Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Mr John Weston am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Dafydd Edwards am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod yn ymwneud ag eitem 5).

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelu Buddiannau Personol / Buddiannau sy’n Rhagfarnu

Datganodd Mrs Dana Jones, Swyddog Democrataidd a Safonau fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 7 (a), (b), ac (c), a gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried. Cymerodd Mrs Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau, y cofnodion tra oedd y ceisiadau hynny yn cael eu hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd Gill Hopley fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 7 (a), (b) ac (c) a gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd Julian Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 7 (a), (b) ac (c) a gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.

Datganodd y Cynghorydd Dai Mason fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 7 (d) ac (e) a gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.

Datganodd y Cynghorydd Odwyn Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 7 (d) ac (e) a gadawodd y cyfarfod tra oedd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.

 

4.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd 17 Medi 2021 pdf eicon PDF 388 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021 yn gywir yn amodol ar y canlynol:-

(i) diwygio enw’r diweddar Anne Winfield i ‘Ann’ yng nghofnod 13(i)

(ii) diwygio Cofnod 20, y byddai hyfforddiant dwyieithog yn cael ei ddarparu rhwng aelodau’r pwyllgor

5.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Cofnod 14 -  Adroddwyd y byddai'r adolygiad o’r protocol Datrys Anghydfodau Lleol yn cael ei ddiwygio yn dilyn trafodaeth gyda Swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan nad oedd Ombwdsmon Gwasanaethau

Cyhoeddus Cymru bellach yn derbyn cwynion ailadroddus neu gwynion lefel isel. Ar ôl ei ddiwygio, byddai Un Llais Cymru yn hysbysu'r Cynghorau Tref a Chymuned yn unol â hynny.

Cofnod 16 – wedi cael ei drafod mewn gweithdy ar 17 Tachwedd 2021.

Cofnod 20 - ni dderbyniwyd adborth ac nid oedd ar ddod.

Cofnod 20 - Roedd y ddau aelod annibynnol newydd wedi derbyn hyfforddiant ar 27 Medi 2021.

Cofnod 21 - Derbyniwyd cynnig gan grŵp Swyddogion Monitro Cymru Gyfan y dylid ymestyn Fforwm Safonau Gogledd Cymru i Fforwm Cymru Gyfan. Cytunodd yr Aelodau â’r cynnig hwn a byddai'r ymateb yn cael ei anfon at y grŵp Swyddogion Monitro yn unol â hynny.

6.

Trafod gydag arweinwyr y pleidiau ddulliau o hybu a chynnal safonau uchel drwy ymddygiad gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion i gynnwys y dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Adrannau 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

Trafod gydag arweinwyr y pleidiau ddulliau o hybu a chynnal safonau uchel drwy ymddygiad gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion i gynnwys y dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Adrannau 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru), y Cynghorydd Ray Quant (Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Grŵp Annibynnol) a’r Cynghorydd Ceredig Davies (Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r wrthblaid) i’r cyfarfod i rannu barn ar hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad yng Ngheredigion.

 

Adroddwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi dyletswyddau newydd i arweinwyr grwpiau gwleidyddol a'r pwyllgorau safonau, ac yn cynnwys yr adrannau perthnasol, sef adran 62 ac adran 63.

O ran dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau

ymddygiad, (Adran 52A Deddf Llywodraeth Leol 2000) mae'n datgan bod yn rhaid i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir yng Nghymru gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau'r grŵp; a bod yn rhaid iddo gydweithio â phwyllgor safonau'r cyngor.

Yn adran 54 Deddf Llywodraeth Leol 2000 (swyddogaethau pwyllgorau safonau),

mae gan bwyllgor safonau cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru hefyd swyddogaethau penodol

(a) monitro i ba raddau mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor yn

cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan adran 52A(1), a

(b) cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y

cyngor ynghylch materion sy'n ymwneud â'r dyletswyddau hynny.

 

Adroddwyd y gwahoddir arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ceredigion bob blwyddyn i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau i drafod y dulliau o hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan Aelodau Cyngor Sir Ceredigion. Adroddwyd ei bod bellach yn angenrheidiol i Arweinwyr Grwpiau ystyried y dyletswyddau

ychwanegol arnynt i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau uchel o

ymddygiad gan aelodau'r grŵp; a sut i gydweithio â phwyllgor safonau'r cyngor, a sut y gellir dangos hyn. Dywedodd yr arweinwyr gwleidyddol eu bod yn croesawu’r canllawiau hyn, gan eu bod yn gyfeiriad iddynt gadarnhau y cedwir at y safonau.

