrill 2023 oddi wrth y Cynghorydd John Roberts, Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn mewn perthynas â’r ffordd yr ymdrinnir â TB gan Lywodraeth Cymru. Roedd ei frodyr yn berchen ar dir yng Ngoginan. Roedd y tir wedi’i rannu’n ddau. Roedd un brawd wedi lesio’i holl dir i wahanol bobl nad oedd yn eu hadnabod. Mae'r brawd arall yn cadw cwpl o geffylau ar gyfer pori yn unig.

Nid oedd ganddo ddim diddordeb yn y tir heblaw gwirfoddoli i fwydo'r ceffylau tra roedd ei frawd yn gwella ar ôl llawdriniaeth ddifrifol. Credaf nad oedd ceffylau yn cael eu hystyried yn anifail amaethyddol.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Roberts i siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB i’r Cyngor a fyddai’n cael ei ystyried yn eu cyfarfod ar 15 Mehefin 2023 ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; (Rheoliad 2 (d))

 

Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 15 Mehefin 2023 a chyfarfodydd dilynol y Cyngor os oedd angen, ond heb fod yn hwy na chwe mis.

7.

Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais yn dwyn dyddiad 01 Mai 2023 gan y Cynghorydd Rhodri Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ar Gais Cynllunio A201012 a oedd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023.

 

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Dywedodd nad oedd yn credu bod ganddo fuddiant sy'n rhagfarnu ond roedd am ddod â hyn gerbron y Pwyllgor Moeseg a Safonau er mwyn tryloywder. Yr ymgeisydd Mr. O Jones oedd ei was priodas yn ei briodas yn 2007. Yn ei dro bu'r Cynghorydd Evans yn ystlyswr ym mhriodas yr ymgeisydd dros 10 mlynedd yn ôl. Fel yr Aelod Lleol, dywedodd nad oedd ganddo bleidlais ar y cais hwn, ond teimlai y dylai fod ganddo’r hawl i siarad ynglŷn â’r cais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans i siarad yn unig (gan ei fod yn Aelod y Ward ac wedi ceisio siarad yn unig) ar Gais Cynllunio A202012 yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(d))

 

Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023 a’r Pwyllgor Rheoli Datblygu dilynol os oedd angen, ond nid yw’n fwy na chwe mis.

 

8.

Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais yn dwyn dyddiad 01 Mai 2023 gan y Cynghorydd Rhodri Evans yn gofyn am ollyngiad i siarad yn unig ar Gais Cynllunio A220751 a oedd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais. Dywedodd nad oedd yn credu bod ganddo fuddiant sy’n rhagfarnu ond roedd am ddod â hyn gerbron y Pwyllgor Moeseg a Safonau er mwyn tryloywder.

Yr ymgeiswyr oedd Mr a Mrs G ac E Jones. Mr G Jones brawd ei frawd yng nghyfraith. Fel yr Aelod Lleol, dywedodd nad oedd ganddo bleidlais ar y cais hwn, ond teimlai y dylai fod ganddo’r hawl i siarad ynglŷn â’r cais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans i siarad yn unig (gan ei fod yn Aelod y Ward ac wedi ceisio siarad yn unig) ar Gais Cynllunio A220751 yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(d))

 

Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 14 Mehefin 2023 a’r Pwyllgor Rheoli Datblygu dilynol os oedd angen, ond nid yw’n fwy na chwe mis.

9.

Adroddiad Blynyddol 2023/23 y Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2022/23. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am baratoi’r Adroddiad Blynyddol yn amodol ar y diwygiadau a ganlyn:-

(i) bod mesuriadau’r siart gylch yn Adran 5 yn cael eu rhannu yn ôl hyd yr amser a'r math o ollyngiad;

(ii) rhoi “dim data ar gaelar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned ar dudalen 27 yr adroddiad; a

(ii) rhoi terfyn amser o chwe mis i Gynghorwyr gwblhau Hyfforddiant y Cyfryngau Cymdeithasol yn adran Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol

10.

Asesiad Cydymffurfio Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Asesiad Cydymffurfio Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol. Cwblhaodd arweinwyr y grwpiau eu hadroddiadau erbyn 30/4/23.   Cynhaliwyd gweithdy gydag arweinydd pob grŵp yn unigol ar 15/5/23 gyda:

· Y Cynghorydd Bryan Davies (Plaid Cymru)

· Y Cynghorydd Elizabeth Evans (Democratiaid Rhyddfrydol)

· Y Cynghorydd Gareth Lloyd (Grŵp annibynnol)

Aeth y Pwyllgor ati i asesu i ba raddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol wedi:

1. cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r grŵp

2. cydweithredu â’r Pwyllgor wrth arfer swyddogaethau’r Pwyllgor

3. nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddiant

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod:

1. Arweinwyr y grwpiau wedi cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r grŵp, ac wedi gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon, er bod diffyg tystiolaeth a metrigau yn yr adroddiadau.

Er bod arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn credu eu bod nhw wedi gwneud digon i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau’r grŵp, nid oedd digon o dystiolaeth i gefnogi hyn.  Roedd yr ymatebion yn oddrychol ac yn annelwig, ac nid oeddent yn canolbwyntio ar y Cod Ymddygiad.

2. Roedd arweinwyr y grwpiau wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i gydweithredu â’r Pwyllgor wrth arfer swyddogaethau’r Pwyllgor.

3. Dylai holl arweinwyr y grwpiau sicrhau bod aelodau eu grwpiau’n cwblhau’r hyfforddiant ar-lein ynghylch y cyfryngau cymdeithasol o fewn 6 mis.

Argymhellion neu sylwadau ynghylch y lefel o gydymffurfiaeth â’r dyletswyddau newydd hyn:

Dylai pob arweinydd grŵp sicrhau bod aelodau eu grwpiau’n cwblhau’r hyfforddiant ar-lein ynghylch y cyfryngau cymdeithasol.

