Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Delyth James a Jan Culley ynghyd â Mr John
Weston am na fedrent ddod i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd Caryl Roberts fuddiant personol a buddiant sy’n
rhagfarnu ynghylch ceisiadau 7 (a) - 7(n). Datgelodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fuddiant personol a buddiant
sy’n rhagfarnu ynghylch ceisiadau 7 (a) - 7(n). Datgelodd Mrs Dana Jones, Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd a Safonau,
fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu ynghylch ceisiadau 7(q) - 7(x) a
chymerodd Mrs Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau, y cofnodion. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau gynhaliwyd 25 Ionawr 2023 PDF 98 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023 yn gywir, yn ddibynnol ar wneud y
newidiadau canlynol yn y fersiwn Saesneg:-
(i) newid y paragraff cyntaf yn eitem 5 i “highest
standards of conduct” (ii) ychwanegu “the” cyn “Appendix”
yn y pedwerydd paragraff yn eitem 6; a (iii) newid eitem 9 i “in relation to
dispensations”. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Hyfforddiant –
Roedd hyfforddiant diweddaru wedi’i drefnu ar gyfer 18 Mai 2023. Roedd yr
hyfforddiant yn orfodol ar gyfer Aelodau newydd ac roedd croeso i Aelodau
eraill a oedd eisiau dod neu a oedd yn destun unrhyw gwynion. Eitem 6 –
Adroddodd y Swyddog Monitro y byddai’r Pwyllgor yn cofio cymeradwyo’r templed
atodedig ar gyfer Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar
25/1/23. Yn dilyn
trafodaeth â’r Cadeirydd, cynigwyd y dylid newid paragraff 12 fel a ganlyn: o: “Bydd Arweinwyr y
Grwpiau yn paratoi eu hadroddiad ar gyfer cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Moeseg a
Safonau a gynhelir ar ôl 1 Ebrill bob blwyddyn;” i: “Bydd
Arweinwyr y Grwpiau yn paratoi eu hadroddiad ar gyfer y Pwyllgor Moeseg a
Safonau ar ôl 1 Ebrill bob blwyddyn;” Cytunwyd i
gadarnhau’r newid a nodwyd y byddai gweithdy’n cael ei drefnu i drafod y
ddogfen hon ymhellach gydag Arweinwyr y Grwpiau. Eitem 17 -
Cynhaliwyd cyfarfod Fforwm Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau Cymru ddau ddiwrnod
ar ôl cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal
ar 30 Mehefin 2023 ac roedd CLlLC wedi dweud y byddai’r Cadeiryddion a’r
Is-gadeiryddion yn cael hyfforddiant. Trafodwyd yr ymgynghoriad ynghylch
adroddiad Penn a chafwyd cyfle i ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad hwnnw. Eitem 11 -
Cytunwyd y byddai’r eitem ynghylch cysoni’r trothwyon ar gyfer rhoddion /
lletygarwch ar draws pob awdurdod yng Nghymru yn cael ei hadolygu eto ymhen
chwe mis gan ei bod bellach yn rhan o’r ymgynghoriad ynghylch adroddiad Penn.
Byddai’r eitem yn cael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith. Eitem 13 -
Derbyniwyd tri chynllun hyfforddi arall oddi wrth Gynghorau Tref a Chymuned.