 

Pwysleisiodd holl arweinwyr y Cyngor bwysigrwydd gwaith y Pwyllgor wrth hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad a chroesawyd yr hyfforddiant a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Mai 2022 yn dilyn yr etholiadau ar y Cod Ymddygiad.

 

Tynnodd yr Arweinwyr sylw hefyd at yr angen i fynd i’r afael â materion ymddygiad mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd yn rhithiol, yn enwedig o ran ymddygiad Aelodau megis ateb y ffôn wrth fynychu’r cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinwyr am fynychu’r cyfarfod.

 

 

7.

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:

8.

Y Cynghorydd Dan Potter, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 12 Tachwedd 2021 gan y Cynghorydd Dan Potter i siarad yn unig ar faterion yn ymwneud â’r harbwr ym Mhwyllgor Ymgynghorol Defnyddwyr Harbwr Ceinewydd a gynhelir cyn ac ar ôl y tymor (mis Mawrth a mis Hydref). Mae’r Cynghorydd Potter yn berchen ar ‘New Quay Marine’ sef busnes cychod sy’n trwsio cychod yn yr harbwr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei gyflogi’n flynyddol i gynnal yr ardal nofio fel contractwr ardal Nofio Diogel. Mae hefyd yn prydlesu dwy angorfa gan Gyngor Sir Ceredigion ac yn berchen ar sied y tu allan i orsaf y bad achub a hen orsaf gwyliwr y glannau ym Mharagon. Mae hefyd yn derbyn £40 yr wythnos fel llywiwr cwch gyda Bad Achub Ceinewydd / Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

 

Roedd y Cynghorydd Potter yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Potter adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Potter i siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

 

9.

Y Cynghorydd Dan Potter, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 320 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 12 Tachwedd 2021 gan y Cynghorydd Dan Potter i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â’r harbwr a’r traeth yng Ngheinewydd. Mae’r Cynghorydd Potter yn berchen ar ‘New Quay Marine’ sef busnes cychod sy’n trwsio cychod yn yr harbwr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei gyflogi’n flynyddol i gynnal yr ardal nofio fel contractwr ardal Nofio Diogel. Mae hefyd yn prydlesu dwy angorfa wrth Gyngor Sir Ceredigion ac yn berchen ar sied y tu allan i orsaf y bad achub a hen orsaf gwyliwr y glannau ym Mharagon. Mae hefyd yn derbyn £40 yr wythnos fel llywiwr cwch gyda Bad Achub Ceinewydd / Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

 

Roedd y Cynghorydd Potter yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Potter adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Potter i siarad a

phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai

cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn

niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a

bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag

ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad

2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau)

(Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

 

10.

Y Cynghorydd Dan Potter, Cyngor Tref Cei Newydd pdf eicon PDF 561 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 12 Tachwedd 2021 gan y Cynghorydd Dan Potter i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â’r harbwr a’r traeth yng Ngheinewydd. Mae’r Cynghorydd Potter yn berchen ar ‘New Quay Marine’ sef busnes cychod sy’n trwsio cychod yn yr harbwr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei gyflogi’n flynyddol i gynnal yr ardal nofio fel contractwr ardal Nofio Diogel. Mae hefyd yn prydlesu dwy angorfa gan Gyngor Sir Ceredigion ac yn berchen ar sied y tu allan i orsaf y bad achub a hen orsaf gwyliwr y glannau ym Mharagon. Mae hefyd yn derbyn £40 yr wythnos fel llywiwr cwch gyda Bad Achub Ceinewydd / Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

 

Roedd y Cynghorydd Potter yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac ateb unrhyw gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Potter adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Potter i siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis.

 

11.

Cynghorydd Peter Davies MBE, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 563 KB

Cofnodion:

Y Cynghorydd Peter Davies MBE, Cyngor Sir Ceredigion

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 10 Ionawr 2022 gan y Cynghorydd Peter Davies MBE i siarad a phleidleisio yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio  mewn perthynas ag adroddiad Archwilio Cymru ar Gynllunio. Mae’r Cynghorydd Davies yn aelod o Bwyllgor Rheoli Datblygu’r Cyngor.

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Peter Davies i siarad yn unig ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer y cyfarfod a oedd i’w gynnal ar 17/1/22 yn unig.

 

 


 

 

12.

