Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y ddau Gynghorydd Sir newydd, y Cynghorwyr Gwyn Evans a Caryl Roberts, i’r cyfarfod. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Mr John Weston am na fedrai ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd 17 Ionawr 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022 yn rhai cywir yn amodol ar newid gair olaf y penderfyniad yn eitem 7 (b) yn y fersiwn Saesneg i ‘received’. |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd 07 Chwefror 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2022 yn rhai cywir. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Cofnodion 17/01/2022 - Eitem 3, Unrhyw Fater Arall – Dywedodd y Swyddog Monitro y cytunwyd â Chyngor Sir Powys y byddai Aelodau o Bwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion hefyd yn Aelodau o Cyd-bwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru. Serch hynny, nid oedd nifer yr Aelodau a oedd eu hangen yn hysbys eto a dywedwyd bod hyn yn amodol ar gyngor oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynglŷn â chyfansoddiad y pwyllgor. |
|
Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2021/22 Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a
Safonau 2021/22. Diolchodd y Cadeirydd
i’r swyddogion am baratoi’r Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Pwyllgor i GYMERADWYO fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn amodol ar newid y ffigwr ar dudalen 32 yr adroddiad. |
|
Cynllunio olyniaeth-aelod lleyg Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch cynllunio olyniaeth o ran
aelodau lleyg. Yn dilyn trafodaeth, CYTUNWYD i argymell i’r Cyngor y dylai
gymeradwyo’r canlynol: (i) disgrifiad y rôl, y manyleb personol a’r meini prawf
(fel yr amlinellir yn yr Atodiad) (ii) Aelodaeth y Panel Dethol fel a ganlyn: • Cadeirydd y Cyngor (yn absenoldeb yr Is-gadeirydd); •Aelod Annibynnol / Lleyg o’r Panel (enwebwyd gan y Swyddog
Monitro) • Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau (neu
unrhyw aelodau annibynnol a enwebwyd gan y Swyddog Monitro fel y bo angen) • Cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned a enwebwyd gan
Un Llais Cymru; a (iii) newid y teitl ‘disgrifiad swydd’ yn yr Atodiad gan roi ‘disgrifiad o'r rôl’ yn lle hynny. |
|
Diweddariad recriwtio Cynghorwyr Cyngor Tref/Cymuned Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd a dywedwyd y dylid ystyried cydbwysedd o ran y rhywiau ar y Pwyllgor, os byddai modd gwneud hynny, yn ystod y broses benodi. |
|
Penderfyniadau Cod Ymddygiad gan yr Ombwdsmon Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r penderfyniadau a gyflwynwyd o ran y Cod Ymddygiad ers cyhoeddi’r Coflyfr diwethaf. Roedd yr Aelodau yn cytuno â’r fformat newydd o gyflwyno’r wybodaeth. Byddai’r wybodaeth hon hefyd yn cael ei dosbarthu i Arweinwyr y Grwpiau ac yn cael ei defnyddio fel deunydd hyfforddi. |
|
Materion y Cod Ymddygiad-Diweddariad ar erthyglau'r wasg Cofnodion: Dim. |
|
Tueddiadau'r Cwynion am Gynghorwyr - 2021 Cofnodion: Ystyriwyd y tueddiadau o ran cwynion sy’n ymwneud â
Chynghorwyr ar gyfer 2021/22. CYTUNWYD i
nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Nodwyd hefyd y byddai adroddiad o’r tueddiadau
yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol a allai gynnwys mwy o wybodaeth gyffredinol pe
byddai’r Swyddog Monitro yn ystyried bod hyn yn dderbyniol. Yn ogystal, byddai
Arweinwyr y Grwpiau yn rhan o unrhyw gŵyn yn erbyn eu Cynghorwyr o’r
cychwyn cyntaf yn y dyfodol; a hynny oherwydd eu cyfrifoldeb newydd o ran
arfarnu tueddiadau a gwella safonau yn ystod y weinyddiaeth newydd. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd y ddogfen ddiwygiedig ynghylch y Weithdrefn ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau. Yn dilyn trafodaeth, CYTUNWYD i argymell y dylai’r Cyngor gymeradwyo’r ddogfen ar 07 Gorffennaf 2022 yn amodol ar ddiwygio’r rhifau. Byddai siart lif ynghylch y Gweithdrefnau ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau hefyd yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau. |
|
Diweddariad ynghylch materion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r penderfyniad a oedd wedi’i ddosbarthu ar
e-bost o ran y Cynghorwyr Bishop, P Morgan, W Owen a D Poole. |
|
Y diweddaraf am fater yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cofnodion: Ni chafwyd adroddiad. |
|
Hyfforddiant Cofnodion: • Cynhaliwyd
hyfforddiant i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned ar 27 Ebrill 2022 a dywedwyd
bod 30 o Glercod yn bresennol. Darparwyd nodiadau Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru i’r Clercod fel y gallent hwyluso hyfforddiant ar gyfer eu Cynghorau Tref
/ Cymuned. • Rhoddwyd
hyfforddiant i Aelodau’r Pwyllgor Moeseg a Safonau ynglŷn â Rôl a
Chyfrifoldebau’r Pwyllgor ar 24 Mai 2022 • Byddai’r
hyfforddiant ynglŷn â’r Weithdrefn ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau yn cael
ei gynnal ar 30 Medi 2022 • Byddai’r
hyfforddiant i Arweinwyr y Grwpiau yn cael ei gynnal ar 06 Mehefin 2022 • Roedd
Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Cymuned y Borth wedi gofyn am hyfforddiant.
