Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd Ms Carol Edwards a’r Cynghorydd Ceredig Davies
am na allent fynychu’r cyfarfod. Bu'n rhaid i'r Cynghorydd Dai Mason adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd apwyntiad ysbyty munud olaf. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Julian Evans fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu yn y ceisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Elizabeth Evans a gadawodd y gynhadledd fideo wrth i’r ceisiadau hyn gael eu hystyried. |
|
Gweithdrefn Cofnodion: Cytunwyd, oherwydd yr angen i fod o fewn cworwm, y byddai'r ceisiadau gan y Cynghorydd Elizabeth Evans yn cael eu hystyried yn gyntaf i aros i Mr Rif Winfield ymuno â'r cyfarfod dros y ffôn ac i'r Cynghorydd Julian Evans adael y cyfarfod; gan ei fod wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu. Cytunwyd hefyd y byddai pob cais arall am ollyngiad yn cael ei ystyried yn dilyn y cais hwn, cyn ystyried y cofnodion. |
|
Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol: |
|
Cofnodion: Y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Sir Ceredigion Cafwyd cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad 16 Medi 2021 gan y
Cynghorydd Elizabeth Evans i siarad yn unig ar Gynllun Amddiffyn Arfordir
Aberaeron (i gynnwys harbwr Aberaeron a Phwll Cam, Aberaeron). Mae mam y Cynghorydd Evans yn byw yn Stryd y
Farchnad, Aberaeron. Mae ei chartref yn edrych yn uniongyrchol dros y maes
parcio ger Pwll Cam. Mae teulu’r
Cynghorydd Evans hefyd yn berchen ar adeilad yn Rhif 18 Stryd y Farchnad,
Aberaeron – nid oes ganddi incwm ohono ac nid oes ganddi dim rhanberchnogaeth
o’r eiddo. Roedd y Cynghorydd Evans yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno ei chais ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i'r Cynghorydd Evans adael y gynhadledd fideo er
mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad
yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad
yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y
cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod y buddiant yn
gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd; (rheoliad 2 (d) ac (e)
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y
gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Cyngh Elizabeth Evans -Cyngor Tref Aberaeron Cofnodion: Y Cynghorydd Elizabeth Evans,
Cyngor Tref Aberaeron Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 16 Medi 2021 gan y Cynghorydd Elizabeth Evans i siarad
yn unig ar
Gynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron (i gynnwys harbwr Aberaeron a Phwll Cam,
Aberaeron). Mae mam y Cynghorydd Evans yn byw yn Stryd
y Farchnad, Aberaeron. Mae ei
chartref yn edrych yn uniongyrchol
dros y maes
parcio ger Pwll Cam. Mae teulu’r Cynghorydd Evans hefyd yn berchen
ar adeilad yn Rhif 18 Stryd
y Farchnad, Aberaeron – nid
oes ganddi incwm ohono ac nid oes ganddi
dim rhanberchnogaeth o’r eiddo. Roedd y Cynghorydd
Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei chais
ac atebodd gwestiynau ynghylch ei chais. Gofynnwyd i'r
Cynghorydd Evans adael y gynhadledd fideo er mwyn i’r
Pwyllgor ystyried ei chais. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod y buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd; (rheoliad 2 (d) ac (e) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Cynghorydd Ceredig Davies - Cyngor Sir Ceredigion Cofnodion: Y Cynghorydd
Ceredig Davies - Cyngor Sir Ceredigion Cafwyd
cais am ollyngiad yn dwyn dyddiad
06 Medi 2021 gan y Cynghorydd Ceredig Davies i siarad
a phleidleisio ar addasiadau i fynediad i gerddwyr a cherbydau i ganol tref Aberystwyth gan mai ef
yw perchennog y siop Mona Liza, 22 Stryd Fawr, Aberystwyth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Davies i siarad yn unig ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol (rheoliad 2 (d) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Calon Tysul) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor
Sir Ceredigion (Cais Calon Tysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
gyfer Calon Tysul. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar
eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu
haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn
golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad
2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Calon Tysul) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Calon Tysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
gyfer Calon Tysul. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar
eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu
haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn
golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad
2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor
Sir Ceredigion (Cais Cymdeithas
Chwaraeon Llandysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar
eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu
haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn
golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad
2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Cymdeithas Chwaraeon Llandysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
gyfer Cymdeithas Chwaraeon Llandysul. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar
eu Pwyllgor Rheoli. Fel eu
haelod lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned, mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn
golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad
2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Cais Llandysul Pontweli) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor
Sir Ceredigion (Cais Pontweli
Llandysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
Landysul Pont-Tyweli Ymlaen Cyf. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu
Bwrdd Rheoli fel Cyfarwyddwr. Fel eu haelod
lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi
gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn
golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn
y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud
ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal
busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes
y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef
wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad
2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001).
Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Llandysul Pontweli) Cofnodion: Cadarnhau fel
cofnod cywir gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 PENDERFYNWYD cadarnhau fel cofnod cywir
gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 yn amodol ar ddiwygio’r
canlynol:- (i)” is” i “his” yng nghofnod Saesneg
S1 ac ychwanegu bod y diweddar
Mrs Anne Winfield hefyd wedi
bod yn gadeirydd y pwyllgor; a (ii) i gael gwared â’r cyfeiriad ar S5 bod y Cynghorydd Odwyn Davies wedi nodi y byddai’n rhaid iddo adael y cyfarfod “ar y pwynt hwn a chamodd John Weston i lawr i sicrhau cworwm” gan fod hyn yn anghywir |
|
Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Llandysul Pontweli) Cofnodion: Y Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Cymuned Llandysul (Cais Pontweli Llandysul) Cafwyd cais
am ollyngiad yn dwyn dyddiad 31 Awst 2021 gan y Cynghorydd Keith Evans i siarad a
phleidleisio ar gyllid posibl ar
Landysul Pont-Tyweli Ymlaen Cyf. Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu ac yn cynghori ar eu
Bwrdd Rheoli fel Cyfarwyddwr. Fel eu haelod
lleol o'r Cyngor Sir ac o'r Cyngor Cymuned,
mae sefydliadau lleol yn dibynnu
ar aelodau etholedig am arweiniad, arweinyddiaeth a chymorth. PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i'r Cynghorydd Evans i siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd wrth gynnal busnes yr awdurdod perthnasol; a bod cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi’i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; (rheoliad 2 (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Rhoddwyd y gollyngiad am gyfnod 12 mis. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Cofnod S4- Adran 62 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad – Dywedwyd hyd yma nad
oedd yr ymgynghoriad
wedi dod i law ar adran hon y Ddeddf. Cofnod S9- Rheoliadau
Cyd-bwyllgorau Corfforedig
(Cyffredinol) (Cymru)
2021Rhoddwyd ystyriaeth i Reoliadau
Cyd-bwyllgorau Corfforedig
(Cyffredinol) (Cymru) 2021
– Dywedwyd bod yr ymgynghoriad wedi cau ar 06 Medi
2021. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi dosbarthu
sylwadau i aelodau'r pwyllgor gan ddweud
y dylai fod yn orfodol i Aelodau
Cyfetholedig gytuno i’r Cod Ymddygiad, ac nid yn ddewisol. Cofnod S15 cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo penodiadau’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn unol â hynny |
|
Y Weithdrefn ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Lleol a Siart Lif Cofnodion: Adolygiad o'r
protocol Datrys Anghydfodau
Lleol Rhoddwyd ystyriaeth
i'r Adroddiad ar Adolygu’r Protocol Datrys Anghydfodau Lleol. Dywedwyd y gofynnwyd i'r awdurdodau,
mewn cyfarfod diweddar o Rwydwaith y Swyddogion Monitro, rannu eu Gweithdrefn
Datrys Lleol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddai hyn yn
rhoi cyfle i gymharu a chyferbynnu pob Gweithdrefn Datrys Lleol gyda'r
bwriad o'u hadolygu. Bwriadwyd i'r
Weithdrefn Datrys Leol eistedd ochr
yn ochr â'r
Cod, gan alluogi delio yn gyflym
ac yn effeithiol ag ymddygiad na
fydd o bosibl yn cyrraedd trothwy'r
atgyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhoddwyd ystyriaeth
i Weithdrefn Datrys Lleol a siart lif
Cyngor Sir Ceredigion ar hyn
o bryd. Dywedwyd bod Un Llais Cymru hefyd
wedi cynhyrchu canllawiau i gynorthwyo cynghorau tref a chymuned i'w cefnogi
gyda'r broses ddatrys leol Dywedwyd y byddai