Y Cynghorydd Rowland Rees-Evans, Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 564 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 18 Rhagfyr 2021 gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans i siarad yn unig yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio  mewn perthynas ag adroddiad Archwilio Cymru ar Gynllunio. Mae’r Cynghorydd Rowland Rees-Evans yn eistedd ar y Pwyllgor Rheoli Datblygu ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Mae nifer o faterion yn adroddiad Archwilio Cymru wedi'u cyfeirio at y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Roedd y Cynghorydd Rees-Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais ac i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Rees-Evans adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Rees-Evans i siarad yn unig ar y sail bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad ar gyfer y cyfarfod a oedd i’w gynnal ar 17/1/22 yn unig

13.

Fframwaith Datblygu ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru 2021 pdf eicon PDF 706 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y Fframwaith Datblygu ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru 2021. Adroddwyd y datblygwyd y fframwaith hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel canllaw defnyddiol i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus ac ar gyfer darparu cymorth a hyfforddiant i aelodau. Mae'n cynnwys ystod o gymwyseddau generig sydd eu hangen ar bob Cynghorydd yn ogystal â chymwyseddau arbenigol sy'n gysylltiedig â rolau penodol ar y Cyngor.

 

Mae'r cymwyseddau generig yn cynnwys: sgiliau sylfaenol megis deall rôl y Cynghorydd, a'r Awdurdod Lleol, ymddygiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, sgiliau TGCh a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ati; sgiliau sydd eu hangen ar bob cynghorydd yn eu rolau fel arweinwyr cymunedol megis ymgynghori ac ymgysylltu; gwaith achos ar ran y cyhoedd; partneriaeth a chynrychiolaeth; a gweithio mewn amgylchedd gwleidyddol. Mae cymwyseddau penodol rolau yn cynnwys dealltwriaeth o rôl Craffu, datblygu ac adolygu polisi, dwyn y Weithrediaeth i gyfrif, monitro perfformiad; Sgiliau cadeirio; gwasanaethu ar bwyllgorau statudol / rheoleiddiol; Aelodau Gweithrediaeth; ac Arweinyddiaeth y Cyngor.

 

Byddai’r fframwaith yn bwydo i'r rhaglen hyfforddi / cynefino ar gyfer Cynghorwyr.

 

Adrannau perthnasol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau

 

Mae’r tabl isod yn cyfeirio at yr hanfodion: Amrywiaeth o sgiliau cyffredinol sydd eu hangen ar yr holl Aelodau.

Cyf

Gofyniad

Gwybodaeth a Sgiliau 

Ymddygiadau effeithiol 

A3

Ymddygiad

Y fframwaith moesegol y

mae'n rhaid i Gynghorwyr

weithio yn ei ôl.

Y Cod Ymddygiad. Rôl y

Swyddog Monitro, y

Pwyllgor Safonau, y

Protocol Datrysiadau Lleol.

rôl Ombwdsmon

Gwasanaethau Cyhoeddus

Cymru a chyfarwyddyd

ganddo.

 

Bob amser yn cadw at y Cod

Ymddygiad. Bob amser yn

datgelu ac yn diffinio

buddiannau pan fo angen. Yn gofyn am gyngor gan y

swyddog monitro pan fo

angen.

 

A17

Gweithio gyda Swyddogion

Rôl swyddogion yn

gyffredinol a’r ‘rheolau’ y

mae angen iddynt gadw

atynt gan gynnwys

dealltwriaeth ddyfnach o rôl

uwch swyddogion fel y Prif

Weithredwr, y Tîm Uwch Reolwyr,

y Swyddog

Monitro a Phenaethiaid

Cyllid, Cyfreithiol a

Gwasanaethau

Democrataidd. Sgiliau wrth

weithredu fel cyflogwr

corfforaethol. Deall y

broses benodi a sgiliau

cyfweld.

 

Yn cynnal perthnasoedd

proffesiynol â swyddogion,

gan gydnabod ffiniau a chadw at Brotocol yr Aelodau a’r Swyddogion. Yn gweithredu fel aelod effeithiol o banel

penodi, gan weithredu

egwyddorion cadarn o ran

Adnoddau Dynol,

cydraddoldeb ac amrywiaeth i

wneud penodiadau.

A38

Disgyblaeth Grŵp

Dealltwriaeth o

ymddygiadau ac

ymddygiad sydd eu hangen

gan aelod o'r grŵp

 

Yn gweithio yn unol â'r safonau ymddygiad sy'n

ofynnol gan Arweinydd y

Grŵp.

B8

Arweinyddiaeth

Pwyllgor

Dealltwriaeth drylwyr o rôl y

pwyllgor a'i gwmpas.

Y gallu i gysylltu â

swyddogion, aelodau ac

asiantaethau perthnasol.

Ymrwymiad i alluogi holl

aelodau'r pwyllgor i

ddatblygu sgiliau a

chymryd rhan yn effeithiol

mewn cyfarfodydd.

