Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Gwyn Evans a John Weston am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Roedd Miss Caryl Davies wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 11 ar yr agenda.

 

Roedd Mrs Dana Jones, Swyddog Democrataidd a Safonau, wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitemau 5(i) hyd 5 (vi) ar yr agenda. Gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried. Gwnaeth Mrs Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau, gymryd y cofnodion tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.

 

3.

Gweithdrefn

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai cais hwyr y Cynghorydd Sian Maehrlein am ollyngiad, yr eitem parthed Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion - gan gynnwys y dyletswyddau sy’n ofynnol o dan adrannau 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - a Thempled Cydymffurfio Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, yn cael eu hystyried gyntaf ar yr agenda

4.

Cynghorydd Sian Maehrlein, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

 

Cafwyd cais dyddiedig 19 Ionawr 2023 gan y Cynghorydd Sian Maehrlein, Cyngor Sir Ceredigion, yn gofyn am ollyngiad ynghylch y tarmac yn ystâd Maesglas, Aberteifi. Roedd ganddi dri o berthnasau yn byw ar yr ystâd. Roedd mwy na 200 o dai a byngalos yn yr ystâd, mae’n llwybr bysiau a gofynnwyd iddi sawl gwaith i holi’r Cyngor ynghylch ail-darmacio.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Maehrlein siarad a phleidleisio ynghylch mater tarmac yn unig ar y sail canlynol:

bod natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal

(Rheoliad 2 (d)), a hefyd

(e) bod y buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd.  (Rheoliad 2(e)).

Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

 

 

5.

Trafod gydag arweinwyr y pleidiau ddulliau o hybu a chynnal safonau uchel drwy ymddygiad gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion i gynnwys y dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Adrannau 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafod gydag arweinwyr y pleidiau ddulliau o hybu a

chynnal safonau ymddygiad uchel gan Aelodau Cyngor Sir

Ceredigion gan gynnwys y dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Adrannau 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru), y Cynghorydd Gareth Lloyd (Arweinydd y Grŵp Annibynnol) a’r Cynghorydd Elizabeth Evans (Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol) am ddod i’r cyfarfod i rannu barn ar hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel yng Ngheredigion.

 

Adroddwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswyddau newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol a phwyllgorau safonau. Y rhannau perthnasol yw adrannau 62 a 63. 

O ran dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad, mae Adran 52A o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn datgan bod yn rhaid i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir yng Nghymru gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp; a rhaid iddo gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor.

Yn adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (swyddogaethau pwyllgorau safonau), mae gan bwyllgor safonau cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru hefyd y swyddogaethau penodol canlynol—

(a) monitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor â'u dyletswyddau o dan adran 52A(1),

(b) cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy'n ymwneud â'r dyletswyddau hynny.

 

Adroddwyd bod arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ceredigion yn cael eu gwahodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau i drafod y ffyrdd o hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion. Adroddwyd ei bod bellach yn angenrheidiol i Arweinwyr Grwpiau ystyried y dyletswyddau ychwanegol sydd arnynt i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp. Hefyd, sut i gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor, a sut y gellir dangos tystiolaeth o hyn.

Dywedodd yr arweinwyr gwleidyddol eu bod yn croesawu'r canllawiau hyn gan eu bod yn rhywbeth i gyfeirio atynt i gadarnhau bod y safonau'n cael eu parchu.

 

Pwysleisiodd holl arweinwyr y Cyngor mor bwysig oedd gwaith y Pwyllgor wrth hyrwyddo safonau ymddygiad uchel. Gwnaethant adrodd ar eu cyfarfodydd grŵp lle trafodwyd materion safonau a'r angen iddynt barchu swyddogion y Cyngor ac iddynt hwythau barchu’r aelodau.

Cytunwyd hefyd fod trefniadau yn cael eu gwneud i ddarparu’n fuan hyfforddiant diweddaru ar y Côd, gan fod yr hyfforddiant a ddarparwyd ar bob agwedd o'r Cyngor ers yr etholiad yn sylweddol iawn.

Nodwyd hefyd fod cyngor ar gael bob amser i’r Aelodau a hynny oddi wrth y Swyddog Monitro a’r Swyddogion Safonau, drwy e-bost ac yn bersonol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinyddion am ddod i’r cyfarfod.

 

 

6.

Templed Cydymffurfio Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Templed Cydymffurfio Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol

Adroddwyd bod Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn destun dwy ddyletswydd statudol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021:

• Cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp

• Cydweithredu â’r Pwyllgor Safonau wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau.