canlyniadau'r adolygiad a oedd yn cael
ei gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael
eu rhannu gyda'r Pwyllgor maes o law. CYTUNWYD: (i) i nodi'r
protocol a gyflwynwyd; (ii) i gael
gwared â’r llinell fel gydag “aelodau
amhleidiol neu heb gysylltiad” ym mharagraff 3.6 protocol
Ceredigion (iii) bod y Cadeirydd yn cysylltu ag Un Llais Cymru ynghylch
y datganiad yn eu canllawiau mewn
perthynas â'r materion y mae'n rhaid eu hatgyfeirio
at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnwys “Cwynion blinderus, maleisus neu wamal”; gan
fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi bod yn dweud wrth
Gynghorau nad oedd am weld cynnydd yn y math hwn o achosion; (iv) bod y Swyddog
Monitro yn cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar y mater a godwyd yn (iii) |
|
Cofnodion: Canllawiau diwygiedig
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar y Cod Ymddygiad Dywedwyd bod Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau
dwy ddogfen Ganllawiau drafft newydd ar y Cod Ymddygiad ar gyfer
aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Cymuned/Tref ar 5ed Chwefror
2021. Roedd aelodau'r Pwyllgor wedi ymateb i'r
ymgynghoriad trwy sylwadau trwy e-bost a gweithdy a gynhaliwyd ar 4ydd Mawrth 2021. Rhannwyd y canllawiau drafft hefyd gydag
arweinwyr y grwpiau. Roedd y Cyngor wedi cyflwyno ymateb
i'r ymgynghoriad yn cynnwys sylwadau
gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau, Arweinwyr Grwpiau a'r Swyddog Monitro.
Mae'r canllawiau
terfynol ar y Cod Ymddygiad ar gyfer
aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Cymuned/Tref bellach wedi'u
cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhannwyd y canllawiau a'r crynodeb o'r newidiadau
gydag arweinwyr grwpiau, Cynghorwyr Sir a chlercod Cynghorau Tref a Chymuned. Ystyriwyd Crynodeb
o Adroddiad yr Ymgynghoriad ar Ganllawiau Diwygiedig ar God Ymddygiad Aelodau Llywodraeth Leol hefyd. CYTUNWYD i nodi'r canllawiau er gwybodaeth. |
|
Coflyfr Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cofnodion: Yng nghyfarfod
blaenorol y Pwyllgor, nodwyd bod Coflyfr 24 wedi'i gyhoeddi ar ôl cyhoeddi
adroddiadau’r agenda, ac y byddai'n
cael ei gynnwys
yn yr agenda hon. CYTUNWYD: (i) i nodi
coflyfr 24 er gwybodaeth; (ii) i nodi
pryder y Pwyllgor y dylai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod â chynigion
cryfach ar yr achosion y maent
yn eu hystyried;
gan fod nifer
yn argymhellion ac nid yn amodau;
hefyd dylai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fynd ar drywydd
yr argymhellion hyn e.e. a oedd
hyfforddiant wedi'i gwblhau (iii) y byddai'r
Fframwaith Moesegol yn cael ei
gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol
i'w ystyried |
|
Materion Swyddog Monitro - diweddariad Cofnodion: CYTUNWYD i nodi'r erthygl a gyflwynwyd er gwybodaeth. |
|
Diweddariad ar faterion Panel Dyfarnu Cymru Cofnodion: Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys
annibynnol sydd wedi'i sefydlu i benderfynu ar doriadau
honedig yn erbyn Cod Ymddygiad statudol awdurdod gan aelodau etholedig
a chyfetholedig Cynghorau
Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Chymuned, Awdurdodau Tân ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru. Wedi’i atodi
mae'r Adroddiad diweddar ar Benderfyniad
mewn perthynas â'r Cynghorydd David Poole,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Natur yr