Anogwyd Aelodau’r Pwyllgor i gynorthwyo â’r hyfforddiant unwaith y byddai
wedi’i drefnu. • Nodwyd bod
Un Llais Cymru yn cynnig hyfforddiant ynglŷn â’r Cod Ymddygiad i bob
Cynghorydd Tref a Chymuned. • Roedd y modiwlau
hyfforddi newydd ar gael i’r Aelodau Annibynnol ar y llwyfan E-ddysgu newydd.
Serch hynny, roedd angen cael cadarnhad a fyddai’r hyfforddiant hwn ar gael i
Glercod a Chynghorwyr y Cynghorau Tref a Chymuned, unwaith y byddai cynnwys y
deunydd hyfforddi wedi dod i law. • Soniwyd am
yr angen o bosib i ymestyn yr hyfforddiant ynghylch y Cod Ymddygiad dros gyfnod
hirach o amser fel y gallai’r Cynghorwyr Tref a Chymuned amsugno’r wybodaeth
gymhleth a gyflwynwyd. • Dywedwyd
bod yr hyfforddiant ynghylch y Cod Ymddygiad yn un cenedlaethol a oedd yn cael
ei ddarparu ar-lein. Ystyriwyd y gallai hyn fod yn broblem i Gynghorwyr sy’n
gynghorwyr ers tro byd, a fyddai’n dymuno derbyn yr hyfforddiant wyneb yn
wyneb. Byddai un o’r swyddogion yn cysylltu â’r clercod i weld a fyddai’n well
ganddynt gael hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb. Nodwyd hefyd nad oedd
nifer o Glercod yn teimlo’n gyfforddus i ddarparu’r hyfforddiant hwn i’w
Cynghorau. • Byddai’r Swyddog Monitro yn gofyn am gopi o Raglen Hyfforddi’r Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn gweld a oedd hyfforddiant wedi’i roi ynghylch y Cod Ymddygiad. Nodwyd bod cais wedi’i wneud am y Rheolau Sefydlog a'r Broses Ddatrys Leol yn flaenorol. Gan fod pob Cynghorydd Sir yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Tref a chymuned yn eu wardiau, dywedwyd y dylent hyrwyddo’r hyfforddiant a oedd ar gael. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd.
Dywedodd y Cadeirydd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf cyn 02 Tachwedd 2022.
Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at y goblygiadau o ran adnoddau o drefnu
cyfarfodydd brys a bod angen i’r Aelodau drefnu eu gwaith yn briodol i weld a
fyddai angen gollyngiad arnynt. Dywedwyd mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynnal y
cyfarfod a oedd yn cael ei gynnal heddiw ym mis Gorffennaf. Byddai cais yn cael
ei wneud i gynnal y cyfarfod hwn ym mis Medi neu ym mis Hydref yn hytrach nag
ym mis Tachwedd. Cytunwyd y byddai adroddiad y Swyddog Monitro am
dueddiadau,
hunanarfarnu a’r cynlluniau hyfforddi ar gyfer y Cynghorau Tref a
Chymuned yn cael eu hychwanegu at agenda’r cyfarfod nesaf. Cytunwyd hefyd y byddai Cofnod o Gamau Gweithredu’r cyfarfod
heddiw yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf; yn unol ag argymhelliad y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |