Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Iau, 13eg Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Mr Alan Davies am ei anallu i fynychu'r cyfarfod.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y ddau gynrychiolydd newydd o Gynghorau Tref a Chymuned i'w cyfarfod cyntaf, y Cynghorwyr Delyth James a Jan Culley.

3.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd Ms Caroline White fuddiant personol yn eitem 13 ar yr agenda.

4.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd 25 Mai 2022 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022 fel rhai cywir.

5.

Cofnod o Gamau Gweithredu pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi Cofnod y Camau Gweithredu fel y'i cyflwynwyd.

6.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Eitem 6- Dywedodd y Swyddog Monitro y cadarnhawyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf y byddai'r Cynghorydd Gwyn Evans yn dod yn aelod o Is-bwyllgor Safonau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.  Bydd ail Gynghorydd Sir yn cael ei benodi yng nghyfarfod 20 Hydref. Byddai’r adroddiad a ystyriwyd fel eitem 13 ar yr agenda, y Diweddaraf am broses recriwtio’r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod 20 Hydref 2022.

 

Eitem 7 – Roedd yr Adroddiad Blynyddol i fod i'w gyflwyno'n wreiddiol ym mis Gorffennaf ac yna fis Medi, fodd bynnag, canslwyd y cyfarfod ym mis Medi oherwydd cyfnod y galaru cenedlaethol. Byddai’r adroddiad nawr yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod 20 Hydref 2022.

 

Eitem 8- roedd yn eitem ar yr agenda.

 

Eitem 9 – Roedd y ddau gynrychiolydd newydd o Gynghorau Tref a Chymuned,  y Cynghorwyr Delyth James a Jan Culley fel y dywedwyd yn flaenorol, yn mynychu eu cyfarfod cyntaf.

 

Eitem 13 - Roedd gweithdy Gweithdrefn Gwrandawiadau wedi'i gynnal ar 30 Medi 2022 .

 

Eitem 16 – Dim ond arweiniad a roddwyd gan Un Llais Cymru i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar sut i gwblhau’r Rhaglen Hyfforddiant ar ddiwedd mis Medi, felly byddai adroddiad diweddaru yn cael ei roi i gyfarfod mis Ionawr ar nifer y Cynghorau a roddodd yr adroddiad hwn ac a oedd yn cynnwys hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.

.Eitem 17- Roeddid yn dal i aros am arweiniad ar yr hunanwerthusiad. 

 

 

7.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: pdf eicon PDF 157 KB

7a

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Calon Tysul) pdf eicon PDF 585 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 17 Awst 2022 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar gyllid posib ar gyfer Calon Tysul.  Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).  Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

 

7b

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Calon Tysul) pdf eicon PDF 584 KB

Cofnodion:

 

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 17 Awst 2022 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar gyllid posib ar gyfer Calon Tysul.  Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).  Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

 

7c

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) pdf eicon PDF 587 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 17 Awst 2022 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar gyllid posibl ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul.  Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).  Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

7d

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) pdf eicon PDF 584 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 17 Awst 2022 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar gyllid posibl ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul.  Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth.

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).  Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis

7e

Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Llandysul Pontweli) pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 17 Awst 2022 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a phleidleisio ar gyllid posibl ar gyfer Llandysul Pont-Tyweli Ymlaen Cyf.    Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu Bwrdd Rheoli fel Cyfarwyddwr.  Fel eu haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).  Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

8.

Rheoliadau newydd mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y rheoliadau diwygiedig.

9.

Canfyddiadau Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth ac y byddai'r adroddiad hefyd yn cael ei ddosbarthu i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned er gwybodaeth.

10.

Materion sy'n ymwneud â'r Cod Ymddygiad pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth yn amodol ar roi gwybod i’r pwyllgor mewn adroddiadau yn y dyfodol am unrhyw dueddiadau oedd wedi cynyddu/gostwng. Nododd y Pwyllgor y cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o dueddiadau’n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a cham-drin ar-lein.

11.

Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

12.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2021/22 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad. Byddai'r Swyddog Monitro yn gwneud cais i'r Ombwdsmon ychwanegu colofn ychwanegol lle atgyfeiriwyd achos ond nad ymchwiliwyd iddo.

13.

Y diweddaraf am broses recriwtio'r Pwyllgor Moeseg a Safonau a'r penodiadau i Is-bwyllgor Safonau Cydbwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

14.

Hyfforddiant pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad yn amodol ar ychwanegu Hyfforddiant y Gwrandawiadau a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022. Hefyd, byddai hyfforddiant ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned unigol pe byddai angen.

15.

Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda

Cofnodion:

Ni chafwyd dim un.

16.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith yn amodol ar:-

         Y dylid rhoi ystyriaeth bellach i Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol fynychu holl gyfarfodydd y pwyllgor, ac i fecanwaith y gallai'r Swyddog Monitro roi adroddiad ar eu rhan yn cyflwyno tystiolaeth o'r gwaith yr oeddent wedi'i wneud mewn perthynas â hybu safonau.

         Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi darparu ei dempled i Arweinwyr Grwpiau ei gwblhau. Gellid addasu hwn a rhoi adroddiad amdano i'r pwyllgor yn unol â hynny.

         Adolygiad o'r Datganiad o Weledigaeth

         Byddai'r Clercod yn gofyn am Raglen Hyfforddi ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned i weld a fyddai hyfforddiant Cod Ymddygiad yn orfodol.

         Y byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ynghyd â Swyddogion yn ystyried Hunanwerthusiad y Pwyllgor gan nad oedd yr arweiniad wedi dod i law eto.

 

17.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad i’r Aelodau ar:

         Hysbysiadau Penderfynu’r Ombwdsmon

         Fforwm Safonau Cadeiryddion Cymru Gyfan - gellir cynnal cyfarfod cyn cyfnod y Nadolig. Roedd y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai Swyddogion Monitro Powys a Cheredigion yn bresennol yn y cyfarfod bob yn ail. Bydd y Cadeirydd, neu'r Is-Gadeirydd, hefyd yn mynychu'r cyfarfod..