honiad oedd torri paragraffau 6(1)(a), 7(a), 11(1) a 14(1)(a) Cod Ymddygiad
y Cyngor. Penderfyniad
y tribiwnlys oedd bod y Cynghorydd Poole wedi'i wahardd dros dro
am 5 mis. CYTUNWYD (i) i nodi'r
adroddiad er gwybodaeth; a (ii) i nodi bod holl faterion Panel Dyfarnu Cymru bellach yn cael eu cylchredeg i Arweinydd pob Plaid er gwybodaeth oherwydd eu cyfrifoldebau newydd y flwyddyn nesaf mewn perthynas â gofyniad safonau uchel Aelodau ei grŵp. |
|
Cofnodion: Er gwybodaeth,
cafwyd yr ystadegau canlynol gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ynghylch nifer y cwynion a gaewyd ynghylch cod ymddygiad Cyngor Sir
Ceredigion a nifer y cwynion
a gafwyd ynghylch Cynghorau Tref a Chymuned. CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
Hyfforddiant Cofnodion: Dywedwyd y canlynol:- • Roedd y Cadeirydd i fod i gael
adborth gan y Cynghorydd Hazel Thomas, Cadeirydd
Cyngor Cymuned Llanwenog ar yr hyfforddiant
a gawsant yn ddiweddar gan Mr Hywel Jones • Byddai'r ddau Aelod
Annibynnol newydd yn cael hyfforddiant
ddydd Llun • Y byddai Aelodau'r Cyngor Sir yn cael hyfforddiant
Diogelu Data/Cydraddoldeb a
thorri’r Cod Ymddygiad oherwydd y wybodaeth y gellid o bosibl ei rhoi ar
wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Byddai'r hyfforddiant hwn hefyd yn
cael ei gynnig
yn dilyn yr etholiad ym
mis Mai 2022 • Y gellid cynnwys y deunydd hyfforddi a roddir ar Ddiogelu
Data/Cydraddoldeb gydag unrhyw hyfforddiant Cod Ymddygiad yn y dyfodol ar gyfer
Cynghorau Tref a Chymuned • Disgwylid eglurhad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fyddai'r cyflwyniad a roddwyd ar hyfforddiant y Cod Ymddygiad yn dilyn
yr etholiadau yn 2017 yn cael
ei newid cyn yr hyfforddiant
ar y Cod Ymddygiad yn dilyn etholiadau
Mai 2022 • Y gallai holl Aelodau'r
Pwyllgor nawr roi hyfforddiant dwyieithog i Gynghorau Tref a Chymuned ar y Cod Ymddygiad gan fod gan
bob un ohonynt brofiad o roi hyfforddiant
• Y byddai'r sesiynau hyfforddi bellach yn cael eu trefnu gyda'r Pwyllgor i ystyried materion penodol o fewn yr agenda Moeseg a Safonau cyn cyfarfodydd ffurfiol y Pwyllgor Moeseg a Safonau. |
|
Blaenraglen Waith Moeseg a Safonau 2021/22 Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y'i cyflwynwyd
yn amodol ar y canlynol:- (i) bod manyleb
y swydd ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor yn cael
ei hystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Hydref, cytunwyd
y byddai'r rhain hefyd yn cael
eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf
i'w hystyried; (ii) yr angen i newid dyddiad
y cyfarfod nesaf o 11 Hydref 2021 i ddyddiad ym mis Tachwedd
2021; (iii) bod Arweinwyr y Pleidiau yn mynychu'r
cyfarfod ym mis Ionawr 2022 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am eu dulliau o hybu a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad gan aelodau eu
grwpiau; a (iv) bod Fforwm
Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cael
ei roi fel
eitem sefydlog ar yr agenda, roedd
disgwyl i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal
ym mis Tachwedd
2021. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Fe wnaeth y Cadeirydd gyfleu diolch y Pwyllgor i Mr Hywel Wyn Jones a Mr Rif Winfield am eu cyfraniad at waith y Pwyllgor Moeseg a Safonau ers eu penodi. Diolchodd y ddau i'r Pwyllgor a'r Swyddogion am eu gwaith a'u cymorth yn ystod eu cyfnod yn eu swyddi. |