 

Roedd y Pwyllgor Moeseg a Safonau o dan ddyletswydd i:

• fonitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor gyda'u dyletswyddau, a hefyd

• cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy'n ymwneud â'r dyletswyddau hynny.

 

Hefyd roedd y Pwyllgor Moeseg a Safonau o dan ddyletswydd i baratoi adroddiad blynyddol oedd:

a) yn gorfod cynnwys asesiad y pwyllgor o’r graddau y mae arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau, a

b) gall yr adroddiad gynnwys argymhellion neu sylwadau am hyd a lled y gydymffurfiaeth â'r dyletswyddau newydd hyn.

 

Adroddwyd bod yr Atodiad yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol, a'r templed arfaethedig sy'n seiliedig ar enghreifftiau yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru i atgoffa arweinwyr y grwpiau am y materion sydd i'w cynnwys yn eu hadroddiadau. Roedd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol wedi cyfrannu at ddrafftio'r protocol a'r templed.

 

CYTUNWYD i GYMERADWYO Templed Cydymffurfio drafft Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, fel y’i cyflwynwyd.

 

 

7.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd 13 Hydref 2022 pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2022 yn gywir

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2022 yn gywir.

 

Materion sy'n codi

Eitem 12 -  Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2021/22 - anfonwyd cais i swyddfa’r Ombwdsmon am golofn ychwanegol yn y tabl yn Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon a hynny ar gyfer achosion sydd wedi eu cyfeirio ond heb eu hymchwilio. Gwnaethant adrodd y byddant yn ystyried hyn yn eu Llythyr Blynyddol nesaf.

 

Eitem 13 -  Y diweddaraf am broses recriwtio'r Pwyllgor Moeseg a Safonau

a'r penodiadau i Is-bwyllgor Safonau Cydbwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru - cyflwynir adroddiad i gyfarfod y Cyngor trannoeth yn cadarnhau cymeradwyo Gail Storr yn aelod annibynnol/lleyg o’r Pwyllgor Moeseg a Safonau oddi ar 30 Gorffennaf 2023 hyd 27 Gorffennaf 2029.

 

Eitem 16 - cafodd hon ei haddasu a’i hystyried o dan eitem

7 ar yr agenda. Roedd y Datganiad o Weledigaeth a’r Hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn y Flaenraglen Waith er ystyriaeth.

 

Eitem 17-  Roedd Fforwm Safonau Cadeiryddion Cymru Gyfan wedi cael ei ohirio cyn y Nadolig a byddai’n cael ei gynnal bellach ar 27/1/23. Roedd Swyddogion Monitro cynghorau Ceredigion a Phowys yn darparu cefnogaeth arall i’r Pwyllgor.

 

8.

Cofnod o Gamau Gweithredu pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Cofnod o’r Camau Gweithredu fel y’i cyflwynwyd, ar yr amod yr ystyrir rhoi colofn ychwanegol gyda’r Statws Coch Melyn Gwyrdd ar gyfer pob eitem.

 

9.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog Monitro gynghori’r Pwyllgor ynghylch y ceisiadau am ollyngiad a gafwyd oddi wrth gynghorwyr Cyngor Tref Ceinewydd a’r wybodaeth ychwanegol yr hoffai’r Pwyllgor ei chael cyn ystyried y ceisiadau.

Parthed sail (a) am ollyngiad, rhoddwyd y cyngor canlynol:

Canllawiau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, paragraff 3.51:

“Dim ond y Pwyllgor Safonau all ganiatáu'r oddefeb a bydd yn gwneud hynny yn ôl ei ddisgresiwn.

Bydd angen i'r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan grŵp gweddol gynrychioliadol o aelodau'r Cyngor.

Os bydd methu rhoi caniatâd yn golygu na fydd cyngor neu bwyllgor yn sicrhau cworwm, mae'n ddigon posibl y bydd hyn yn sail dros ganiatáu gollyngiad.”

 

Ar ôl trafod penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r gwaith o benderfynu ar y ceisiadau hyn a gofyn am y wybodaeth ganlynol oddi wrth y Clerc:

         Faint o Gynghorwyr sydd ar Gyngor Tref Ceinewydd?

         Faint o Gynghorwyr sy’n gorfod bod yn bresennol er mwyn bod cworwm yn y Cyngor?

         Beth yw hanes a chyd-destun y ceisiadau hyn? 

         A oes problem wedi bod o ran cworwm?

         A yw pob cynghorydd sy’n weddill - sydd heb wneud cais am ollyngiad - yn gallu pleidleisio?

         Os ceisir am ollyngiad er lles y gymuned, i ddatgan pam

         A oes canllawiau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned sy’n ymateb i geisiadau cynllunio fel ymgyngoreion statudol?