Byddai trafodaeth bellach ynghylch hyn o dan yr eitem ‘Hyfforddiant’ ar yr
agenda. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu (Saesneg yn unig ar hyn o bryd) PDF 84 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r
Cofnod o’r Camau Gweithredu fel y’i cyflwynwyd, yn ddibynnol ar addasu’r ddogfen
i gynnwys y materion uchod a oedd yn codi o’r cofnodiondocument with the
matters arising above. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: |
|
Cynhgorydd Gareth Lloyd, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 152 KB Cofnodion: Gofynnwyd i’r Cynghorydd Lloyd adael y Siambr er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Lloyd
siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r
Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023, ar y sail bod cyfiawnhad
i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd
rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(f)). |
|
Cynghorydd Euros Davies, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 146 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Euros Davies, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd yn adeiladwr hunangyflogedig a oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw
ar ffermydd a oedd yn cadw gwartheg. Roedd hefyd yn rhentu tir ac yn cadw
praidd o ddefaid a cheffylau. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB
a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynghorydd Gwyn James, Cyngor Sir Ceredigion , Cais TB PDF 405 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Gwyn James, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd yn ffermwr llaeth mewn partneriaeth â’i fab ym Mron y Glyn,
Glynarthen. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd James siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a
fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y gollyngiad
ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd dilynol o’r
Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na chwe mis. |
|
Cynghorydd Geraint Hughes, Cyngor Sir Ceredigion, - Cais TB PDF 157 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 24 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Geraint Hughes, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd ganddo gysylltiadau â ffermwyr a oedd wedi’u heffeithio gan TB a’r
ffordd y câi ei reoli yn y sector amaethyddol yng Nghymru. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Hughes siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB
a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn
berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod
perthnasol yn cael ei gynnal (Rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynghorydd Wyn Evans, Cyngor Sir Ceredigion, Cais TB PDF 175 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 24 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Wyn Evans, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais.
Roedd yn byw ar fferm y teulu, Nant Byr Uchaf, lle’r oedd yn ffermio defaid a
gwartheg. Gofynnwyd i’r
Cynghorydd Evans adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei
gais. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a
fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis.
|
|
Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, Cyngor Sir Ceredigion- Cais TB PDF 153 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd yn byw ar fferm y teulu, Benglog, lle’r oedd yn ffermio defaid a
gwartheg. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Wigley Evans siarad a phleidleisio ar y cynnig
ynghylch TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod
ar 20 Ebrill 2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y
mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynhgorydd Meirion Davies, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 411 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Meirion Davies, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd TB a’r ffordd y câi ei reoli yn y sector amaethyddol yn cael
effaith ar ffermio. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB
a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynhgorydd Ifan Davies, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 153 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Ifan Davies, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd yn ffermwr bîff a defaid ym Mhontrhydfendigaid. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB
a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynghorydd Bryan Davies, Cyngor Sir Ceredigion -Cais TB PDF 155 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais dyddiedig
23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Bryan Davies, Cyngor Sir Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y
Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr
oedd Llywodraeth Cymru’n delio â TB. Roedd yn ffermwr gwartheg bîff. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a fyddai’n cael ei
gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023, ar y sail bod
cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol
iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor
ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond
ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na chwe mis.
|
|
Cynghorydd Eryl Evans, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 175 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Eryl Evans, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd hi’n ffermwr bîff a defaid yn ei phrif fan preswyl a dyna oedd prif
fywoliaeth y teulu. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a
fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill
2023, ar y sail bod cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod
(Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 153 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Rhodri Evans, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn
am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor
Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio â TB. Roedd yn ffermwr bîff
a defaid yn Nhregaron. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans
siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r
Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023, ar y sail bod cyfiawnhad
i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd
rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor
ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond
ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na chwe mis.
|
|
Cynghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir Ceredigion - Cais TB PDF 236 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Catrin M S Davies, Cyngor Sir
Ceredigion, a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio
â TB. Roedd hi’n berchen ar fferm a oedd yn cael ei ffermio gan ei chwaer ac roedd
ei phartner yn ffermwr. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd M S Davies siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch
TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20
Ebrill 2023, ar y sail na fyddai cyfranogiad yr aelod
yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn
y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal (Rheoliad
2(d)). Rhoddwyd y
gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd
dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na
chwe mis. |
|
Cynghorydd Ceris Jones, Cyngor Sir Ceredigion, - Cais TB PDF 146 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
dyddiedig 23 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Ceris Jones a oedd yn gofyn am ollyngiad ynghylch y
Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am y ffordd yr
oedd Llywodraeth Cymru’n delio â TB. Roedd ei thad-cu a’i brawd yn ffermwyr
bîff. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Jones
siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r
Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023, ar y sail na fyddai
cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn
niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael
ei gynnal (Rheoliad 2(d)). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor
ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond
ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na chwe mis.