Dylid darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer 2023/2024 er mwyn sicrhau bod arweinwyr y grwpiau’n cwblhau’r templedi mewn modd digonol, gyda mwy o fetrigau a thystiolaeth.

Parhau i ymgysylltu â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau a’r Swyddog Monitro mewn modd rhagweithiol.

Parhau i ymgysylltu ag arweinwyr y grwpiau eraill i ddysgu oddi wrthynt a chefnogi eich gilydd i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol.

Parhau i ddefnyddio cyfarfodydd y grwpiau i ddarparu cyfleoedd i fentora’n anffurfiol.

Parhau i ddefnyddio cyfarfodydd y grwpiau i rannu achosion a gwersi a ddysgwyd, a dylid ystyried cynnwys achosion Panel Dyfarnu Cymru/Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel eitem sefydlog ar yr agenda.

Argymell i’r aelodau na ddylent arwyddo deisebau.

 

CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol.

11.

Penodi Is-Gadeirydd

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai Mr John Weston yn parhau i fod yn Is-gadeirydd y Pwyllgor tan 22 Chwefror 2023.

12.

Cynllunio ar gyfer olyniaeth - aelodau annibynnol pdf eicon PDF 566 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllunio ar gyfer Olyniaeth o ran Aelodau Annibynnol. Roedd yr argymhellion yn angenrheidiol i sicrhau bod y penodiadau priodol yn eu lle, yn unol â'r Cyfansoddiad

 

CYTUNWYD argymell i’r Cyngor gymeradwyo:

 

1)       Cyfnod swydd Carol Edwards yn cael ei ymestyn 22/2/2024 i 21/2/2028.

 

2)       y disgrifiad o’r rôl, manyleb y person a’r meini prawf

 

3)       Aelodaeth y Panel Dethol fel a ganlyn:

         Cadeirydd y Cyngor (Is-gadeirydd yn ei absenoldeb);

         Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (wedi’i enwebu gan y Swyddog Monitro)

         Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau (neu aelodau annibynnol eraill a enwebir gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen)

         Cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned a enwebir gan Un Llais Cymru.

         Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (Cadeirydd y panel dethol); (a enwebir gan y Swyddog Monitro);

13.

Hunanwerthuso'r Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 551 KB

Cofnodion:

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau ar 13 Hydref 2022 cytunwyd y byddai papur ar hunanwerthuso’r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

Roedd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddogion wedi cyfarfod ac wedi drafftio holiadur er mwyn hunanwerthuso’r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn flynyddol. Cafodd yr holiadur arfaethedig ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 25ain Ionawr 2023 a chynigiwyd bod hunanwerthusiad yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan aelodau’r Pwyllgor Moeseg a Safonau ar ddiwedd blwyddyn y cyngor.

 

Cytunwyd i roi mwy o ystyriaeth i’r hunanwerthuso o ran cael gwared ar yr opsiwn canolig yn yr holiadur hunanwerthuso ac ychwanegu cwestiwn ar effeithiolrwydd y Pwyllgor o ran llwyth gwaith agenda’r pwyllgor. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor anfon eu hadborth ar yr hunanwerthuso er mwyn cwblhau’r hunanwerthuso.  Byddai cynnwys yr ymatebion yn cael eu hychwanegu at y Blaengynllun Gwaith a'u hystyried mewn gweithdy i gytuno ar flaenoriaethau'r dyfodol.

 

 

Ar ôl ystyried yr ymatebion, CYTUNWYD i gynnal gweithdy i ystyried yr ymatebion ac i flaenoriaethu gwaith y pwyllgor yn y dyfodol.

14.

Diweddariad ar God Ymddygiad y Swyddog Monitro - Chwarter 4 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddiweddariad Cod Ymddygiad y Swyddog MonitroChwarter 4. CYTUNWYD i nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd.

Nodwyd y byddai Arweinwyr y Grwpiau mewn sefyllfa dda i amlygu materion tueddiadau a'r angen i hunan-adrodd yn dilyn euogfarn i'w haelodau

15.

Ffurflen ymateb i ymgynghoriad: WG47012 Argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn) pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi y byddai'r ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno fel y'i cyflwynwyd.

16.

Adolygu Datganiad o Weledigaeth pdf eicon PDF 24 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod y Datganiad o Weledigaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben.

17.

Hyfforddiant - Cynghorau Tref a Chymuned yn 2024

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai hyfforddiant pellach yn cael ei roi yn 2024, ac y byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gyflwyno sesiynau hyfforddi gydag achosion/adroddiadau gwirioneddol o gamymddwyn. Nodwyd bod adroddiadau'r Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru yn cael eu dosbarthu i Glercod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn pob cyfarfod o'r pwyllgor. Nodwyd y gellid gofyn am adborth gan Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar anghenion hyfforddi eu Cyngor gan fod ganddynt fwy o wybodaeth am anghenion hyfforddi eu Haelodau. Nodwyd hefyd, er efallai nad oedd rhoi hyfforddiant yn broblem, roedd ymgysylltiad aelodau â hyfforddiant yn broblem barhaus. Nid oedd pob cynllun hyfforddi wedi'i ddychwelyd.

18.

Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad a ddosbarthwyd trwy e-bost. Byddai'r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i holl Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ac Arweinwyr y Grwpiau.

 

19.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad. Byddai'r adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i holl Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ac Arweinwyr y Grwpiau.

20.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Gwaith fel y'i cyflwynwyd.

21.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf Mrs Caroline White a diolchodd iddi am ei holl waith a'i hymrwymiad dros y 10 mlynedd diwethaf. Dymunodd pawb yn dda iddi ar gyfer y dyfodol.