         Ystyried gwahanu materion cynllunio a materion treth y cyngor/ ardrethi busnes mewn ceisiadau am ollyngiad

         A oes angen i Gyngor y Dref fynd i'r afael ag unrhyw faterion ar frys?

         Beth yw'r diffyg democrataidd os na roddir gollyngiad?

Mae'r Pwyllgor yn gofyn i'r clerc ddarparu ymateb drwy e-bost ac yn dweud bod croeso i’r clerc neu’r Cynghorwyr Tref ddod i’r cyfarfod nesaf.

 

10.

Cynghorydd Brett Stones, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 145 KB

11.

Cynghorydd Jennifer Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 144 KB

12.

Cynghorydd Julian Evans, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 144 KB

13.

Cynghorydd Sioned Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 144 KB

13a

Cynghorydd Tomos Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 145 KB

13b

Cynghorydd Ywain Davies, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 148 KB

14.

Canllawiau a Phroses yr Ombwdsmon ar gyfer Cwynion y Côd Ymddygiad pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y llythyr.

 

15.

Cysoni'r trothwyon ar gyfer rhoddion / lletygarwch ar draws pob Awdurdod yng Nghymru pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cysoni’r trothwyon ar gyfer rhoddion / lletygarwch ar draws pob Awdurdod yng Nghymru

Adroddwyd bod Swyddogion Monitro yng Nghymru yn ystyried a yw’n addas gofyn am farn y Pwyllgorau Safonau ynghylch cytuno ar drothwy cyffredin ymhlith holl awdurdodau Cymru, er mwyn cael cysondeb. Mae nifer o awdurdodau wedi dangos diddordeb mewn cael dull unedig. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor Safonau ynghylch a oedd cefnogaeth i gymryd y cam hwn, a beth ddylai’r gwerth fod. Gan fod lefel bresennol Cyngor Sir Ceredigion (£21) yn is na’r gwerth sydd fwyaf cyffredin (£25), gofynnwyd am farn y Pwyllgor ynghylch cytuno mewn egwyddor i gynyddu trothwy Cyngor Sir Ceredigion o £21 i £25.

Pleidleisiodd y pwyllgor fel a ganlyn:

1 Yn erbyn

2 Yn erbyn

3 Yn erbyn

4 Yn erbyn

Ar ôl trafod, CYTUNWYD hefyd ar y canlynol:

Bod amrywiaeth leol yn dderbyniol, er y cytunnir mewn egwyddor â’r syniad o gysondeb.

Trafododd y Pwyllgor a ddylai’r Aelodau dderbyn rhoddion yn ogystal ag effaith gronnol rhoddion a oedd, ar eu pen eu hunain, yn disgyn o dan y trothwy. Dylai’r trothwy ar gyfer rhoddion i Aelodau’r Cyngor a Swyddogion fod yn cyd-fynd â’i gilydd.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y cynnig hwn ymhellach a bydd yn cael ei roi yn y Flaenraglen Waith i’w ystyried. Felly hefyd, o bosib, gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ôl yr angen. Dim ond y Cyngor all wneud newidiadau i’r Côd.

 

16.

Diweddariad y Swyddog Monitro ynghylch y Cod Ymddygiad - Chwarter 3 (Medi - Rhagfyr 2022) pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i’r Pwyllgor am y gweithgarwch o ran cwynion a thueddiadau diweddar. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

17.

Canfyddiadau Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

Os oes achos o fynd yn groes i’r Côd, byddai’n ddefnyddiol pe bai llythyr yn mynd at y Cynghorydd, hyd yn oed os nad oedd angen cymryd camau pellach.

18.

Hunanwerthusiad y Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau ar 13 Hydref, cytunwyd y byddai papur ar hunanwerthusiad y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

Roedd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddogion wedi cyfarfod ac wedi drafftio holiadur er mwyn hunanwerthuso’r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn flynyddol. Cyflwynwyd yr holiadur arfaethedig a chynigiwyd bod hunanwerthusiad yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan aelodau’r Pwyllgor Moeseg a Safonau ar ddiwedd blwyddyn y cyngor.

 

CYTUNWYD i roi rhagor o ystyriaeth i’r hunanwerthuso o ran cael gwared ar yr opsiwn canolig yn yr holiadur hunanwerthuso ac ychwanegu cwestiwn ar effeithiolrwydd y Pwyllgor o ran llwyth gwaith agenda’r pwyllgor. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor anfon eu hadborth ar yr hunanwerthuso erbyn y cyfarfod nesaf.

19.

Cynlluniau hyfforddi Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

20.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith.

21.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.