Yn hyrwyddo gwaith a gwerth y pwyllgor yn y Cyngor ac i'r

cyhoedd. Gweithio gyda'r

pwyllgor y tu allan i

gyfarfodydd i wneud iddo

weithio'n fwy effeithiol.

Cyfathrebu ag aelodau a

swyddogion sydd â diddordeb yn nhrafodion y pwyllgor. Yn meithrin perthnasoedd â

Phenaethiaid/Cyfarwyddwyr

perthnasol Gwasanaethau i

sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn berthnasol, yn wybodus ac yn rhoi'r  canlyniadau sydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Materion y Cod Ymddygiad- Diweddariad ar erthyglau'r wasg pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r erthyglau diweddar yn y wasg a gyflwynwyd.

15.

Coflyfr Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Rhif 25 pdf eicon PDF 265 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi rhifyn 25 o Goflyfr Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel y’i cyflwynwyd

16.

Penodi Cynghorwyr Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau - Cynllunio ar gyfer Olyniaeth pdf eicon PDF 346 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad a gyflwynwyd ar Benodi Cynghorwyr Tref a Chymuned i’r Pwyllgor Moeseg a SafonauCynllunio ar gyfer Olyniaeth.

1CYTUNWYD derbyn y broses arfaethedig ar gyfer dethol Cynghorwyr Tref a Chymuned i fod ar y Pwyllgor Moeseg a Safonau ar gyfer y cyfnod gweinyddol rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2027.

17.

Y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a gyfeirir at y pwyllgor moeseg a safonau a chynnal gwrandawiadau pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a gyfeirir at y pwyllgor moeseg a safonau a chynnal gwrandawiadau

Ystyriwyd adroddiad ar y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a gyfeirir at y pwyllgor moeseg a safonau a chynnal gwrandawiadau.

 

Adroddwyd bod yr Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru (paragraff 1.6) yn argymell y dylai Pwyllgorau Safonau gwblhau hyfforddiant ynghylch sut i gynnal gwrandawiadau er mwyn sicrhau bod yr aelod y cwynir amdano, yr achwynydd ac unrhyw dystion yn cael eu trin mewn ffordd agored a theg. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn derbyn bod angen mwy o atgyfeiriadau at Bwyllgorau Safonau pan fo’n gwrthod ymchwilio i gwynion.

 

Adolygwyd y ddogfen er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau yn y Rheoliadau (yn 2016) a chymharwyd hefyd â’r gweithdrefnau sydd ar waith mewn awdurdodau eraill er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau presennol y Cyngor yn gyfredol ac yn addas i’w diben.

Cyflwynwyd newidiadau arfaethedig y ddogfen ddiwygiedig i’w hystyried.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD

(i) derbyn y diwygiadau;

(ii) argymell y dylai’r Cyngor gymeradwyo’r ddogfen yn amodol ar unrhyw argymhellion neu ddiwygiadau i’r ddogfen yn dilyn ystyriaeth mewn gweithdy a fydd yn cael ei gynnal cyn Etholiadau mis Mai.

 

18.

Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi materion Panel Dyfarnu Cymru er gwybodaeth.

19.

Pwyllgor Moeseg a Safonau: Ddisgrifiadau Rôl a Manyldeb Personol pdf eicon PDF 698 KB

Cofnodion:

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi llunio set ddiwygiedig o Ddisgrifiadau Rôl ar gyfer Aelodau Etholedig ar y cyd ag Aelodau a Swyddogion yr Awdurdodau Lleol. Mae’r disgrifiadau hyn sy’n amlinellu cyfrifoldebau a swyddogaethau rôl yr aelod etholedig ar gael fel awgrymiadau yn hytrach na chyfarwyddiadau. Mae gan yr Aelodau Etholedig a lleyg amrywiaeth eang o rolau neu gyfrifoldebau y mae disgwyl iddynt eu cyflawni ac amcan y disgrifiadau hyn yw cynnig fframwaith a chanllawiau o ran y cyfrifoldebau hyn a’r ystod o weithgareddau y mae’r Aelodau yn ymgymryd â nhw.

Mae’r Canllawiau Atodol i Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yn nodi enghreifftiau o “gamau rhesymol” y gallai Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol eu cymryd.