|
|
Councillor Wyn Thomas, Ceredigion County Council - TB application Cofnodion: Derbyniwyd cais hwyr dyddiedig 30 Mawrth 2023 oddi
wrth y Cynghorydd Wyn Thomas, Cyngor Sir Ceredigion, a oedd yn gofyn am
ollyngiad ynghylch y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor
Llawn am y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru’n delio â TB. Roedd yn berchen ar
wartheg. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Thomas
siarad a phleidleisio ar y cynnig ynghylch TB a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r
Cyngor a’i ystyried yn y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023, ar y sail bod cyfiawnhad
i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd
rôl neu arbenigedd penodol yr aelod (Rheoliad 2(f)). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer cyfarfod y Cyngor
ar 20 Ebrill 2023 ac unrhyw gyfarfodydd dilynol o’r Cyngor yn ôl yr angen, ond
ni fyddai’r gollyngiad yn para fwy na chwe mis.
|
|
Cynghorydd Euros Davies, Cyngor Sir Ceredigion PDF 146 KB Cofnodion: Nodwyd bod y cais
wedi’i dynnu’n ôl. |
|
Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Sir Ceredigion PDF 154 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 25 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Elizabeth Evans. Roedd y cais yn ymwneud â’r gwaith o amddiffyn prif harbwr
Aberaeron a Phwll Cam rhag llifogydd. Roedd y Cynghorydd Evans yn dymuno
cysylltu â’r swyddogion ar ran ei thrigolion i drafod gwahanol agweddau ar y
gwaith ar yr harbwr gan ofyn unrhyw gwestiynau perthnasol. Roedd ei mam yn byw
gyferbyn â Phwll Cam. Roedd
y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei chais. Gofynnwyd
i’r Cynghorydd Evans adael y gynhadledd fideo fel y gallai’r Pwyllgor ystyried
ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans
siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai
cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio
hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; (rheoliad 2 (d)).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Tref Aberaeron PDF 154 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 25 Mawrth 2023 oddi
wrth y Cynghorydd Elizabeth Evans. Roedd y cais yn ymwneud â’r gwaith o amddiffyn
prif harbwr Aberaeron a Phwll Cam rhag llifogydd. Roedd y Cynghorydd Evans yn
dymuno cysylltu â’r swyddogion ar ran ei thrigolion i drafod gwahanol agweddau
ar y gwaith ar yr harbwr gan ofyn unrhyw gwestiynau perthnasol. Roedd ei mam yn
byw gyferbyn â Phwll Cam. Gofynnwyd i’r Cynghorydd Evans adael y gynhadledd
fideo fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Evans
siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai
cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio
hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; (rheoliad 2 (d)).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Matthew Vaux, Cyngor Sir Ceredigion PDF 303 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 27 Mawrth
2023 oddi wrth y Cynghorydd Matthew Vaux. Roedd y cais yn ymwneud â’r
trefniadau ynghylch casglu gwastraff yng Ngheinewydd
a’r trafodaethau ynghylch lleoli a chyflenwi biniau cyhoeddus yn y dref. Roedd
y Cynghorydd Vaux yn berchen ar siop tecawê a bwyty
pysgod a sglodion The Captains Rendezvous
yng Ngheinewydd. |
|
Cynghorydd Matthew Vaux, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 184 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 27 Mawrth
2023 oddi wrth y Cynghorydd Matthew Vaux. Roedd y cais yn ymwneud â’r
trefniadau ynghylch casglu gwastraff yng Ngheinewydd a’r
trafodaethau ynghylch lleoli a chyflenwi biniau cyhoeddus yn y dref. Roedd y
Cynghorydd Vaux yn berchen ar siop tecawê a bwyty
pysgod a sglodion The Captains Rendezvous
yng Ngheinewydd. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Vaux
siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai
cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio
hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; (rheoliad 2 (d)).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Brett Stones, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 144 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 21
Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Brett Stones ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau (llety
hunanarlwyo, cabanau, carafanau ac ail gartrefi). Roedd yn berchen ar fusnes
mordeithiau gwylio Dolffiniaid, siop gwerthu Pasteiod a llety gwyliau yng Ngheinewydd. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Stones siarad a
phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol
neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y
busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y
gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Jennifer Davies, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 144 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 21 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Jennifer Davies
ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety
hunanarlwyo, ail gartrefi, podiau glampio a
charafanau. Roedd ei merch-yng-nghyfraith yn berchen ar eiddo hunanarlwyo. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan
lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol
â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes
hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Julian Evans, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 144 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 21 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Julian Evans
ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety
hunanarlwyo, ail gartrefi, podiau glampio a
charafanau. Roedd yn berchen ar lety hunanarlwyo yng Ngheinewydd PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Evans siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai
na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r
achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes
hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Sioned Davies, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 144 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 21 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Sioned Davies
ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety
hunanarlwyo, ail gartrefi, podiau glampio a
charafanau. Roedd ei thad yn berchen ar lety hunanarlwyo yng Ngheinewydd PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan
lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol
â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes
hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Tomas Davies, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 145 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 21 Mawrth 2023 oddi wrth y Cynghorydd Tomas Davies ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer llety
gwyliau gan gynnwys llety hunanarlwyo, ail gartrefi, podiau
glampio a charafanau. Roedd yn Gyfarwyddwr ar Barc Gwyliau Pencnwc
ger Ceinewydd, Caerfelin yn Aberporth a New Minterton yn Ninbych-y-pysgod. Roedd ganddo hefyd ddau
eiddo a oedd yn cael eu gosod ar rent yn ardal Ceinewydd. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan
lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol
â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes
hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis. |
|
Cynghorydd Ywain Davies, Cyngor Tref Cei Newydd PDF 148 KB Cofnodion: Derbyniwyd cais am ollyngiad dyddiedig 21 Mawrth
2023 oddi wrth y Cynghorydd Ywain Davies ynghylch
ceisiadau cynllunio ar gyfer llety gwyliau gan gynnwys llety hunanarlwyo, ail
gartrefi, podiau glampio a charafanau. Ef oedd
perchennog/Cyfarwyddwr Maes Carafanau Wern Mill,
Gilfachreda, Ceinewydd. Roedd ganddo lety gwyliau – carafanau teithiol,
carafanau sefydlog, cartrefi gwyliau a chabanau gwyliau. Roedd gan ei deulu
hefyd lety gwyliau yn lleol. Gallai ceisiadau cynllunio gael effaith
uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ei fusnes (cadarnhaol neu negyddol). Gallai
ei farn/penderfyniad gael ei ystyried yn unochrog neu’n ddiduedd gan y cyhoedd
neu’r rhai a fyddai’n cyflwyno’r cais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Davies siarad a phleidleisio ar y sail nad oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu bwyllgor yr awdurdod (yn unol â'r achos dan sylw) a fydd yn ystyried y busnes, fudd sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw; (rheoliad 2 (a)). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis |
|
Ffurflen gais am ollyngiad wedi'i diweddaru PDF 339 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r newid a oedd wedi’i wneud i’r ffurflen gais am
ollyngiad, fel y’i cyflwynwyd. |
|
Diweddariad ar recriwtio Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau PDF 64 KB Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cadeirydd
presennol Mrs Caroline White wedi’i phenodi yn y lle cyntaf ar 30/7/2013 cyn
iddi gael ei hail-benodi ar 30/7/2019. Byddai ei chyfnod yn y swydd yn dod i
ben ar 29/7/2023. Nid
oedd Mrs Caroline Wride bellach yn gymwys i gael ei
hailbenodi. O ganlyniad, roedd angen recriwtio aelod
annibynnol newydd i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau er mwyn cynnal cyfansoddiad y
Pwyllgor, fel y nodir yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ac fel sy’n ofynnol gan
ddeddfwriaeth. Yn dilyn y broses recriwtio, dewiswyd Gail Storr yn Aelod Annibynnol/Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Moeseg a
Safonau. Byddai’r aelod lleyg newydd yn cael ei phenodi am un tymor o 6
blynedd, gyda’r opsiwn i’w hailbenodi am ail dymor o 4 blynedd, hyd at ddim mwy
na dau dymor gweinyddol yn olynol, gan gynnwys y tymor presennol (hyd at 10
mlynedd, hyd at 29 Gorffennaf 2032). Penderfynodd y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 26
Ionawr, gymeradwyo penodiad Gail Storr fel Aelod
Annibynnol / Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau o 30 Gorffennaf 2023 hyd
at 29 Gorffennaf 2029. CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd. |
|
Penodi Cadeirydd/Is-Gadeirydd Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Cadeirydd
presennol gan y byddai ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 24 Gorffennaf
2023. Awgrymwyd y gellid penodi Cadeirydd newydd o 01 Mai 2023 ymlaen neu o 01
Mehefin 2023 ymlaen. Dywedwyd bod un Aelod annibynnol wedi cytuno i roi ei henw
ymlaen, sef Mrs Caryl Davies. Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans y dylai Mrs Caryl Davies gael ei
phenodi’n Gadeirydd o 01 Mai 2023 ymlaen am gyfnod o bedair blynedd
(1/5/23-30/4/27). Cafodd hyn ei eilio gan Mr Alan Davies. Byddai cyfnod yr Is-gadeirydd yn ei swydd yn dod i ben ar 30 Gorffennaf
2023. PENDERFYNWYD gohirio’r penderfyniad ynghylch penodi Is-gadeirydd tan
gyfarfod nesaf y Pwyllgor gan nad oedd yr Is-gadeirydd yn bresennol. |
|
Adolygu Datganiad o Weledigaeth y Pwyllgor Moeseg a Safonau PDF 71 KB Cofnodion: Rhannwyd
Datganiad o Weledigaeth presennol y Pwyllgor Moeseg a Safonau gydag aelodau’r
Pwyllgor ar 22 Chwefror 2023. Roedd Datganiad o
Weledigaeth y Pwyllgor Moeseg a Safonau fel a ganlyn: “Ein gweledigaeth
yw y bydd gan bobl Ceredigion ffydd ac ymddiriedaeth fod pob un a etholwyd i
weithredu mewn llywodraeth leol yn ein sir yn cynnal y safonau moesegol a
moesol uchaf wrth wasanaethu eu cymuned”. Gofynnodd y
Swyddog Safonau i’r aelodau rannu unrhyw sylwadau/newidiadau arfaethedig y
byddent yn dymuno gweld yn cael eu gwneud. Cafwyd yr
ymatebion canlynol: * Cytunodd tri
aelod o’r pwyllgor fod y datganiad o weledigaeth yn dal yn addas i’r diben. * Cynigiodd un
o’r aelodau newid bychan a fyddai’n golygu ychwanegu “a busnesau” ar ôl “bobl”. CYTUNWYD i
ohirio’r penderfyniad ynghylch geiriad y datganiad fel y gellid ystyried y
cynnig i ychwanegu’r geiriau ‘busnesau a sefydliadau’ ar ôl ‘bobl’. |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: CYTUNWYD i nodi dau o’r penderfyniad a wnaed gan
Banel Dyfarnu Cymru. Roedd y rhain wedi’u hanfon ar e-bost ar ôl cyhoeddi’r
agenda:-
|
|
Diweddariad ar faterion yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 88 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys
yr adroddiad a gyflwynwyd. Dywedwyd bod cyfarfodydd
Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Penfro yn cael eu gweddarlledu
ac y gellid defnyddio’r cyfarfodydd hyn fel adnodd hyfforddiant ar gyfer y
Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y
byddai’r adroddiad yn cael ei ddosbarthu i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned
ar ôl iddo gael ei gyflwyno yn y Pwyllgor.