 

Mae Fframwaith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o Ddisgrifiadau Rôl a Manylebau Person ar gyfer Aelodau yn cynnwys y disgrifiadau rôl enghreifftiol ar gyfer rolau amrywiol gan gynnwys:

           

            Cadeirydd y Pwyllgor Safonau

            Aelod o’r Pwyllgor Safonau

            Arweinydd Grŵp Gwleidyddol - Disgrifiad Rôl a Chanllawiau Atodol

           

Adroddwyd bod y ddogfen wedi’i hystyried ar y cyd ag Aelodau a Swyddogion yr Awdurdod Lleol yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Hydref 2021. Dangosir y ddolen yma:

           

https://council.ceredigion.gov.uk/documents/s2103/report%20-%20Members%20role%20description.pdf?LLL=0

 

           

Adroddwyd y byddai'r ddogfen hefyd yn cael ei hystyried gan y Cyngor a bod y Pwyllgor eisoes wedi ystyried y ddogfen yn ei weithdy ar 17/11/21.

Ar ôl ystyried y cynnwys sy'n ymwneud â'r Pwyllgor Moeseg a Safonau, CYTUNWYD nodi'r adroddiad.

20.

Cynhadledd Safonau Cymru a gynhelir o bell ar 9/2/22

Cofnodion:

Adroddwyd y byddai Cynhadledd Safonau Cymru yn cael ei chynnal o bell ar 09 Chwefror 2022 a bod manylion y digwyddiad a'r agenda wedi'u dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor, Cynghorwyr a Chlercod Cyngor Tref a Chymuned. Gan fod y Gynhadledd yn cael ei chynnal o bell nid oes cyfyngiad ar nifer y cynrychiolwyr sy'n gallu mynychu fesul awdurdod.

Roedd yr Aelodau i roi gwybod i'r Swyddog Craffu a Safonau neu'r Swyddog Democrataidd a Safonau erbyn 28 Ionawr pe bai'r Aelodau'n dymuno mynychu'r gynhadledd, ynghyd â dewis iaith.

21.

Hyfforddiant

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y cyrsiau cynefino canlynol yn dilyn yr etholiad:-

Llun

9

 

Mai

10:00am

Elin Prysor

HYFFORDDIANT - Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau newydd (2 ½ awr) (gorfodol)

 

2:00pm

Elin Prysor

HYFFORDDIANT - Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau sy'n dychwelyd (1 ½ awr) (gorfodol)

 

Mawrth  24

Mai

 

2:00pm

Elin Prysor

HYFFORDDIANT – Rôl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Moeseg a Safonau (gorfodol i holl aelodau'r Pwyllgor)

 

 

 

 

  • Hysbyswyd yr Aelodau hefyd fod croeso iddynt fynychu unrhyw sesiynau hyfforddi eraill a fyddai’n cael eu darparu ar ôl y weinyddiaeth newydd ym mis Mai 2022 megis Hyfforddiant Llywodraethu ac Archwilio neu’r Pwyllgor Rheoli Datblygu. Hefyd; byddai hyfforddiant ar ymddygiad Aelodau yn ystod cyfarfodydd rhithiol hefyd yn cael ei ddarparu gan fod protocol cyfredol ar y mater hwn.
  • Byddai hyfforddiant gorfodol i Arweinwyr Grwpiau hefyd yn cael ei gynnal ar 06 Mehefin 2022.
  • Adroddwyd hefyd y byddai hyfforddiant ar wrandawiadau hefyd yn cael ei gynnal ym mis Medi 2022.

 

22.

Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda

Cofnodion:

Dim.

23.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

(i) Diolchwyd i’r Cynghorwyr a fyddai’n ymddeol o’r pwyllgor am eu gwaith yn ystod y tymor.

(ii) Adroddodd y Swyddog Monitro y cytunwyd ar y canlynol yn y Gweithdy a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd:-

o   y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r ddolen i wefan yr Ombwdsmon ar dudalen we Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion.

o   Holiadur Effeithiolrwydd ar gyfer y Pwyllgor.

o   Y Swyddog Monitro i ddarparu adroddiad chwarterol ar dueddiadau cwynion, a'u lefel fel eitem safonol ar yr agenda. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei roi ar yr agenda o'r tymor gweinyddu newydd ymlaen.

(iii) roedd angen trafod cyfansoddiad Cyd-bwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru. Cytunwyd mewn egwyddor mai Swyddog Monitro Powys fyddai'r swyddog monitro ar gyfer CBC Canolbarth Cymru. Roedd Cyngor Sir Powys wedi awgrymu y gallai Aelodau Cyd-bwyllgor Safonau CBC Canolbarth Cymru fod o Bowys. Roedd yr Aelodau o'r farn, gan mai cyd-bwyllgor oedd hwn, y dylai ei Aelodau fod o'r ddwy Sir. Byddai e-bost gan y swyddog monitro yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod i ganfod eu barn ar yr aelodaeth.