|
|
Hyfforddiant Cofnodion: Dywedwyd y byddai hyfforddiant diweddaru ynghylch
y Cod i Gynghorwyr yn cael ei gynnal ar gyfer y Cynghorwyr Sir ar 18 Mai 2023
fel y nodwyd eisoes o dan faterion yn codi. Yn dilyn yr hyfforddiant ynghylch gwrandawiadau ym
mis Medi 2022, byddai fideo o wrandawiad yn cael ei darparu fel y gellid ei
ystyried. Dywedodd Caryl Davies y byddai gwylio gwrandawiad go iawn yn rhoi
persbectif gwahanol i'r Pwyllgor o ran cynnal gwrandawiad. Roedd un deg chwech o Gynghorau Tref a Chymuned
wedi darparu eu cynlluniau hyfforddiant.
Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn ofyniad statudol i’r cynlluniau
hyfforddi gael eu cyhoeddi ar wefannau’r Cynghorau Cymuned. Dim ond yr hyfforddiant
yr oedd yr aelodau wedi’i wneud oedd llawer o’r Cynghorau wedi’i nodi ac nid
oeddent wedi darparu cynllun ar gyfer hyfforddiant y dyfodol. Roedd y cynlluniau a ddarparwyd gan nifer o’r
Cynghorau Tref a Chymuned yn gofyn am hyfforddiant diweddaru ar y cod. Byddai
hyn yn cael ei ddarparu yn 2024. Byddai Cyngor Cymuned Llansantffraed yn derbyn hyfforddiant am y Cod Ymddygiad ar 2/5/23, yn dilyn argymhelliad Panel Dyfarnu Cymru ar ôl achos y Cyn-Gynghorydd Vaughan. Cllr Vaughan case. |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Roedd cais hwyr y
Cynghorydd Wyn Thomas eisoes wedi’i ystyried o dan eitem 7. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD y byddai’r canlynol yn cael ei ychwanegu at y flaenraglen waith:- (i) Cysoni’r trothwyon o ran rhoddion / lletygarwch ar draws holl
Awdurdodau Cymru; (ii) Y Datganiad o Weledigaeth – byddai’r
eitem hon yn cael ei chynnwys ar agenda’r cyfarfod nesaf; (iii) Yr ymateb drafft a baratowyd gan y
Swyddog Monitro i’r 20 cwestiwn sy’n rhan o ymgynghoriad Adolygiad Penn– byddai’r ymateb drafft yn cael ei ddosbarthu i’r
Aelodau, fel y gellid darparu ymateb cydlynus erbyn
diwedd mis Ebrill; (iv) Gweithdy gydag arweinyddion y grwpiau –
roedd yn bosib y byddai’r gweithdy yn cael ei gynnal ym mis Mai 2023; byddai
hyn yn dibynnu ar ba bryd y byddai’r arweinyddion ac Aelodau’r Pwyllgor ar
gael; (v) Hunanwerthusiad - byddai’n
cael ei ddosbarthu ym mis Mai 2023 a byddai’r canlyniadau yn cael eu cyflwyno
yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin 2023. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai ei chyfarfod olaf fel Cadeirydd a
diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion am eu gwaith a’u cymorth yn ystod
ei chyfnod wrth y llyw. Dymunodd yn dda i’r Cadeirydd newydd wrth iddi ddechrau
ar ei chyfnod yn y swydd. Wrth ymateb, diolchodd y Swyddog Monitro a’r Aelodau iddi am ei holl
waith caled a’i hymrwymiad i’r rôl gan nodi bod y Cadeirydd presennol wastad yn
wybodus am y materion dan sylw. |